Print preview Close

Showing 60 results

Archival description
Llawysgrifau S.R. a J.R. File
Print preview View:

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Deg llyfryn, [1870au] (un gyda dyfrnod 1874), yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Ten booklets, [1870s] (one watermark 1874), containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Pum llyfryn, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Five booklets, [1870s], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau

Tri llyfryn yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Samuel Roberts (S.R.), [1844], John Roberts (J.R.), [1868], a Gruffydd Rhisiart, [1879]. = Three booklets containing sermon notes by Samuel Roberts (S.R.), [1844], John Roberts (J.R.), [1868], and Gruffydd Rhisiart, [1879].

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Cyfrol, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = A volume, [1870s], containing sermon notes in the hand of Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Cyfrol, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = A volume, [1870s], containing sermon notes in the hand of Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Llythyrau at S.R.

Tri deg-pump llythyr, 1823-1860, y rhan fwyaf at Samuel Roberts oddiwrth teulu a ffrindiau. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Richard Griffith, Drenewydd a Llangollen, 1858-1860 (ff. 14-37), John R. Jones, Ohio, 1857-1858 (ff. 38-43), William Jones, Ohio, 1858-1859 (ff. 47-52), George Roberts, Ebensburg, 1850 (ff. 60-61), a William Williamson, Maes-Glas, 1826-1833 (ff. 70-75). = Thirty-seven letters, 1823-1860, mostly addressed to Samuel Roberts from family and friends. The correspondents include Richard Griffith, Newtown and Llangollen, 1858-1860 (ff. 14-37), John R. Jones, Ohio, 1857-1858 (ff. 38-43), William Jones, Ohio, 1858-1859 (ff. 47-52), George Roberts, Ebensburg, 1850 (ff. 60-61), and William Williamson, Greenfield, 1826-1833 (ff. 70-75).
Mae rhai llythyrau yn cynnwys atebion drafft gan S.R. Mae ambell un yn cynnwys copïau [gan S.R.?] o lythyrau (dyddiedig 1831-1834) gan ei dad, John (ff. 2 verso, 59 verso, 69 recto-verso, 73 recto-verso, 75 recto-verso). Mae'n debyg i rhain gael eu copïo ar gyfer llyfr S.R., Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair (Llanelli, 1837) sydd yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg o'r rhan fwyaf ohonynt. = Some of the letters include draft replies by S.R. A few contain copies [by S.R.?] of letters (dated 1831-1834) by his father, John (ff. 2 verso, 59 verso, 69 recto-verso, 73 recto-verso, 75 recto-verso). These were probably copied in preperation for S.R.'s Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair (Llanelli, 1837) which includes Welsh translations of most of them.

Griffith, Richard, b. 1833 or 4.

Dyddiadur S.R.

Almanac a Dyddiadur am y flwyddyn 1843, gol. gan Josiah Thomas Jones, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn Saesneg (tt. 17-69) yn nodi manylion pregethau, enwau gohebwyr a gwaith golygu Y Cronicl. = Almanac a Dyddiadur am y flwyddyn 1843, ed. by Josiah Thomas Jones, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries in English (pp. 17-69) recording preaching and other engagements, names of correspondents and the editing of Y Cronicl.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1846, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55) yn nodi manylion pregethau ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1846, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries, mostly in English (pp. 3-55), including preaching engagements and names of correspondents.
Mae eitemau rhydd (5 ff.) wedi eu tipio i mewn ar ddiwedd y gyfrol. = Loose items (5 ff.) have been tipped in at the end.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1849, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55) yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1849, ed by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries mostly in English (pp. 3-55) including sermons preached, other engagements, editing work and names of correspondents.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Eglwysi Cynnulleidfaol Cymreig yn Unol Daleithiau America, am 1857, gol. gan Iorthryn Gwynedd, o eiddo i Samuel Roberts o Lanbrynmair a Tennessee, yn cynnwys cofnodion cryno, yn bennaf yn Saesneg (tt. 2, 6-57; ff. 4-30), yn nodi manylion pregethau, gwaith ysgrifennu a golygu, enwau gohebwyr a'r tywydd. = Dyddiadur yr Eglwysi Cynnulleidfaol Cymreig yn Unol Daleithiau America, am 1857, ed. by Iorthryn Gwynedd, belonging to Samuel Roberts of Llanbrynmair and Tennessee, containing brief entries, mostly in English (pp. 2, 6-57; ff. 4-30), recording sermons, writing and editing work, names of correspondents and the weather.
Mae'n cofnodi ei ymadawiad a Chymru (t. 22), y fordaith i America a'r siwrne i Tennessee (tt. 23-29), yn ogystal a'i daith pregethu deg wythnos i Washington, Efrog Newydd, a mannau eraill (tt. 39-49), pan gyfarfu a'r Arlywydd Buchanan yn y Ty Gwyn, 31 Awst (t. 40). = He records his departure from Wales (p. 22), the voyage to America and journey to Tennessee (pp. 23-29) as well as a ten week preaching tour to Washington, New York and elsewhere (pp. 39-49), during which he met President Buchanan at the White House, 31 August (p. 40).

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur y Trefnyddion Calfinaidd yn y Taleithiau Unedig a Chymru, am 1864, gol. gan D. C. Evans, o eiddo i Samuel Roberts, Scott County, Tennessee, yn cynnwys cofnodion cryno ar gyfer 1864 (tt. 7-57), yng Nghymraeg a Saesneg, yn nodi effeithiau a pheryglon parhaol y Rhyfel Cartref (tt. 8-34 passim) yn ogystal ag enwau gohebwyr, manylion gwaith ysgrifennu, gwaith fferm a'r tywydd. = Dyddiadur y Trefnyddion Calfinaidd yn y Taleithiau Unedig a Chymru, am 1864, ed. by D. C. Evans, belonging to Samuel Roberts of Scott County, Tennessee, containing brief entries for 1864 (pp. 7-57), in Welsh and English, recording the continuing effects and dangers of the Civil War (pp. 8-34 passim) as well as names of correspondents, writing and farm work and the weather.
Mae yna fwlch sylweddol (tt. 44-51) yn cyfateb i'w salwch difrifol o ddiwedd Medi i ganol Tachwedd; digwyddodd hyn yn ystod taith pregethu i nifer o daleithiau Gogleddol. Mae yna nodiadau amrywiol tu mewn i'r cloriau ac ar tt. i-ii. = Contains a large gap (pp. 44-51) corresponding to his serious illness from late September to mid November; this occurred during a preaching tour of several Northern states. There are various notes inside the covers and on pp. i-ii.

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Annibynol am 1883, gol. gan D. Evans a D. Stanley Davies, o eiddo Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Ngymraeg a Saesneg (tt. 9-61). = Y Dyddiadur Annibynol am 1883, ed. by D. Evans and D. Stanley Davies, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 9-61).
Cofnodir marwolaeth Gruffydd Rhisiart ar 25 Gorffennaf (t. 38). Ceir hefyd nodiadau a chofnodion (tt. ii, 145-153, 155, 172-175 a tu mewn i'r clawr cefn). = The death of Gruffydd Rhisiart is recorded on 25 July (p. 38). There are also notes and memoranda (pp. ii, 145-153, 155, 172-175 and inside back cover).

Llyfr casglu Eglwys Annibynol Carno

Llyfr casglu swyddogol, 1828 (dyfrnod 1824), a ddefnyddiwyd gan Samuel Roberts ar gyfer casglu arian i Eglwys Annibynol Carno, sir Drefaldwyn (ff. 1-13). = An official collecting book, 1828 (watermark 1824), used by Samuel Roberts to collect money for Carno Congregational Church, Montgomeryshire (ff. 1-13).
Ceir hefyd llythyr ddrafft, 12 Hydref 1841, oddiwrth S.R. i David Jones ynghlyn a sefydlu ysgol Sul yn Bont Dolgadfan (ff. 15 verso-17). = Also contains a draft letter, 12 October 1841, from S.R. to David Jones concerning establishing a school room in Bont Dolgadfan (ff. 15 verso-17).

Llyfr casglu Llundain

Llyfr casglu Apel y Capeli Annibynol Cymreig (dyfrnod 1830), yn bennaf yn llaw y Parch. John Saunders, gyda manylion casgliadau yn Llundain, Chwefror-Mai 1835 (ff. 1 verso-19 verso). = A Welsh Congregational Churches Appeal Fund collecting book (watermark 1830), mainly in the hand of the Rev. John Saunders, containing details of collections in London, February-May 1835 (ff. 1 verso-19 verso).
Mae nodyn gan Samuel Roberts mewn perthynas a landlordiaeth yn Llanbrynmair ar ff. 75 verso-76 (testun â'i wyneb i waered). = A note by Samuel Roberts concerning landlordism in Llanbrynmair is on ff. 75 verso-76 (inverted text).

Saunders, John, 1796-1871.

Llyfr casglu Athrofa Aberhonddu

Llyfr casglu Samuel Roberts, 1838, ar gyfer apêl i godi arian i sefydlu athrofa Annibynol yn Aberhonddu, gyda manylion casgliadau yng Nghymru a Sir Gaerhirfryn (ff. 2-14, 53 verso). = Collecting book of Samuel Roberts, 1838, for an appeal for funds to establish a Welsh Congregational Academy at Brecon, with details of subscriptions in Wales and in Lancashire (ff. 2-14, 53 verso).

Llyfrau archebion

Dwy gyfrol, [1864]-[1865], yn llaw T. J. Griffiths, argraffwr, gydag ychwanegiadau gan Samuel Roberts, yn cynnwys rhestr o archebion ar gyfer Samuel Roberts, Pregethau a Darlithiau (Utica, E.N., 1865). = Two volumes, [1864]-[1865], in the hand of T. J. Griffiths, printer, with additions by Samuel Roberts, containing a list of orders for Samuel Roberts, Pregethau a Darlithiau (Utica, N.Y., 1865).

Griffiths, Thomas J., 1835-1924

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Pymtheg llyfryn, [1872x1880], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Fifteen booklets, [1872x1880], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Mae un llyfryn yn cynnwys dau gydiad rhydd y tu mewn i gloriau lledr, ynghyd a rhestr mannau pregethu Gruffydd Rhisiart am 1880. = One booklet consists of two loose gatherings inside leather covers, together with a list of Gruffydd Rhisiart's preaching engagements for 1880.

Pregethau J.R.

Tri llyfryn, [19 gan., trydydd ¼], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw John Roberts (J.R.). = Three booklets, [18 cent., third ¼], containing sermon notes by John Roberts (J.R.).

Cynal Breichiau; Y Diwedd

Dwy bregeth yn llaw John Roberts (J.R.), [1873x1874], yn dwyn y teitlau 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) ac 'Y Diwedd' (ff. 12-17). = Two sermons in the hand of John Roberts (J.R.), [1873x1874], entitled 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) and 'Y Diwedd' (ff. 12-17).

Yr hyn y mae J.R. yn gofio

'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], llawysgrif anghyflawn (penodau 3-6) gan John Roberts (J.R.) yn adrodd hanesion am Annibyniaeth ei oes (ff. 1-20, rectos yn unig). = 'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], an incomplete manuscript (chapters 3-6) by John Roberts (J.R.) relating events in recent Welsh Congregational history (ff. 1-20, rectos only).
Ysgrifenwyd ar gefn amryw lythyrau (at S.R. a J.R.), cylchlythyrau a phosteri, 1867-1884 (ff. 1-20, versos yn unig). = It is written on the reverse of miscellaneous letters (to S.R. and J.R.), circulars and posters, 1867-1884 (ff. 1-20, versos only).

Results 21 to 40 of 60