Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 146 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Iorwerth C. Peate,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau

Dau lythyr, 1926, ynglŷn â thraethawd ymchwil Nansi Peate; ynghyd â thystysgrifau treth, 1983. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys dau lythyr, 1927-1928, wedi'u cyfeirio at Mr Davies, tad Nansi Peate o bosib.

Llythyrau

Llythyrau, 1890-1933, at George H. Peate, yn eu plith rhai gan David Adams; Richard Bennett (6); Beriah Gwynfe Evans; D. Emlyn Evans; Owen Evans (9); Thomas Gee (2, mae un yn lythyr cydymdeimlad ar achlysur marwolaeth David Peate); W. Goscombe John (3); J. R. Jones (Lima, Ohio); Thomas H. Jones (Lima, Ohio) (9); J. E. Lloyd (2); T. Talwyn Phillips (11); Eifionydd (5); a Rowland Williams (Hwfa Môn). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys toriad o deyrnged i George H. Peate, cerdyn yn diolch i bobl ar ran y teulu am eu cydymdeimlad, 1938, a rhestr deipysgrif o'r rhai i anfon atynt.

Adams, D. (David), 1845-1923

Llythyrau

Llythyrau, 1903-1982, a anfonwyd at Iorwerth Peate. Maent yn cynnwys llythyrau personol, rhai yn ymwneud â'i fywyd proffesiynol a diwylliant gwerin, llenyddiaeth, a'i ddiddordebau eraill, megis yr iaith Gymraeg. Yn eu plith ceir ambell lythyr, neu ddrafft o lythyr, gan Iorwerth Peate.

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau Iorwerth Peate, [1917-1948] (1921-1922 yn bennaf). Ymddengys fod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u creu pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac maent yn ymwneud â phynciau megis llenyddiaeth Gymraeg, daearyddiaeth, y gyfraith, a hanes. Ceir hefyd llyfr 'Daily Gleanings From the World's Treasures' a gasglwyd ynghyd ganddo, a chyfrol 'Field surveys'. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau arholiad, 1919-1923; a phapurau amrywiol, 1917-1923, yn eu plith llawysgrif o'r bryddest 'Y Briffordd' ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1921, a'r soned 'Y diweddar Syr O. M. Edwards', ynghyd â nodiadau ar gyfer dosbarthiadau allanol, 1926-1927.

Llyfrau nodiadau

Cyfrolau a phapurau rhydd, [1915-1930], yn perthyn i Nansi Peate. Maent yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth Gymraeg.

Llyfrau lloffion

Tri llyfr lloffion yn cynnwys torion printiedig yn bennaf, 1860-1937, y mwyafrif ohonynt yn ymwneud ag ardal Llanbrynmair. Mae rhai o'r torion yn cyfeirio at aelodau'r teulu, yn cynnwys Iorwerth Peate, ac mae sawl cerdd ganddo yn eu plith. Ymddengys mai George H. Peate sydd wedi casglu'r torion ynghyd yn y cyfrolau. Mae nifer o'r papurau'n rhydd.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau David Peate, 1880, yn cynnwys 'Petheu a glywais gan Evan Lewis Pendemtir o hen hanes'; adroddiad o'r Dysgedydd, 1841, am farwolaeth ei dad, Edward Peat; hanes ei ymweliad â Llundain, 1889; 'Ychydig fanylion am Bryniad Glanllyn', 1896; hanes marwolaeth David Peate gan ei fab George H. Peate; a 'Dyfyniadau o Ddyddlyfrau David Peate', 1847-1896.

Peate, George H. (George Howard), 1869-1938

Gwrthwynebydd cydwybodol

Llythyrau, 1955 a 1957, yn ymwneud â chais Dafydd Peate i gofrestru fel Gwrthwynebydd Cydwybodol yn erbyn gwasanaeth filwrol. Yn eu plith ceir llythyrau gan George Thomas (3), Walter Monckton (3), Raymond Gower, ac Iain Macleod. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys copïau o ddatganiad Dafydd Peate, 1954, i'r tribiwnlys; ac adroddiad am yr achos yn y wasg, 1955.

Thomas, George, 1909-1997

Gwlân

Deunydd printiedig, 1909, 1937 a 1940, yn ymwneud â'r diwydiant wlân, yn cynnwys H. Ling Roth, Hand Woolcombing (1909); ac E. Kilburn Scott, 'The Shrinking of Woollens' (1937).

Gweisg preifat

Papurau printiedig, 1928-1962, sef prosbectysau, 1929-1940, ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan Wasg Gregynog yn bennaf. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys prosbectws yn disgrifio amcanion a rhaglen y Tintern Press, ynghyd â llythyr gan Vincent Graham Stuart, 1935; prosbectws ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan y Raven Press, 1931; a phrintiau amrywiol.

Stuart, Vincent Graham.

Gwahanglwyf

Llythyrau a thorion o'r wasg, 1974, yn eu plith rhai oddi wrth George C. Boon (2); O. A. W. Dilke; a Don R. Brothwell. Yn ogystal ceir erthygl gan Iorwerth Peate, 'The antiquity of leprosy in Wales', ynghyd â llungopïau o ddwy erthygl arall ar y testun.

Boon, George C.

Guide to the collection of Welsh bygones

Papurau, 1929, yn ymwneud â Guide to the collection of Welsh bygones (Caerdydd, 1929), yn cynnwys llythyrau yn bennaf, yn eu plith rhai gan John Ballinger, ac F. Wynn Jones (2); ynghyd ag adolygiad o'r gyfrol.

Ballinger, John, 1860-1933

Gradd D.Sc.

Llythyrau, 1941, yn llongyfarch Iorwerth Peate ar dderbyn gradd D.Sc. gan Brifysgol Cymru. Yn eu plith ceir llythyrau gan Arthur ap Gwynn; W. Ambrose Bebb; E. G. Bowen; Alun Oldfield Davies; Aneirin Talfan Davies; D. Tegfan Davies; J. Kyrle Fletcher; H. J. Fleure; Cyril Fox; D. R. Hughes; R. T. Jenkins; E. K. Jones; Frank Price Jones; Gerallt Jones; Gwyn Jones; John Tysul Jones; John ac Elena Puw Morgan; T. E. Nicholas; Tom Parry; Prosser Rhys; Alf Sommerfelt; J. B. Willans; Ifor Williams; a J. L. C. Cecil-Williams.

Arthur ap Gwynn, 1902-1987

Gradd D.Litt.

Llythyrau a phapurau amrywiol, 1970, ar achlysur cyflwyno gradd Doethur mewn Llen, er Anrhydedd, i Iorwerth Peate gan Brifysgol Cymru. Ceir llythyrau gan F. Llewellyn-Jones; J. Gareth Thomas (2); E. G. Bowen; Alun R. Edwards; Sandy Fenton; A. Norman Jeffares; David Jenkins; Frank Price Jones; Hywel D. Lewis; T. A. Owen; Griffith Quick; a Glanmor Williams; ynghyd â chyflwyniad yr Athro T. J. Morgan iddo.

Jones, Frank Llewellyn-, b. 1907

Glamorgan county history

Agenda, cofnodion a phapurau perthnasol, 1972-1982, yn ymwneud â chyfarfodydd Pwyllgor Gwaith Glamorgan County History (The Glamorgan County History Trust Limited yn ddiweddarach).

George H. Peate

Papurau yn ymwneud â George H. Peate yn bennaf, 1860-1938 a 1949, gan gynnwys ei ddyddiadur, tystlythyrau iddo, llyfrau nodiadau, llythyrau ato, llyfr cyfrifon Cymdeithas Lenyddol Llanbrynmair, 1890-1904, cyfraniadau aelodau o'r Loyal Brynmair Lodge, 1906-1907, a thri llyfr lloffion yn ymwneud ag ardal Llanbrynmair.

Peate, George H. (George Howard), 1869-1938

Gefeiliau cŵn (Dog tongs)

Adysgrif, [1930x1940], o'r rhestr gefeiliau cŵn a gyhoeddwyd yn The Relinquary, 1897, ynghyd â chopi printiedig o ddarlith W. E. T. Morgan, 'Dog doors in churches and dog tongs', a gyhoeddwyd yn 1931. Yn ogystal, ceir nodiadau teipysgrif, [1930x1940], 'Tread-mill churns worked by dogs', sef adroddiadau o'r Liverpool Courier, 1901.

Erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg

Teipysgrifau, copïau printiedig a llawysgrif, 1921-[1980], o erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg gan Iorwerth Peate, yn cynnwys torion a gohebiaeth, 1942-1948, yn ymwneud â'i golofn yn Y Cymro, 'Cymru Heddiw' gan 'Gwerinwr'. Ymhlith y testunau ceir trafodaethau am yr iaith Gymraeg, hanes Cymru, diwylliant gwerin, y celfyddydau, llenyddiaeth, addysg, diwinyddiaeth, ac unigolion, yn cynnwys teyrngedau i Melville Richards, O. T. Jones, Åke Campbell, Calum Maclean, H. J. Fleure, a George M. Ll. Davies. Mae'n bosib fod rhai ohonynt yn anerchiadau neu sgyrsiau radio.

Erthyglau a llythyrau i'r wasg

Copi o The Courier/Llais y Lli, 1954, yn cynnwys erthygl gan Dafydd Peate, 'A Ddylai Cymru Gael Hunan-Lywodraeth?'. Yn ogystal, ceir adroddiad ganddo yng nghylchlythyr BBC Cymru, 1977, o daith ffilmio yng Nghanada; toriad papur newydd, [?1954], gyda llythyr gan Dafydd Peate ynglŷn â'r Blaid Lafur ac Aberdâr; a chopi o gylchlythyr BBC Cymru, 1979, yn cynnwys 'Llythyr agored at Fwrdd Cyfarwyddo BBC Cymru'.

Canlyniadau 61 i 80 o 146