Print preview Close

Showing 132 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Iorwerth C. Peate, file
Print preview View:

Swydd Curadur Amgueddfa Werin Cymru

Ceisiadau am swydd Curadur, 1970, yn cynnwys tystlythyrau. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o'r cynigion a basiwyd gan Lys a Chyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â thysteb i Iorwerth Peate ar ei ymddeoliad.

Eisteddfod Aberteifi

Gohebiaeth, 1942, rhwng Iorwerth Peate a Cyril Fox yn bennaf, yn ymwneud â gwahoddiad i Iorwerth Peate annerch yn ystod agoriad Arddangosfa Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi. Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad ar y mater gan Iorwerth Peate.

Fox, Cyril, Sir, 1882-1967

Anifeiliaid

Gohebiaeth a nodiadau, 1965, 1967-1968 a 1970, yn ymwneud ag anifeiliaid, yn bennaf yr arfer o gadw penglog ceffyl, ac esgyrn anifeiliaid eraill, mewn adeiladau. Yn eu plith mae llythyrau gan Gomer M. Roberts (2), a J. D. K. Lloyd (2), ac yn ogystal ceir nodyn ynglŷn ag ymladd ceiliogod.

Roberts, Gomer Morgan

Mari Lwyd

Llythyrau, torion o'r wasg a nodiadau, 1919 (copi o lythyr) a 1930-1939, ynglŷn â thraddodiad y Fari Lwyd. Yn eu plith ceir llythyr gan John Ballinger, a geiriau ar gyfer cân y Fari Lwyd.

Ballinger, John, 1860-1933

Offerynnau cerdd

Llythyr a nodiadau teipysgrif gan Lyndesay G. Langwill, 1941-1944 a 1952, yn rhestru gwneuthurwyr offerynnau gwynt a phres. Yn ogystal, ceir gohebiaeth a nodiadau, 1963-1965, yn ymwneud â thelynau, yn cynnwys llythyrau gan Joan Rimmer a Peter Thornton, a rhestr 'Telynau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru', [1930x1950].

Langwill, Lyndesay Graham, 1897-

Turnio (wood-turning)

Llythyrau, 1925-1928, a anfonwyd at William Rees, Henllan, sir Aberteifi, turniwr coed. Yn ogystal, ceir bwndel o ohebiaeth, 1938, rhwng William Rees ac Iorwerth Peate ynglŷn â chyfraniad William Rees i sgwrs radio am grefft y turniwr coed; ynghyd ag ymateb i'r rhaglen, a cherdyn yn nodi rhestr brisiau cwmni Brodyr Davies, Abercych.

Amryw

Gohebiaeth, torion o'r wasg a nodiadau yn bennaf, 1929-1941 a 1973, yn ymwneud ag amryw o destunau. Yn eu plith mae'r torion 'Llen Gwerin Morgannwg. Marw, angladdau a chladdu', 1929, a 'Clapio a hel wyau'r Pasg', 1931; llythyr, 1934, yn trafod arferion claddu; a sgript ar gyfer sgwrs radio gan Gomer M. Roberts am 'Hen arferion Llandebie', 1937. Yn ogystal, ceir llythyrau, 1929-1931, ynglŷn â llongau; llythyr, 1933, gan Thomas Parry, ynghyd ag adysgrif ganddo o'r gerdd 'Rhybudd i ferched a meibion beidio priodi yn ddi-olud'; teipysgrif 'Lliwio'; torion, 1930, am 'Y Cryman Medi'; catalog yn dangos gwaith D. J. Williams, Gwaith Haearn Brunswick, Caernarfon; a thoriad o deyrnged Bedwyr Lewis Jones i Melville Richards, 1973.

Roberts, Gomer Morgan

British Association for the Advancement of Science

Papurau, 1974-1982, yn ymwneud â Phwyllgor Adran H (Anthropoleg) British Association for the Advancement of Science, yn cynnwys cofnodion, rhestri aelodau'r pwyllgor adrannol, a llythyrau gan yr Ysgrifennydd Gwyn I. Meirion-Jones (18). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif o anerchiad llywyddol Iorwerth Peate, 'The study of folk life and its part in the defence of civilization', 1958.

Meirion-Jones, Gwyn I.

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau Iorwerth Peate, [1917-1948] (1921-1922 yn bennaf). Ymddengys fod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u creu pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac maent yn ymwneud â phynciau megis llenyddiaeth Gymraeg, daearyddiaeth, y gyfraith, a hanes. Ceir hefyd llyfr 'Daily Gleanings From the World's Treasures' a gasglwyd ynghyd ganddo, a chyfrol 'Field surveys'. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau arholiad, 1919-1923; a phapurau amrywiol, 1917-1923, yn eu plith llawysgrif o'r bryddest 'Y Briffordd' ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1921, a'r soned 'Y diweddar Syr O. M. Edwards', ynghyd â nodiadau ar gyfer dosbarthiadau allanol, 1926-1927.

Dyddiadur : 1890

Y Dyddiadur Annibynol a dyddiadur heb gloriau, 1890. Mae'r olaf yn anghyflawn; nid oes cofnodion dyddiadur, ond mae'n cynnwys cyfeiriad Morris Peate yn Iowa.

Results 1 to 20 of 132