Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 167 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. J. Williams, Abergwaun ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

The Old Farmhouse

Llawysgrif cyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Ffarm (Aberystwyth, 1953) a gomisiynwyd gan UNESCO; proflenni tudalen wedi'u cywiro a nodiadau i'r teipydd; gohebiaeth, 1960-1961, yn ymwneud â chyhoeddi The old farmhouse yn 1960, gan gynnwys llythyrau oddi wrth y cyhoeddwyr George G. Harrap, Llundain, a breindaliadau am y chwech mis cyntaf, 1962; llythyrau oddi wrth Gwasg Gomer, 1960-1961; llythyrau oddi wrth Syr Ben [Bowen Thomas], 1960; ynghyd ag adolygiadau o'r gyfrol, 1962.

Williams, Waldo, 1904-1971

Barddoniaeth Waldo Williams

'Cywydd Waldo i'r Bwm Beili' (pan ddaeth i'w dŷ i gyrchu ei eiddo yn Haf 1955); llyfr nodiadau'n cynnwys drafft o awdl 'Tŷ Ddewi' gan Waldo Williams y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936; ynghyd â'r [cywydd mawl a ysgrifennodd i D. J. Williams adeg ei anrhegu yn Ysgol Haf Plaid Cymru, Abergwaun, Awst 1964] yn ei law.

Williams, Waldo, 1904-1971

Llythyrau at W. Anthony Davies

Dau ddeg tri llythyr, 1948-1957, a ysgrifennwyd gan D. J. Williams at W. Anthony Davies ('Llygad Llwchwr'), yn ymateb i'w erthyglau yng ngholofn 'Welsh Gossip' y News Chronicle, a'i adolygiadau o weithiau D. J. Williams yn y wasg. Fe'u dychwelwyd hwy ato gan ei weddw Irene Davies, [1962].

Llythyrau Jones (H-J)

Llythyrau, 1913-1969. Ymhlith y gohebwyr mae H. R. Jones (9), Harri Pritchard Jones (3), Idwal Jones (9), Iorwerth Hughes Jones (3), J. E. Jones (98), J. R. Jones (2), J. T. Jones [John Eilian] (3), J. Tysul Jones (8) a J. Tywi Jones (1).

Jones, H. R. (Hugh Robert), 1894-1930

Llythyrau R (R-Richards)

Llythyrau, 1926-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Alwyn D. Rees (9), Chris [Rees] (1), Ioan Bowen Rees (3), [J.] Seymour [Rees] (1), Prosser Rhys (14), Keidrych Rhys (5), Brinley Richards (2) a Leslie Richards (3).

Rees, Alwyn D.

Llythyrau T-V

Llythyrau, 1914-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Syr Ben Bowen Thomas (53), D. Vaughan Thomas (1), Dan Thomas (7), David Thomas (3), Gwyn Thomas (3), J. M. Lloyd Thomas (2), Gwilym R. Tilsley (1) a Gwilym Tudur (1).

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Canlyniadau 1 i 20 o 167