Print preview Close

Showing 167 results

Archival description
Papurau D. J. Williams, Abergwaun file
Print preview View:

Cymrodorion Abergwaun

Papurau, 1913-1964, gan gynnwys tocynnau aelodaeth a rhaglenni'r Gymdeithas, cofnodion a chyfrifon ariannol, 1920-1929, a phoster o gyngerdd 'Cyflwyno'r Delyn', 1949, yn Abergwaun.

Cymdeithas Cymmrodorion Abergwaun

Llythyrau Penyberth

Llythyrau, [1936]-[1937], yn ymwneud â'r cyfnod yn dilyn Llosgi'r Ysgol Fomio, gan gynnwys llythyr, [1936], oddi wrth D. J. Williams at Siân Williams ac aelodau eraill o'r teulu a ysgrifennwyd yn fuan wedi'r weithred yn trafod y cyhuddiad yn ei erbyn sef 'arson of the King's property'; llythyrau oddi wrth bobl anhysbys; a chopi o lythyr a dderbyniodd Bob Owen, Croesor, oddi wrth Lywydd Clwb y Dynion Cymraeg yn Seattle, UDA, yn dangos eu cefnogaeth i'r weithred hon.

Llosgi'r Ysgol Fomio

Papurau, 1936-1939, yn ymwneud â llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, gan gynnwys neges Saunders Lewis yn ei law 'Cofiwch y cysur a geisiais ei roi i chwi amser cinio'; copi o lythyr D. J. Williams, 1936, at lywodraethwyr Ysgol Sir Abergwaun, yn gwneud cais am gael dychwelyd i'w swydd fel athro; torion o'r wasg gan gynnwys 'Request for Assistant Master's reinstatement'; anerchiad a baratowyd gan Victor Hampton Jones ar gyfer y prawf yn yr Old Bailey yn 1937; 'The story of the burning' gan Saunders Lewis (ceir copi drafft o'r adroddiad hwn yn llawysgrif LlGC 23078C); argraffiadau D. J. Williams wedi iddo gael ei ryddhau o Garchar Wormwood Scrubs, [1937]; a thorion o'r wasg, 1939, yn ymwneud â gwrthwynebiad un o lywodraethwyr Ysgol Sir Abergwaun i'w weithgareddau gwleidyddol.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Llythyrau o'r carchar

Pump llythyr, [1937], oddi wrth D. J. Williams wedi'u hysgrifennu ar bapur swyddogol Wormwood Scrubs, tri ohonynt at ei wraig Siân, un llythyr at yr Athro [John] Hughes, [Montreal] a'r llall, ei lythyr olaf o'r carchar, at Joseph Jones, Prifathro Ysgol Sir Abergwaun ar y pryd. Dychwelwyd y llythyr hwn ato yn 1967 gan weddw'r prifathro. Ceir hefyd ddeunaw llythyr a ysgrifennodd Siân Williams at ei phriod adeg ei garchariad.

Llyfr cofnodion

Llyfr cofnodion Pwyllgor Rhanbarth Dyfed o'r Blaid Genedlaethol, 1938-1945, ynghyd â chofnodion ar gyfer Cangen Abergwaun.

Plaid Cymru. Rhanbarth Dyfed

Llyfr aelodaeth

Llyfr yn cofnodi enwau aelodau Cangen Abergwaun o'r Blaid Genedlaethol a'u tanysgrifiadau misol, 1946-1953, ynghyd â nodyn ychwanegol gan D. J. Williams, 1957.

Plaid Cymru. Cangen Abergwaun

Llyfr aelodaeth

Llyfr yn cofnodi enwau aelodau Cangen Abergwaun o'r Blaid Genedlaethol a'u tanysgrifiadau misol, ynghyd â phapurau rhydd, [1957]-1962.

Plaid Cymru. Cangen Abergwaun

Effemera gwleidyddol

Papurau, 1922-1965, gan gynnwys taflen etholiadol William James Jenkins, ymgeisydd Llafur yn Etholiad Cyffredinol 1924; erthyglau printiedig, 1922-1924, yn allweddol i hanes cychwyn Plaid Genedlaethol Cymru; papurau'n ymwneud â materion ariannol fel Cronfa Gwŷl Dewi a chyfraniadau Penfro; agendâu pwyllgor gwaith Rhanbarth Dyfed, 1938-1939; rhestr o'r Ysgolion Haf a gynhaliwyd, 1926-1955, a nodiadau am flynyddoedd cynnar Y Blaid Genedlaethol; llythyr, 1959, yn enw D. J. Williams yn apelio am gyfraniadau at gronfa Waldo Williams fel ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro'r flwyddyn honno a'i daflen etholiadol; copïau o gofrestr etholwyr Abergwaun, 1966, rhestr o aelodau'r Blaid Cangen Sir Benfro a rheolau'r etholiad; trefniadau adloniant yn Abergwaun i godi arian i'r Blaid; 'Llyfr canu Ysgol Haf y Blaid Genedlaethol 1933, Blaenau Ffestiniog', ynghyd â phapur a roddwyd gan J. E. Jones gyda'r teitl 'The present situation in Wales and the progress and task of the Welsh National Movement' mewn cyngres FUEN (Undeb Ffederal y Cenhedloedd Ewropeaidd) yn Leeuwarden, Yr Iseldiroedd.

Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970

Dosbarthiadau Cymraeg yn Abergwaun

Dau lyfr nodiadau, 1920-1921, a 1946-1947, yn ymwneud â dosbarthiadau Cymraeg a gynhaliwyd dan nawdd Prifysgol Cymru yno, ynghyd â thair gwers yn cynnwys ymarferion a luniwyd gan D. J. Williams ar sut i ysgrifennu stori fer ar gyfer Coleg Glyndŵr, Caerdydd, 1949 [coleg yn dilyn cyrsiau drwy gyfrwng gohebiaeth].

Anerchiadau

Anerchiadau: 'Breuddwydio' a draddodwyd i Gymdeithas y Cymrodorion Bryste, 1924; 'The Welsh Ideal and the League of Nations' ac 'A ellir gwahanu crefydd oddiwrth wleidydiaeth', [1920]-[1961]; a phwyntiau ar gyfer anerchiadau gan gynnwys 'Diwylliant Sir Gaerfyrddin' i Aelwydydd yr Urdd yn y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn, 1949; 'Tri Syr Rhys o'r Cantref Mawr', 1955, Cymdeithas y Cymrodorion, Llundain, 1955, a Chaerdydd, 1956; a 'Cenedlaetholdeb yr Iddew' ar gyfer Cymanfa Dair Sirol yr Annibynwyr, 1958.

Pregethau

Pregethau unigol a rhai mewn llyfrau nodiadau heb eu dyddio [ond credir eu bod yn deillio o'r flwyddyn 1913 pan oedd D. J. Williams yn ei drydedd flwyddyn yn y Brifysgol yn Aberystwyth a bu'n sefyll arholiad i bregethwyr lleyg], un ohonynt yn nodi lle bu'n pregethu, 1913-1914, ynghyd â llyfr nodiadau'n cynnwys pwyntiau a wnaed mewn Ysgol Haf yr [Ysgol Sul] yn Llanwrtyd, 1920.

Storïau'r Tir Du

Drafftiau llawysgrif o'r storïau a gyhoeddwyd yn Storïau'r Tir Du yn 1949: 'Y gorlan glyd', 1948; 'Colbo Jones yn ymuno â'r fyddin', 1941, gyda llythyr oddi wrth Tom Parry, 1941, yn ei gwrthod am ei bod yn rhy hir, a llythyr oddi wrth T. Rowland Hughes, 1941, yn ei gwrthod am yr un rheswm; 'Y Capten a'r Genhadaeth Dramor' (teipysgrif), 1943; a 'Ceinwen', 1949. Ceir 'Meca'r Genedl' mewn rhifyn o'r Fflam, Nadolig 1946, wedi'i diwygio; ynghyd ag adolygiadau o'r gyfrol, 1950.

Hughes, Thomas Rowland

Storïau byrion

'Y Gaseg ddu' a gyhoeddwyd yn Cymru, 1916; 'Cadw'r mis', Cymru, 1918, gyda dwy erthygl 'John Jones', The Welsh Outlook, 1921, a 'Wales-its politics and no politics, The Welsh Outlook, 1922 wedi'u rhwymo mewn un gyfrol; 'Bedd [ei] Mamgu', [Baner ac Amserau Cymru, Rhagfyr 1925] (llawysgrif a theipysgrif); 'Blwyddyn lwyddiannus' a 'Dros y Bryniau Tywyll Niwlog', [Storïau'r Tir Glas, 1936]; 'Cysgod Troedigaeth' [Storïau'r Tir Coch, 1941]; 'Y Capten a'r Genhadaeth Dramor' a Pumed Llyfr Anrheg Haf 1945 yn ei chynnwys; 'The court cupboard', cyfieithiad Dafydd Jenkins o 'Y cwpwrdd tridarn' mewn proflenni, a chopi o Wales, Rhagfyr 1945, yn ei chynnwys; a llyfr nodiadau yn cynnwys drafftiau o 'Y Mitsiwr' [a gyhoeddwyd fel 'Ochor draw'r "mini"' yn Y Ford Gron, 1934, a gyda'r teitl 'Un o wŷr ochr draw'r mini' fel stori fer fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd 1934 a hefyd yn Storïau'r Tir Glas yn 1936] a theipysgrif yr ail stori; 'Y gagendor' [Yr Efrydydd, 1924]; a 'Dychymyg Cymru' ?nas cyhoeddwyd. Ceir hefyd feirniadaeth D. J. Williams ar y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais 1954.

Jenkins, Dafydd

Ysgrifau wedi'u cyhoeddi

Yn eu plith ceir 'The secondary school in Wales', The Welsh Outlook, 1923 (llawysgrif a theipysgrif); 'Compulsory Welsh for matriculation', The Welsh Outlook, 1925 (drafftiau); 'Marw arwr ifanc (Gair o goffa am Mr H. R. Jones, Trefnydd cyntaf y Blaid Genedlaethol a fu farw'n ddiweddar yn 36 oed)' yn [1930], [Y Ddraig Goch, Awst 1930]; 'Dau ddehonglydd Cymru' [cyhoeddwyd dan y teitl 'Y ddau ddewis' yn W. T. Pennar Davies, Saunders Lewis: ei feddwl a'i waith (Dinbych, 1950)]; ynghyd â theipysgrifau erthyglau a gyhoeddwyd mewn papurau newydd a 'Neges D. J. Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli', [Y Ddraig Goch, Medi 1962].

Erthyglau

Ymhlith y torion ceir 'The Labour Candidature: an appeal to the Electorate of Pembrokeshire', 1922, a gyhoeddwyd yn nhri o bapurau lleol y sir, ynghyd â fersiwn llawysgrif; 'A Welsh state. The new Nationalism', South Wales News, 1924; 'Carmarthen Borough Education Committee and the Welsh language', llythyr at olygydd The Welshman, 1924; 'Nodion y Cymro a'r Blaid Genedlaethol', The Labour News, 1925; 'The new Welsh Nationalism', Manchester Guardian, 1926; a 'Sir Gaerfyrddin-ar ddiwrnod garw', Heddiw, Hydref-Tachwedd 1941.

Ysgrifau ar thema cenedlaethol

Ceir llythyr, 1944, oddi wrth D. J. Williams at Prosser Rhys yn amgau yr ysgrifau y bwriadwyd eu cyhoeddi yn un gyfrol, a llythyr, 1946, oddi wrth J. D. Lewis a'i Feibion yn eu dychwelyd ato wedi iddynt brynu Gwasg Aberystwyth yn dilyn marwolaeth Prosser Rhys. Yn eu plith ceir 'Teyrnas Dduw' a 'Y Mawr a'r Bach yn y Greadigaeth', Yr Efrydydd, 1924; 'De Valera', Y Darian, Ebrill 1924; 'Ffantasi ar Oronwy Owen' [yn wreiddiol sgript radio 'Beth petasai Goronwy Owen wedi ei wneud yn Esgob?', 1938, a gyhoeddwyd yn Heddiw, Rhagfyr 1938]; 'Beth sy'n bod ar yr Hen Gorff?', Y Faner, Ionawr 1941; 'Sir Gaerfyrddin-ar ddiwrnod garw', Heddiw, Hydref-Tachwedd 1941; a 'Y ddau genedlaetholdeb yng Nghymru', [Y Llenor, 1944].

Results 1 to 20 of 167