Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Gildas Jaffrennou,

'When I was in the wine trade' gan Gildas Jaffrennou, [1956], yn ei lawysgrif, ynghyd â 'Building an aeroplane' mewn teipysgrif.

Jaffrennou, Gildas, 1909-2000

Clychau mebyd,

Caneuon i blant gan Catherine H. Cooke a gyfansoddodd y gerddoriaeth mewn llawysgrif ac wedi'u darlunio [mae rhai o'r caneuon wedi'u cynnwys yn ei chyfol Caneuon glannau Hesbin : llyfr adrodd a chanu i blant (Lerwpl : Gwasg y Brython, 1960)].

Cooke, Catherine H.

Erthyglau gwyddonol C. O. W. Davies,

Erthyglau gwyddonol C. O. W. Davies [Owain Wyn Davies]. Rhoddwyd y teipysgrifau’n rhodd gan yr awdur i Tecwyn Lloyd yn 1990, rhai ohonynt yn fuddugol mewn cystadlaethau ysgrifennu erthyglau ar gyfer Y Gwyddonydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Davies, Owain Wyn.

Efrydiau Allanol,

Papurau, [1961]-1992, gan gynnwys memorandwm Alwyn D. Rees, 1969, yn Saesneg, ynglŷn â chyflwyno tystiolaeth i Gomisiwn Russell ar sefyllfa addysg i oedolion yn ardal Prifysgol Aberystwyth.

Rees, Alwyn D.

Detholiad o lenyddiaeth,

Darnau a ddewiswyd ganddo fel maes llafur ar gyfer cyrsiau llenyddiaeth yn Llandysul, Pencader a Dryslwyn, 1970-1971, gyda nodiadau esboniadol arnynt, ynghyd â thaflenni cyrsiau llenyddol eraill.

Mapiau,

Mapiau a baratowyd ganddo ar gyfer cyrsiau gan gynnwys 'Cymru'r Mabinigi a'r Rhamantau' a 'Y Celtiaid yn ymledu', 1970-[1991].

Papurau llenyddol,

Papurau llenyddol, [1903]-1992, gan gynnwys cerddi, papurau'n ymwneud â'i ymchwil ar Saunders Lewis, ei waith fel golygydd Taliesin ac fel awdur erthyglau ac adolygydd.

Taliesin,

Papurau’n ymwneud â'i waith fel golygydd y cylchgrawn Taliesin, [1965x1987].

Dyddiaduron y Parch. John Jones,

Papurau’n ymwneud â’i erthygl 'Dyddiaduron y Parch. John Jones, M.A. (1773-1853)' a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, 1970, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Idris [Foster], Mari [Ellis], T. I. Ellis (4). Ceir dyfyniadau hefyd o'r dyddiaduron, a gwahanlithoedd o'r erthygl, 1970, a thestun y dyddiaduron, 1971.

Foster, Idris, 1911-1984

Erthyglau,

Llawysgrifau erthyglau, adolygiadau a beirniadaethau'n bennaf, [1973]-1992, gan gynnwys nifer a anfonwyd at gylchgronau a phapurau Cymreig eraill fel Y Faner, Barn, Barddas a golygyddol Taliesin. Ceir hefyd Ddarlith Dyfnallt 'Yr ymwybod o genedl yng Nghymru diweddar', 1980; Darlith Flynyddol Emrys ap Iwan, Abergele, 1985; 'Gysfenu i'r wasg gynt', (Darlith Radio Flynyddol BBC Cymru, 1980) a 'Saunders Lewis 1893-1985', Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986.

Beirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol,

Gwahoddiadau i feirniadu mewn cystadlaethau llenyddol, 1984-1990, gan gynnwys y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl a'r Cyffiniau 1985, ynghyd â chopi o'i feirniadaeth yng nghystadleuaeth yr ysgrif bortread yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983.

Results 161 to 180 of 207