Dangos 207 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol gan gynnwys llungopi o deyrnged i'w dad John Lloyd gan D. Howell Evans, [?1971]; llungopi, 1977, o anerchiad ei ewythr David Lloyd Jones, Hengaeruchaf, 'Trem ar yr Achos yng Nglanrafon', [1950x1958]; rhestr: 'Enwau mannau ym Mhenllyn a nodir yn y Cambrian Register 1795' - plwyfi Llanfor a Llandderfel ganddo; papurau'n ymwneud â chyndeidiau Leslie Roberts, Unol Daleithiau America, a ymfudodd o Caehir, Cwmtirmynach, ynghyd â chopi o Edward Jones, Atgofion am Glan'rafon (Cymdeithas Lyfrau Meirion, 1976) a llythyr oddi wrth Hewlett Johnson, 1955.

Johnson, Hewlett, 1874-1966.

Papurau arholiad,

Papurau a osodwyd gan Fwrdd Canol Cymru, 1923; papurau arholiad Prifysgol Cymru, 1934-36, ynghyd â chardiau aelodaeth cymdeithasau, taflen ei seremoni raddio yn BA, 1937 a rhaglen, 11 Gorffennaf 1990, y seremoni pan y'i dyfarnwyd yn Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor, a thoriad o'r Cyfnod yn cofnodi'r achlysur.

Papurau Coleg,

Ei draethawd 'Yr elfen bersonol yng Nghanu Taliesin, Llywarch Hen a'r Canu Gwirebol', 1936, ynghyd â phapurau eraill o'i ddyddiau coleg fel bwydlenni Cinio'r Gymdeithas Gymraeg, 1936-1937, wedi'u llofnodi gan y rhai oedd yn bresennol.

Papurau D. Tecwyn Lloyd,

  • GB 0210 TECLLO
  • Fonds
  • [1870]-1998

Papurau personol, proffesiynol a llenyddol D. Tecwyn Lloyd, [1870]-1998, gan gynnwys papurau pan fu'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain, 1951-1952; nifer fawr o lythyrau yn deillio o’i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987; dyddiaduron, 1931-1992; papurau'n ymwneud â'i waith ymchwil ar Saunders Lewis; ynghyd â’i draethawd MA, 1961. Ceir hefyd papurau a grynhowyd ganddo. -- Personal, professional and literary papers of D. Tecwyn Lloyd, [1870]-1998, including papers relating to his time as Research Fellow in Rome; 1951-1952; letters relating to his work as editor of the literary periodical Taliesin, 1965-1987; his diaries, 1931-1992; his research on Saunders Lewis; together with his MA thesis, 1961. Also included are papers accumulated by him.

Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn).

Papurau Frances Lloyd,

Llythyrau teuluol, llythyrau oddi wrth Tecwyn Lloyd, tystysgrifau lefel O mewn Cymraeg a phapurau eraill, [1870]-1973.

Lloyd, Frances, d. 1980

Papurau Gwyneth Lloyd,

Llythyrau oddi wrth Tecwyn Lloyd ati, papurau'n ymwneud â'r gyfrol yn coffáu D. Tecwyn Lloyd (Bro a Bywyd) a theyrngedau iddo, [1968]-1998.

Lloyd, Gwyneth, d.2005.

Papurau llenyddol,

Papurau llenyddol, [1903]-1992, gan gynnwys cerddi, papurau'n ymwneud â'i ymchwil ar Saunders Lewis, ei waith fel golygydd Taliesin ac fel awdur erthyglau ac adolygydd.

Papurau personol,

Llythyrau, dyddiaduron, papurau'n deillio o'i gyfnod yn yr ysgol ac yn y coleg a phapurau'n ymwneud â'i waith ymchwil yn Yr Eidal, [1906]-1992 .

Papurau proffesiynol,

Papurau, 1926-1992, yn ymwneud â'i waith fel tiwtor addysg i oedolion, ei swydd yng Ngholeg Harlech a'i ddyletswyddau cyhoeddus eraill.

Papurau Saesneg,

Traethawd 'The sea (in its calm)', 1925, ond a gyflwynwyd mewn cystadleuaeth Cymdeithas Lenyddol Glanrafon yn 1929; 'Apology for the years 1931-33'; 'The Tutor and his class'; 'Holmes and the Chaldean Thesis. A triffling monograph', 1967; stori fer 'The light of John Davitt', ynghyd â llyfr nodiadau 'A Grammar of Eremot', iaith newydd a ddyfeisiwyd ganddo.

Personalia,

Papurau, [1906]-1992, yn adlewyrchu'i ddiddordeb mewn hanes teulu, ynghyd â thystysgrifau teuluol, adroddiadau ysgol a phapurau'n ymwneud â'i radd Doethur mewn Llenyddiaeth, 1990.

Pryniad 2005-2006,

Papurau personol, papurau proffesiynol a phapurau llenyddol D. Tecwyn Lloyd, ynghyd â rhai'n ymwneud â hanes lleol a phapurau pobl eraill, [1870]-1998, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau a phapurau'n ymwneud â'i weithiau llenyddol megis ei astudiaeth o Saunders Lewis. Ceir deunydd yn gysylltiedig â'i waith fel golygydd i'r cylchgrawn Taliesin ac fel tiwtor addysg i oedolion.

Rhodd 1975,

Llythyrau at Hughes a'i Fab, 1909-1949, cyfansoddiadau llenyddol Eisteddfod Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1942, a chyfansoddiadau eisteddfod Chwilog, 1946.

Rhodd 2000,

Gohebiaeth yn bennaf, 1926-1989. Mae nifer helaeth o'r llythyrau'n deillio o'i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987. Ceir hefyd lythyrau, 1951-1952, a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain; papurau'n deillio o'i gyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, 1927-1934; copi o'i draethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes', 1988-1990; a phapurau amrywiol, 1930-1989.

Robert Owen, Fourcrosses,

Gwaith barddonol y bardd a'r teiliwr Robert Owen, Fourcrosses, Corwen, yn ei lawysgrif, ynghyd â thorion o'r wasg, [1903]-1939, llythyrau oddi wrth yr awdur at D. Tecwyn Lloyd, 1934 a 1949, a rhagymadrodd beirniadol ganddo ar y bardd, 1934.

Saunders Lewis,

Papurau, [1926]-1989, yn ymwneud â Saunders Lewis gan gynnwys traethawd beirniadol buddugol Tecwyn Lloyd ar waith Saunders Lewis, Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1942; llythyrau’n trafod enwebu Saunders Lewis ar gyfer gwobr Nobel yn 1970; a'i draethawd PhD arfaethedig ar y llenor.

Sgriptiau,

Sgriptiau gan gynnwys 'Safonau beirniadaeth', 1949, 'Gwlad y galon' [Yr Eidal], 1955, 'Y ddinas dragwyddol' [Rhufain], 1956, a 'Cynan a chanu rhyfel', rhan o raglen ar gyfer y BBC, 1970.

Storïau byrion,

Stori fer 'Y Caplan', [1940x1941], mewn teipysgrif a llawysgrif, ynghyd â dau ddrafft anghyflawn o stori arswyd a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel ''Cyffordd Dyfi' yn Hyd Eithaf y Ddaear (1972) ac 'Ysbryd Nant y Plas', stori fwgan i blant mewn teipysgrif, ynghyd ag ysgrif 'Noson loergan leuad' a luniodd [1932-4] ar gyfer cystadleuaeth mewn eisteddfod leol gyda nodyn esboniadol, 1964 .

Canlyniadau 161 i 180 o 207