Dangos 207 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Teyrngedau,

Teyrngedau iddo mewn cylchgronau a phapurau bro, cerddi coffa iddo gan gynwys englynion gan Emrys Deudraeth [Roberts], ynghyd â llythyr, 1993, oddi wrth yr Academi Gymreig yn ymwneud â threfnu cyfarfod i'w goffáu. Ceir hefyd sgript 'Dydd Da, Lloyd' gan Aled [Lloyd Davies] ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol De Powys, Llanelwedd 1993, teipysgrif teyrnged iddo gan Nesta Wyn Jones, [Taliesin, 1992] ac adolygiad o Bro a Bywyd, 1998.

Roberts, Emrys.

Tannau'r cawn,

Teipysgrifau cerddi William Jones a ddetholwyd gan D. Tecwyn Lloyd ar gyfer eu cyhoeddi yn 1965.

Jones, William, 1907-1964.

Taliesin,

Papurau’n ymwneud â'i waith fel golygydd y cylchgrawn Taliesin, [1965x1987].

'Taith i'r Eidal',

Llyfr nodiadau'n croniclo'i daith i'r Eidal, 26 Awst-23 Medi 1948, a llythyr, 1952, oddi wrth T[h]om[as] [Jones], ynghyd â chopi teipysgrif 'Taith i'r Eidal'.

Jones, Thomas, 1910-1972.

Tafodieithoedd Gogledd yr Eidal,

Rhestr o eiriau mewn Eidaleg gyda'r geiriau cyfatebol yn nhafodiaith 'Chiaverano' a 'Fiorano'. Ceir adroddiad a gyflwynodd i'r Cyngor Prydeinig am ei gyfnod yn gweithio yn yr Eidal, 12 Hydref 1951-19 Mai 1952, a 'Some proposals regarding the formation of a permanent Department of Celtic Studies at the University of Rome'.

Storïau byrion,

Stori fer 'Y Caplan', [1940x1941], mewn teipysgrif a llawysgrif, ynghyd â dau ddrafft anghyflawn o stori arswyd a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel ''Cyffordd Dyfi' yn Hyd Eithaf y Ddaear (1972) ac 'Ysbryd Nant y Plas', stori fwgan i blant mewn teipysgrif, ynghyd ag ysgrif 'Noson loergan leuad' a luniodd [1932-4] ar gyfer cystadleuaeth mewn eisteddfod leol gyda nodyn esboniadol, 1964 .

Sgriptiau,

Sgriptiau gan gynnwys 'Safonau beirniadaeth', 1949, 'Gwlad y galon' [Yr Eidal], 1955, 'Y ddinas dragwyddol' [Rhufain], 1956, a 'Cynan a chanu rhyfel', rhan o raglen ar gyfer y BBC, 1970.

Saunders Lewis,

Papurau, [1926]-1989, yn ymwneud â Saunders Lewis gan gynnwys traethawd beirniadol buddugol Tecwyn Lloyd ar waith Saunders Lewis, Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1942; llythyrau’n trafod enwebu Saunders Lewis ar gyfer gwobr Nobel yn 1970; a'i draethawd PhD arfaethedig ar y llenor.

Robert Owen, Fourcrosses,

Gwaith barddonol y bardd a'r teiliwr Robert Owen, Fourcrosses, Corwen, yn ei lawysgrif, ynghyd â thorion o'r wasg, [1903]-1939, llythyrau oddi wrth yr awdur at D. Tecwyn Lloyd, 1934 a 1949, a rhagymadrodd beirniadol ganddo ar y bardd, 1934.

Rhodd 2000,

Gohebiaeth yn bennaf, 1926-1989. Mae nifer helaeth o'r llythyrau'n deillio o'i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987. Ceir hefyd lythyrau, 1951-1952, a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain; papurau'n deillio o'i gyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, 1927-1934; copi o'i draethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes', 1988-1990; a phapurau amrywiol, 1930-1989.

Rhodd 1975,

Llythyrau at Hughes a'i Fab, 1909-1949, cyfansoddiadau llenyddol Eisteddfod Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1942, a chyfansoddiadau eisteddfod Chwilog, 1946.

Pryniad 2005-2006,

Papurau personol, papurau proffesiynol a phapurau llenyddol D. Tecwyn Lloyd, ynghyd â rhai'n ymwneud â hanes lleol a phapurau pobl eraill, [1870]-1998, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau a phapurau'n ymwneud â'i weithiau llenyddol megis ei astudiaeth o Saunders Lewis. Ceir deunydd yn gysylltiedig â'i waith fel golygydd i'r cylchgrawn Taliesin ac fel tiwtor addysg i oedolion.

Personalia,

Papurau, [1906]-1992, yn adlewyrchu'i ddiddordeb mewn hanes teulu, ynghyd â thystysgrifau teuluol, adroddiadau ysgol a phapurau'n ymwneud â'i radd Doethur mewn Llenyddiaeth, 1990.

Papurau Saesneg,

Traethawd 'The sea (in its calm)', 1925, ond a gyflwynwyd mewn cystadleuaeth Cymdeithas Lenyddol Glanrafon yn 1929; 'Apology for the years 1931-33'; 'The Tutor and his class'; 'Holmes and the Chaldean Thesis. A triffling monograph', 1967; stori fer 'The light of John Davitt', ynghyd â llyfr nodiadau 'A Grammar of Eremot', iaith newydd a ddyfeisiwyd ganddo.

Papurau proffesiynol,

Papurau, 1926-1992, yn ymwneud â'i waith fel tiwtor addysg i oedolion, ei swydd yng Ngholeg Harlech a'i ddyletswyddau cyhoeddus eraill.

Papurau personol,

Llythyrau, dyddiaduron, papurau'n deillio o'i gyfnod yn yr ysgol ac yn y coleg a phapurau'n ymwneud â'i waith ymchwil yn Yr Eidal, [1906]-1992 .

Canlyniadau 21 i 40 o 207