Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Advanced search options
Print preview View:

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol gan gynnwys llungopi o deyrnged i'w dad John Lloyd gan D. Howell Evans, [?1971]; llungopi, 1977, o anerchiad ei ewythr David Lloyd Jones, Hengaeruchaf, 'Trem ar yr Achos yng Nglanrafon', [1950x1958]; rhestr: 'Enwau mannau ym Mhenllyn a nodir yn y Cambrian Register 1795' - plwyfi Llanfor a Llandderfel ganddo; papurau'n ymwneud â chyndeidiau Leslie Roberts, Unol Daleithiau America, a ymfudodd o Caehir, Cwmtirmynach, ynghyd â chopi o Edward Jones, Atgofion am Glan'rafon (Cymdeithas Lyfrau Meirion, 1976) a llythyr oddi wrth Hewlett Johnson, 1955.

Johnson, Hewlett, 1874-1966.

Papurau Frances Lloyd,

Llythyrau teuluol, llythyrau oddi wrth Tecwyn Lloyd, tystysgrifau lefel O mewn Cymraeg a phapurau eraill, [1870]-1973.

Lloyd, Frances, d. 1980

David Davies (Dewi Eden),

Llawysgrif David Davies (Dewi Eden), Ardudwy a'i gwron sef y Cyrnol John Jones o Faesygarnedd, Cwmnantcol, ger Drws Ardudwy ym Meirion (1600-1660) , 1912 [a gyhoeddwyd yn 1914]. Y teitl gwreiddiol oedd 'Bywgraphiad neu Hanes y Cyrnol John Jones, o Faesygarnedd ...'. Ceir englynion coffa ganddo i Hedd Wyn a ddarllenwyd yn y cyfarfod coffa yn Nhrawsfynydd, 1917, a llythyr oddi wrth W. Lloyd Davies, 1927.

Davies, David, Dewi Eden, 1858-1929.

Llythyrau T. Gwynn Jones,

Gohebiaeth T. Gwynn Jones, 1937-1947, fel darllenydd a chynghorwr llenyddol i T[homas] Bassett, rheolwr Hughes a’i Fab, gan gynnwys llythyr oddi wrth R. Williams Parry at T. Bassett. [Cyhoeddwyd erthygl 'T. Gwynn Jones fel cynghorwr llenyddol' gan Tecwyn Lloyd yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyfrol 22, rhif 1, Haf 1981].

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Llawysgrifau Mari Ellis,

Llawysgrifau yn dwyn y teitlau 'Llwch yn y llyfrau', a 'Y Ferch o Fawddwy' [a enillodd y goron yn Eisteddfod Powys 1952 ac a gyhoeddwyd fel Awelon Darowen gan Mari Headley yn 1965] .

Ellis, Mari, 1913-2015

Aled Vaughan,

Llythyr, 1984, oddi wrth Aled Vaughan yn amgau pennod 11 o'i waith creadigol mewn teipysgrif er mwyn cael barn Tecwyn Lloyd arni.

Vaughan, Aled, 1920-1989.

Llythyrau oddi wrth Maurice James,

Lllythyrau, 1934-1961, a ysgrifennodd Maurice James at D. Tecwyn Lloyd; ynghyd â llyfr nodiadau yn cofnodi'i daith i'r Amerig, 1957-1958. Bu'n fwriad i gyfieithu'r gwaith a'i gyhoeddi yn Y Cymro.

James, Maurice, 1916-1968

Llythyrau A-E,

Ymhlith y gohebwyr mae Euros Bowen (1); Bryan Martin Davies (1); Cassie Davies (5); Jennie Eirian Davies (5); Pennar Davies (1); Hywel Teifi Edwards (5); Islwyn Ffowc Elis (2); G. G. Evans (20); Gwynfor Evans (3); a Meredydd Evans (6).

Bowen, Euros.

Dyddiadur,

Yn cynnwys cofnodion achlysurol rhwng 3 Ebrill 1941 a 30 Rhagfyr 1948 mewn llyfr nodiadau.

Traethawd MA,

Traethawd: 'Natur a datblygiad y dehongliad o Gymru gan awduron Eingl-Gymreig a beirniadaeth lenyddol', Prifysgol Lerpwl, 1961 ynghyd â thaflen y seremoni, Mehefin 1961.

Results 181 to 200 of 207