Showing 173 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau D. Tecwyn Lloyd, file
Print preview View:

Papurau arholiad,

Papurau a osodwyd gan Fwrdd Canol Cymru, 1923; papurau arholiad Prifysgol Cymru, 1934-36, ynghyd â chardiau aelodaeth cymdeithasau, taflen ei seremoni raddio yn BA, 1937 a rhaglen, 11 Gorffennaf 1990, y seremoni pan y'i dyfarnwyd yn Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor, a thoriad o'r Cyfnod yn cofnodi'r achlysur.

Nodiadau ymchwil,

Dau lyfr nodiadau'n cynnwys nodiadau o Archifau'r Coleg Seisnig yn Rhufain, Archifau'r Fatican ac eraill am y pererinion o Gymru, ynghyd â llythyr oddi wrth olygydd Trivium (Cylchgrawn Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan) yn ymwneud â'i erthygl 'Welsh Pilgrims at Rome', a gwahanlithoedd o'r erthygl a gyhoeddwyd mewn dwy ran yn y cylchgrawn, 1971-1972. Ceir hefyd ffolder yn dwyn y teitl 'Recusants' sy'n cynnwys ei waith ymchwil a braslun o'i ddarlith 'Rome and Wales', Croesoswallt, 1959.

Ceisiadau am swyddi,

Ceisiadau am swyddi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Astudiaethau Efrydiau Allanol ym Mhrifysgol Caeredin, [cyn 1955], tiwtor cynorthwyol yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Bangor, 1955, a darlithydd cynorthwyol yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol Caerdydd (llenyddiaeth ddiweddar), 1957.

E Bymhet Geing,

Cyfrol yn cynnwys Pumed Keinc y Mabinogi yn ei law sef parodi ganddo mewn 'Hen Gymraeg' am ddau frawd yn ardal Penllyn, [1976].

Torion o'r wasg,

Torion o’r wasg, [1926]-[1966], gan gynnwys adolygiadau o weithiau Saunders Lewis, o’i golofn ‘Saunders Lewis yn trafod …’ yn Y Faner, a cherddi ganddo.

Traethawd BA Saunders Lewis,

Copi, 1966, o draethawd BA Anrhydedd 'Imagery and poetic themes of S. T. Coleridge', Prifysgol Lerpwl, 1920, gan Saunders Lewis, ac mae'r gwreiddiol ar gadw yn Llyfrgell y Brifysgol honno.

Cais am Wobr Nobel,

Llythyrau, 1970, yn ymwneud â chefnogi enwebiad Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel (Llenyddiaeth), oddi wrth David Hughes Parry, Idris [Foster], Aneirin Talfan Davies, Proinsias Mac Cana, Rachel [Bromwich], Per Denez, David Jenkins ac eraill. Cyfeiriwyd y mwyafrif ohonynt at J. E. Caerwyn Williams. Ceir copi teipysgrif o'r cais, 1971, a llyfryddiaeth.

Parry, David Hughes, Sir, 1893-1973.

Llawysgrifau llenorion,

Deunydd ?ar gyfer y cylchgrawn Taliesin, [1965x1987], yn cynnwys erthygl 'Y nofel' gan John Gwilym Jones, storïau byrion Ymweled', 'Maggie', 'Dewis bywyd i O.M.R' a 'Gobaith' gan Kate Roberts ac ysgrif 'Mynwenta' gan T. H. Parry-Williams.

Jones, John Gwilym, 1904-1988

Deunydd i'r cylchgrawn,

Llythyrau, [1965x1987], 1991, gan gynnwys rhai oddi wrth Alun J. Jones, Dafydd Jenkins, R. Elwyn Hughes, John [Stoddart], W. R. P. George, Gareth [Alban Davies], Elin ap Hywel, Gwyn Williams, Rhydwen Williams, cerdd gan Steve Eaves, ynghyd â chyfraniadau llenyddol a anfonwyd i Taliesin.

Alun Cilie, 1897-1975.

Erthyglau,

Llawysgrifau erthyglau a darlithiau, gan gynnwys golygyddol Taliesin, ynghyd â beirniadaethau, darlith ar newyddiaduraeth gyfoes yng Nghynhadledd Taliesin, 1972, adolygiadau i Taliesin, Y Genhinen, Poetry Wales a chyfraniadau i’r Faner, Y Cyfnod, Y Tyst a Barn.

Papurau Saesneg,

Traethawd 'The sea (in its calm)', 1925, ond a gyflwynwyd mewn cystadleuaeth Cymdeithas Lenyddol Glanrafon yn 1929; 'Apology for the years 1931-33'; 'The Tutor and his class'; 'Holmes and the Chaldean Thesis. A triffling monograph', 1967; stori fer 'The light of John Davitt', ynghyd â llyfr nodiadau 'A Grammar of Eremot', iaith newydd a ddyfeisiwyd ganddo.

Sgriptiau,

Sgriptiau gan gynnwys 'Safonau beirniadaeth', 1949, 'Gwlad y galon' [Yr Eidal], 1955, 'Y ddinas dragwyddol' [Rhufain], 1956, a 'Cynan a chanu rhyfel', rhan o raglen ar gyfer y BBC, 1970.

Darnau anorffenedig,

Ymlith y papurau mae ‘Rhan o hunangofiant’, 1979, a ‘Rhagair i hunangofiant’, 1981, ynghyd â chyfeiriadau at ddefnydd Daniel Owen o "true to nature" yn ei weithiau.

Erthyglau,

Teipysgrifau erthyglau yn bennaf a rhai adolygiadau, [1987]-1992, gan gynnwys rhai'n ymwneud â Robert Owen, Fourcrosses. Ceir hefyd wahanlithoedd o'r erthyglau canlynol ganddo: 'Cymru yn Saesneg', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1966; 'Just a curiosity', Journal of the Merioneth Historical and Record Society, 1968; 'Coflyfr Thomas Williams, 1857-1901', Journal of the Merioneth Historical and Record Society; 'John Griffith, y gohebydd', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1978; 'The Welsh language in journalism', Meic Stephens (ed.), [1979]; a 'T. Gwynn Jones fel cynghorwr llenyddol', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1981.

Results 21 to 40 of 173