![](/images/icons-large/icon-archival.png)
Dangos 289 canlyniad
Disgrifiad archifol- 198.
- Ffeil
Rhan oPapurau Amanwy,
Emyn o waith Amanwy "Rho inni weledigaeth/Ar Dy frenhiniaeth Di...", gweler Caniadau Amanwy, t. 109, a rhif 870 yn Y Caniedydd (1960), Llyfr Emynau'r Annibynwyr, emyn a gambriodolwyd yno i Thomas H. Williams, Pen-y-groes. Yn ogystal ceir nodyn yn llaw Mrs May Harris a dau lythyr, un gan y Parch. Gomer M. Roberts a'r llall oddi wrth y Parch. W. Rhys Nicholas, i gyd wedi eu dyddio 1970, ynglyn ag awduriaeth yr emyn.
- 189.
- Ffeil
Rhan oPapurau Amanwy,
[Emyn]: "Gwêl ni yn plygu, Dduw pob gras...". Gweler Caneuon Amanwy, t. 106 a rhifau 190-1 isod hefyd. Pennawd: "Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt. Mat. 18. 20.".
- 265.
- Ffeil
- 1942.
Rhan oPapurau Amanwy,
Emyn argraffedig o waith Amanwy, "O! gwrando, Iôr y lluoedd..." ar y dôn 'Er Cof' o waith Isaac Lloyd, a luniwyd ar gyfer trigeinfed Cymanfa Ganu'r Christian Temple, Rhydaman, 1942.
- 270.
- Ffeil
Rhan oPapurau Amanwy,
Emyn argraffedig o waith Amanwy, "Mae popeth drwy y cread maith/Yn canmol Iesu yn ei iaith..." ar y dôn 'Gellimanwydd' o waith Gwilym R. Jones, o'r Detholiad o Donau ac Emynau ... yr Annibynwyr, rhif 77. Ychwanegodd Amanwy y cytgan mewn llawysgrifen; gweler hefyd rif 271 isod.
- 269.
- Ffeil
Rhan oPapurau Amanwy,
Emyn argraffedig o waith Amanwy, "Hyfryd ydyw gwrando/Ambell dawel awr..." ar y dôn 'Eirwen' o waith Vyrnwy M. Jones, o'r Detholiad o Donau ac Emynau...yr Annibynwyr, rhif 60. Gweler hefyd rif 271 isod.
- 268.
- Ffeil
Rhan oPapurau Amanwy,
Emyn argraffedig o waith Amanwy, "Clywch y canu peraidd ar awelon nef..." ar y dôn 'Dyfrig' o waith Harry Richards, Garnswllt.
- 256.
- Ffeil
- 1944.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Dyma Fy Ngwaith - 3. Glowr, gan Amanwy (D. R. Griffiths)", darllediad o Gaerfyrddin ar Raglen Cymru'r BBC, 24 Mai 1944, 5.05-5.20 pm, 5 tt.
- 27.
- Ffeil
- 1916.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Dychweliad y Milwr" ar gyfer Eisteddfod Rhydcymerau, Nadolig 1916. Beirniad: 'Ap Gwarnant' [Y Parch. Thomas Oswald Williams]. Ffugenw: 'Dan yr Ywen'. Llinell gyntaf: "Ymdorrai y wawrddydd blygeiniol..." Gweler hefyd rifau 111 a 122 isod.
- 275-6.
- Ffeil
Rhan oPapurau Amanwy,
Dwy gerdd i gyfarch Amanwy ar ennill cadeiriau eisteddfodol o waith 'Gwilym Myrddin' (William Jones, 1863-1946, Betws, Rhydaman). Ceir nodyn pensel yn dweud bod penillion y naill gerdd (275) wedi eu canu gan Mr Sam Jenkins.
Dwy delyneg: "Y Lili" a "Tywysog Tangnefedd".
- 160.
- Ffeil
Rhan oPapurau Amanwy,
Dwy delyneg: "Gwanwyn". Ffugenw: 'Gwas yr Hendre'.
- 147.
- Ffeil
Rhan oPapurau Amanwy,