Showing 348 results

Archival description
Papurau Winnie Parry,
Print preview View:

Papurau Winnie Parry,

  • GB 0210 WINRRY
  • fonds
  • 1818-1960 (crynhowyd 1893-1960) /

Deunydd bywgraffyddol yn ymwneud â Winnie Parry, 1953-1960; gohebiaeth,1893-1949, gan gynnwys llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, 1893-1915, a J. Glyn Davies, 1895-1897; llythyrau ynglŷn â'r Eisteddfod Genedlaethol, 1911-1932; llyfrau nodiadau, yn cynnwys drafftiau o'i chyfansoddiadau cynnar, 1894-1912; copi teipysgrif o 'Catrin Prisiard', 1896; storïau byrion a barddoniaeth a gyhoeddwyd yn Cymru, 1893-1910; storïau byrion eraill,1897; ysgrifau Saesneg, 1901-1907; copïau o Cymru'r Plant yn cynnwys ei gwaith, 1893-1947; torion papur newydd, 1908-1942; deunydd printiedig, 1818-1920; papurau, rai llenyddol yn bennaf, yn ymwneud â Margaret Parry, 1861-1875, a John Roberts, 1876-1903. = Biographical material relating to Winnie Parry, 1953-1960; correspondence, 1893-1949, including letters from O. M. Edwards, 1893-1915, and J. Glyn Davies, 1895-1897; letters concerning the National Eisteddfod, 1911-1932; notebooks, including drafts of early compositions, 1894-1912; typescript of 'Catrin Prisiard', 1896; short stories and poetry published in Cymru, 1893-1910; other short stories, 1897; English compositions, 1901-1907; copies of Cymru'r Plant containing her works, 1893-1947; newspaper cuttings, 1908-1942; printed material, 1818-1920; papers, mainly literary, relating to Margaret Parry, 1861-1875, and John Roberts, 1876-1903.

Parry, Winnie, 1870-1953.

Nefydd Hughes Cadvan,

[Trelew]. Cerdyn post yn dangos y drol gyntaf a wnaed yn y Wladfa gan Hugh Hughes (taid y gohebydd) a oedd yn un o sylfaenwyr y Wladfa. Gwelir ei wyrion yn y llun a cheir cerdd iddo hefyd ar bapur amgaeedig. Anfonwyd y cerdyn er diddordeb i ddarllenwyr Cymru'r Plant.

A. B. Oldfield-davies,

BBC Caerdydd. Eisiau caniatâd Winnie Parry i gyflwyno darnau o Sioned ar ffurf drama i ysgolion mewn cyfres 'Ystoriau a Llenyddiaeth'.

A. B. Oldfield-davies,

Yn diolch am lythyr caredig Winnie Parry. Bydd yn ysgrifennu at gwmni Foyle am ganiatâd i ddefnyddio Y Ddau Hogyn Rheiny.

Hugh Evans,

Lerpwl. Y gohebydd a mab Isaac Foulkes ar fin dechrau cyhoeddi papur wythnosol Cymraeg yn Lerpwl. Yn cynnig cyhoeddi nofel neu stori o eiddo Winnie Parry.

Isaac Foulkes,

Lerpwl. Wedi ei blesio'n fawr gan ['Catrin Prisiard'], eisiau i Winnie Parry gyfrif nifer y colofnau er mwyn ei thalu.

J. P. Gelly,

Y Porth. Yn amgau penillion i Cymru'r Plant. Yn canmol safon y cylchgrawn sydd wedi bod o gymorth mawr iddo fel athro.

M. Griffith,

Ysgrifenyddes Adran Llenyddiaeth Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru. Y Felinheli. Gofyn caniatâd Winnie Parry i gynnwys ei llun a'i hanes yn Y Gymraes. Wedi rhoi copi o Sioned i ferch ddeuddeg oed i'w darllen a hithau wedi ei fwynhau'n enfawr.

M. Griffith,

Y Felinheli. Yn diolch am y darlun a dderbyniodd. Heb gael copi o Y Ddau Hogyn Rheiny hyd yn hyn ond wedi gweld cyfeiriad ato yn y Daily Post.

Iorwen M. Jones,

Prifysgol Cymru, Bangor. Angen manylion bywgraffyddol am Winnie Parry ar gyfer ysgrifennu traethawd MA 'Merched Llên Cymru o 1850-1914'.

J. Jones,

Y Wasg Genedlaethol Gymreig, Caernarfon. Yn gwahodd Winnie Parry i ysgrifennu nofel neu stori fer ar gyfer Y Genedl. Dywed 'Darllenodd yr ysgrifenydd bob ysgrif a welodd o'ch eiddo, ond er cystal yr oll, "Canu Cyntaf Catrin Bach" oedd y peth mwyaf byw - nis gellid ei gorphen heb golli dagrau. Ond, dyna, da chwi rhowch i'r Genedl rywbeth tebyg'.

Phillip H. Jones,

Penbedw. Yn gwahodd Winnie Parry i annerch Cymdeithas Lenyddol Penbedw ar destun o'i dewis ei hun.

Results 1 to 20 of 348