Dangos 318 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Eifion Wyn,
Rhagolwg argraffu Gweld:

John Lloyd, Dolgellau,

Holi am wybodaeth yngl?n â chyfansoddi'r emyn 'Os wyt yn flin o dan dy faich' a ddewiswyd ar gyfer Cylchwyl Harlech, 1923.

J. W. Jones, Blaenau Ffestiniog,

Wedi gwerthu nifer o lyfrau dros Carneddog - er gwaethaf y gwallau. 'B' ['Bryfdir'] yn dawel ar ôl Y Barri. Angen mwyaf llenyddiaeth Cymru yw 'Naturioldeb'. Cyfrol newydd Crwys. Teulu Elfyn.

J. W. J[ones] [Blaenau Ffestiniog],

Diolch am ddychwelyd yr awdl - ac am yr englyn tyner amdani. Yn danfon yr unig lun sydd ganddo [o Robert Owen Hughes, 'Elfyn'; cerdyn post]. Rhoddasai un gwell i Alafon. Cerdyn post.

J. R. Morris, Lerpwl,

Penderfynwyd danfon cydnabyddiaeth o dair gini yr un iddo ef a Pedrog am feirniadu yn Eisteddfod y Ddraig Goch. Beirniadaeth EW ar y 'Myfyrdraethau'. Wedi bwriadu danfon pryddest i Eisteddfod Y Bala.

J. J. Williams, Pentre,

Byddai bedyddio Peredur yn fwy o anrhydedd yn ei olwg na Chadair Llangollen ond methu'n lân â gweld sut y gallai drefnu i fod yno.

Canlyniadau 121 i 140 o 318