Dangos 361 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gwenallt
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llyfr 97 ff. yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar lenyddiaeth Gymraeg 1450-1600, ff. 1-42 a ff. 92-7, Yr Englyn, ff. 43-7 ....

Llyfr 97 ff. yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar lenyddiaeth Gymraeg 1450-1600, ff. 1-42 a ff. 92-7, Yr Englyn, ff. 43-7; Y Gogynfeirdd [mewn llaw arall], ff. 50-1; Diwylliant Oes Elsbeth, ff. 52-7; Salmau Edmwnd Prys, ff. 58-63; Y Canu Rhydd, ff. 66-91. [gweler CH 64 am gopi o rai o'r nodiadau, a gweler hefyd CH 119].

Llyfr nodiadau.

Llyfr nodiadau gyda dyfyniadau o lyfrau hanesyddol Saesneg yn bennaf. Tua chanol y gyfrol ceir cerdd: ‘Y gweithfeydd hyn’ [cyhoeddwyd yn Christine James (gol.), Cerddi Gwenallt: y casgliad cyflawn (Llandysul, 2001) fel ‘Y gweithfeydd segur’ ac yn wreiddiol yn Baner ac Amserau Cymru, 25 Awst 1943], a dau englyn: ‘Er cof am David Lewis, Dolanog’ [cyhoeddwyd fel ‘Er cof am Ddafydd Lewis, Gwasg Gomer’, yn Cerddi Gwenallt a chyn hynny yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Medi 1943].

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys dyfyniadau yn llaw Gwenallt, [1962]-[?1968], o lyfrau diwinyddol yn nodi’r gweithiau printiedig, rhifau tudalen a rhai ffynonellau llawysgrif. Maent yn ymwneud â John Bunyan, Williams Pantycelyn ac eraill ac mae’r mwyafrif mewn Saesneg.

Llyfr nodiadau 116 ff., eiddo Bob Owen, Morfa Glas, Llanfrothen, Penrhyndeudraeth, wedi ei ddyddio 'Sept. 22 1920', yn cynnwys nodiadau ...,

Llyfr nodiadau 116 ff., eiddo Bob Owen, Morfa Glas, Llanfrothen, Penrhyndeudraeth, wedi ei ddyddio 'Sept. 22 1920', yn cynnwys nodiadau [yn llaw Bob Owen] ar y Chwyldro Ffrengig ac ar lenyddiaeth a adlewyrchai feddwl yr oes, ff. 4-48, 51-66, a 96-9. Ar ff. 86-7 ceir dau doriad papur yn ymwneud â'r Dr Richard Price, [gweler hefyd CH 99 ac DD 29].

Llyfr nodiadau 20 ff. yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar J. J. Williams a'i awdl 'Y Lloer', ff. 1-2; ar gyfieithiad ....

Llyfr nodiadau 20 ff. yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar J. J. Williams a'i awdl 'Y Lloer', ff. 1-2; ar gyfieithiad o'r nofel La Terre Qui Meurt [gan Rene Bazin], ff. 3-6; ar awdlau 'Yr Arwr' - Hedd Wyn, 'Yr Amaethwr' - Geraint Bowen, 'Y Glowr' - Gwilym R. Tilsley, a 'Madog' - T. Gwynn Jones, ff. 7-15. Ar f. 15 ceir pennill pedair llinell i'r 'Gwanwyn' [gan ?] wedi ei ddyddio Mawrth 18 1916, a rhwng ff. 15-25, ceir nodiadau [darlith] ar hanes Orpheus gan gymharu cerdd Fyrsil 'The Georgies', awdl William Morris 'Orpheus', a gwaith Rainer Maria Rilke.

Canlyniadau 141 i 160 o 361