Dangos 361 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gwenallt
Rhagolwg argraffu Gweld:

D. J. Williams, 49 High Street, Abergwaun,

Llongyfarchiadau i Nel [gwraig Gwenallt] ar enedigaeth ei hwyres, sylwadau ar weithgareddau'r gohebydd ac absenoldeb Gwenallt ohonynt, ar sgwrs â Lyn Owen-Rees, cofiannydd Gwenallt, ac ar y gyfrol Coed. Ynghlwm wrth hwn 'roedd toriad papur 'Barabbas "was Jesus Christ",' [The Guardian, 16 September 1968], yn dwyn yr arysgrif 'o lyfrgell Gwenallt. Roedd ganddo gryn feddwl o'r ysgrif hon. D.J.'.

Dante Gabriel Rossetti, Hand und Seele.

Copi o'r argraffiad preifat o'r gyfrol Hand und Seele (Hand and Soul) o waith Dante Gabriel Rossetti, y cyfieithiad Almaeneg o waith B[enjamin] J[oseph] Morse, cydfyfyriwr â Gwenallt yn Aberystwyth a darlithydd Eidaleg wedi hynny yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd.

Darlithoedd Gwenallt ar lenyddiaeth Gymraeg ddiweddar,

Copiau teipysgrif o rai o ddarlithoedd Gwenallt ar lenyddiaeth Gymraeg ddiweddar, a dderbyniwyd trwy law Yr Athro Emeritus R. M. Jones, Hydref 1997. Wyth darlith ar y testunau a ganlyn: CH194 Syr O. M. Edwards; CH195 Saunders Lewis; CH196 'Trystan ac Esyllt'; CH197 Eisteddfodau 1900; CH198 Barddoniaeth R. Williams Parry; CH199 Y Byw sy'n cysgu; CH200 Nofelau T. Rowland Hughes; CH201 William John Gruffydd.

Delia Ceiriog Evans, Glyndwr, Ruthin,

Gwybodaeth am lawysgrifau Ceiriog, tad y gohebydd, gan amgau toriad papur o ysgrif gan y gohebydd ar Geiriog a ymddangosodd yn y Western Mail, 1932 [nis cynhwysir]. Saesneg. [gweler hefyd D 16].

Delia Ceiriog Evans, Ruthin,

Diolch am ddychwelyd toriad papur, pwysleisio nad oes llawer o lawysgrifau Ceiriog yn ei meddiant, a chyfeirio at dân a losgodd lawer o weithiau'r bardd nas ail-ysgrifennodd. Saesneg. [gweler hefyd D 15].

Derwyn Jones, Colwyn Bay,

Awgrymu modd i fenthyg copi o The Songs of Wales, Brinley Richards i'r derbynnydd, cyfeirio at ddeunydd ar Geiriog, ac amgau D30.

Canlyniadau 61 i 80 o 361