Dangos 361 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gwenallt
Rhagolwg argraffu Gweld:

Bwndel o nodiadau, 224 ff., wedi eu cymryd o lyfrau Cymraeg a Saesneg yn ymdrin â hanes gwleidyddol, diwydiannol, economaidd ....

Bwndel o nodiadau, 224 ff., wedi eu cymryd o lyfrau Cymraeg a Saesneg yn ymdrin â hanes gwleidyddol, diwydiannol, economaidd a chrefyddol Prydain a Chymru yn y 19g. yn bennaf. Ar y clawr blaen ceir nodiadau penawdol, 1 f., mewn llawysgrif [i ddarlith] ar gefndir hanesyddol y 19g. Ar gefn f. 197 ceir nodiadau penawdol, 1 f., mewn llawysgrif [i ddarlith] ar Michael D. Jones. [gweler hefyd CH 121-3].

Bwndel o nodiadau, cyfeiriadau a dyfyniadau teipysgrif a llawysgrif o lawysgrifau, 143 ff., yn ymwneud â Cheiriog yn bennaf, ynghyd ....

Bwndel o nodiadau, cyfeiriadau a dyfyniadau teipysgrif a llawysgrif o lawysgrifau, 143 ff., yn ymwneud â Cheiriog yn bennaf, ynghyd â: f. 1 hysbysiad am dair darlith gan Gwenallt ar Ieuan Glan Geirionydd (1), a Cheiriog (2); ff. 2-6 nodiadau teipysgrif penawdol [darlith] ar 'Llenyddiaeth Gymraeg 1850-1935'; f. 7 copi o lythyr Saesneg, 14 April 1933 oddi wrth O. Glynne Roberts, London Midland and Scottish Railway Company, at Syr John E. Lloyd, Gwaen Deg, Bangor, yn cyfeirio at swydd Ceiriog ar reilffordd ym Manceinion. Amgaeir ff. 8-9, sef detholiad o 'The Story of the Cambrian' gan C. P. Gasquoine sy'n cynnwys cyfeiriad at Geiriog; ff. 10-12 nodiadau [anghyflawn, darlith] ar Dalhaiarn, f. 132 llythyr oddi wrth Geiriog at Idris [?] yn gofyn am gopi o'r 'Tonic Solfa Reporter', sôn am fynd i Borthmadog, am gyfansoddi geiriau Cymraeg i drydedd cyfrol o ganeuon y Pencerdd [cafodd Gwenallt y llythyr hwn oddi wrth Dr E. Tegla Davies]; f. 136 llythyr oddi wrth D. Morris at Cassie Davies yn amgau f. 137, sef gwybodaeth am Geiriog ac ychydig o'i waith ef a 'Llwynog', sef J. E. Evans. Ceir nodyn ar waelod y llythyr, dyddiedig 26 Chwefror, [19]47 oddi wrth Cassie Davies at Gwenallt yn amgau'r uchod; ff. 138-9 copi [yn llaw Bedwyr Lewis Jones] o lythyr, 5 Mawrth 1876, oddi wrth Ceiriog at Cad[waladr Davies] yn sôn am reilffordd Van, ei deulu, ei awdl 'Helen Llwyddawg', a swydd newydd y derbynnydd; f. 140 llythyr, 4 Medi 1943 oddi wrth H. Eryddon Roberts [at Gwenallt] yn sôn am Geiriog yn derbyn gwobr am ei bryddest 'Paul o flaen Agrippa'; f. 141 nodiadau [yn llaw ?] ynglyn â chydnabod bore oes Ceiriog, ac ynglyn ag arferion bugeilio yn ystod ei blentyndod; f. 142 llythyr, dyddiedig 2 Rhagfyr 1958 [oddi wrth ?] o Paddington yn nodi dwy reilffordd y bu Creuddynfab yn gweithio arnynt.

Bwndel o nodiadau, cyfeiriadau a dyfyniadau, 106 ff., wedi eu cymryd o lyfrau a chylchgronau Cymraeg a Saesneg yn ymdrin ....

Bwndel o nodiadau, cyfeiriadau a dyfyniadau, 106 ff., wedi eu cymryd o lyfrau a chylchgronau Cymraeg a Saesneg yn ymdrin â thonau ac alawon Cymraeg a geiriau i'r alawon, ynghyd ag alawon o'r Alban. Ar f. 37 ceir nodiadau penawdol darlith ar farddoniaeth y 19g. [ar gefn rhaglen Cwrs i Athrawon Cymraeg Ysgolion Gramadeg].

C. R. Clinker, 9 Regent Place, Rugby,

Ateb i gais Gwenallt am wybodaeth ynglyn â hanes John Ceiriog Hughes a William Williams [Creuddynfab] yng ngwasanaeth cwmnïau rheilffyrdd yn Lloegr. Saesneg.

Cerddi cynnar,

Cyfrol o'i farddoniaeth gynnar nas cyhoeddwyd, gan gynnwys y cerddi 'Fy Mam' a 'Dadrith'.

Copi llawysgrif o gywydd 'Gofyn Oed yn y Noson Lawen - a'r Ateb', cyd-fuddugol yn Eisteddfod Golegol Aberystwyth [l922], 3 ...,

Copi llawysgrif o gywydd 'Gofyn Oed yn y Noson Lawen - a'r Ateb', cyd-fuddugol yn Eisteddfod Golegol Aberystwyth [l922], 3 ff. Ar gefn f. 2, ceir cais gan C[assie Davies?] am ddeunydd i ysgrifennu topicaliaid arno, ac ar gefn f. 3 ceir dau bennill cyfarch i fardd cadeiriol (y bardd o Lanbrynmair) Eisteddfod Golegol Aberystwyth.

Canlyniadau 21 i 40 o 361