Showing 361 results

Archival description
Papurau Gwenallt
Print preview View:

D. J. Williams, 49 High Street, Abergwaun,

Llongyfarchiadau i Nel [gwraig Gwenallt] ar enedigaeth ei hwyres, sylwadau ar weithgareddau'r gohebydd ac absenoldeb Gwenallt ohonynt, ar sgwrs â Lyn Owen-Rees, cofiannydd Gwenallt, ac ar y gyfrol Coed. Ynghlwm wrth hwn 'roedd toriad papur 'Barabbas "was Jesus Christ",' [The Guardian, 16 September 1968], yn dwyn yr arysgrif 'o lyfrgell Gwenallt. Roedd ganddo gryn feddwl o'r ysgrif hon. D.J.'.

G[riffith] J[ohn] Williams, Bryn Taf, Gwaelod-y-Garth, Caerdydd,

Amgau llythyr, 20 Hydref 1929, a dderbyniodd y gohebydd oddi wrth Idwal Jones, 58 Cambrian Street, Aberystwyth, yn gofyn am gymorth wrth ymgeisio am swydd darlithydd yn Adran Gymraeg Coleg Caerdydd, ac yn rhoi amlinelliad bras o'i yrfa. [i gynorthwyo Gwenallt wrth baratoi Cofiant Idwal Jones, gweler B]. Yn ogystal, hola'r gohebydd am ddeunydd gan Gwenallt ar Goronwy Owen ar gyfer Llên Cymru, ac am fwriadau'r derbynnydd i ymweld â Chaerdydd.

Douglas Young, Ardlogie, by Leuchars, Fife,

Sylwadau ar gyfieithiad Young o gerdd Gwenallt 'Cymru' ("Gorwedd llwch ......", Ysgubau'r Awen), cyfieithu barddoniaeth yn gyffredinol, gweithiau Robert Burns, alawon gwerin Albanaidd, perfformiad etholiadol Wynne Samuel dros Blaid Cymru yn Aberdâr, a chais am gyfieithiadau Saesneg o rai o gerddi Gwenallt. Saesneg.

Results 341 to 360 of 361