- CH23.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 67 ff. yn cynnwys nodiadau wedi eu cymryd o lyfrau a chylchgronau'n trafod barddoniaeth eisteddfodau'r 19g. yn bennaf. Ar y clawr blaen ceir nodyn yn cynnwys dyfyniad o'r Gwladgarwr, 1879.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 67 ff. yn cynnwys nodiadau wedi eu cymryd o lyfrau a chylchgronau'n trafod barddoniaeth eisteddfodau'r 19g. yn bennaf. Ar y clawr blaen ceir nodyn yn cynnwys dyfyniad o'r Gwladgarwr, 1879.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 60 ff. yn cynnwys nodiadau wedi eu cymryd o rifynnau Llais Llafur, 1898-1931; nodiadau wedi eu cymryd o'r Western Mail, ac o lyfrau'n ymdrin â Diwygiad 1904-5; dyfyniadau o hen benillion, nursery rhymes, ac ati; dywediadau Cwm Tawe, ff. 26-30; a nodiadau o lyfrau ar ddiwydiant a gwleidyddiaeth Cymru ar ddechrau'r 20g.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 82 ff. yn cynnwys nodiadau geirfaol ar weithiau Goronwy Owen, ff. 1-23, ynghyd â nodiadau ar Goronwy Owen, y Morusiaid a beirdd eraill y 18g. ff. 48-81.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 32 ff. yn cynnwys copi drafft o ragymadrodd Gwenallt i'w gyfrol Yr Areithiau Pros (Caerdydd, 1934). [gweler CH 31-3].
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 37 ff. yn rhestru cynnwys llyfrau nodiadau, ff. 1-12, nodiadau ar nofel ['Hunangofiant Tomi Evans'?], ff. 19-21, a rhestr o lyfrau a gyflwynodd Gwenallt i'r Llyfrgell Genedlaethol, ff. 34-7.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 48 ff. yn cynnwys 'Gemau Llenyddiaeth' yn Gymraeg a Saesneg wedi eu casglu gan Gwenallt yn ystod cyfnod ysgol.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 116 ff., eiddo Bob Owen, Morfa Glas, Llanfrothen, Penrhyndeudraeth, wedi ei ddyddio 'Sept. 22 1920', yn cynnwys nodiadau [yn llaw Bob Owen] ar y Chwyldro Ffrengig ac ar lenyddiaeth a adlewyrchai feddwl yr oes, ff. 4-48, 51-66, a 96-9. Ar ff. 86-7 ceir dau doriad papur yn ymwneud â'r Dr Richard Price, [gweler hefyd CH 99 ac DD 29].
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 131 ff. wedi ei ddyddio 1917 yn cynnwys geirfa Gymraeg yn bennaf, ynghyd ag ymadroddion a phenillion, ff. 1-116, a rhestr o ffugenwau, f. 131.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 39 ff. wedi ei ddyddio 'Oct. 6th [19]13', yn cynnwys dywediadau Saesneg, ff. 1-35; dywediadau Cymraeg, ff. 35-9; a geirfa Almaeneg ar y clawr cefn.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 50 ff. yn cynnwys nodiadau ar lefaru cywir [o Ysgol Haf yn y London School of Dramatic Art, Gorffennaf-Awst 1938, ac o lyfrau], ff. 1-24.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 40 ff. yn cynnwys nodiadau Saesneg ar yr iaith Eidaleg, ff. 1-4; a chyfieithiadau o ddarnau Lladin, ff. 39-40.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 32 ff. yn cynnwys crynodeb Saesneg o lyfrau gramadeg Cymraeg, ff. 1-14; rhestr geiriau o chwedl 'Lludd a Llevelys', ff. 15-16; a nodiadau Cymraeg ar y cywyddwyr wedi eu cymryd o Llenyddiaeth y Cymry, Gweirydd ap Rhys, ff. 28-32.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr 38 ff., yn cynnwys parhad o'r nodiadau ar Lewis Edwards, ff. 1-9 [gweler CH 59]; nodiadau ar awdl 'Madog', T. Gwynn Jones, ff. 10-13; llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, Crefydd a Gwleidyddiaeth, ff. 14-33; a nodiadau ar a dyfyniadau o gyhoeddiadau R. J. Derfel, ff. 34-8.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr 97 ff. yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar lenyddiaeth Gymraeg 1450-1600, ff. 1-42 a ff. 92-7, Yr Englyn, ff. 43-7; Y Gogynfeirdd [mewn llaw arall], ff. 50-1; Diwylliant Oes Elsbeth, ff. 52-7; Salmau Edmwnd Prys, ff. 58-63; Y Canu Rhydd, ff. 66-91. [gweler CH 64 am gopi o rai o'r nodiadau, a gweler hefyd CH 119].
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 68 ff. yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth Saesneg y 18fed gamrif, ff. 1-16, a 65-6; nodiadau ar lenyddiaeth Gymraeg y 18g. a'r 19g., gan gynnwys dyfyniadau Saesneg a Chymraeg o lawysgrifau a llyfrau; nodiadau ar Tasso, ff. 62-3; ar ganu arwrol Ffrainc, ff. 64-5; a llyfryddiaeth, ff. 66 i'r clawr cefn.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 68 ff. yn cynnwys nodiadau ar bynciau amrywiol, llawer ohonynt wedi eu cymryd o lyfrau a llawysgrifau. Trafodir llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg y 18g.; canu arwrol; Goronwy Owen: Glasynys; a Henry Richard.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 100 ff. yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg ail hanner y 19g. yn bennaf, wedi eu cymryd o lyfrau, cylchgronau a llawysgrifau. [gweler CH 98-9].