- F.
- Sub-fonds
- [1937-1957].
Part of Papurau Gwenallt
Part of Papurau Gwenallt
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau gyda dyfyniadau o lyfrau hanesyddol Saesneg yn bennaf. Tua chanol y gyfrol ceir cerdd: ‘Y gweithfeydd hyn’ [cyhoeddwyd yn Christine James (gol.), Cerddi Gwenallt: y casgliad cyflawn (Llandysul, 2001) fel ‘Y gweithfeydd segur’ ac yn wreiddiol yn Baner ac Amserau Cymru, 25 Awst 1943], a dau englyn: ‘Er cof am David Lewis, Dolanog’ [cyhoeddwyd fel ‘Er cof am Ddafydd Lewis, Gwasg Gomer’, yn Cerddi Gwenallt a chyn hynny yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Medi 1943].
Dau gopi teipiedig o 'Ar Gyfeiliorn', Ysgubau'r Awen.
Part of Papurau Gwenallt
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 77 ff. yn cynnwys parhad o ddrafft llawysgrif trydedd bennod cofiant Idwal Jones, ff. 1-39, a rhan o'r bedwaredd bennod, ff. 40-67, ynghyd â nodiadau byrion a phenawdol ar gyfer trydedd, pedwaredd a phumed pennod, ff. 68-77.
Part of Papurau Gwenallt
Cyfres deipiedig, 29 ff., o gerddi digrif [ar gyfer anerchiad gan Gwenallt] dan y teitl 'Rhai Pethau Digrif ym Marddoniaeth Cymru'.
Part of Papurau Gwenallt
Cyfres deipiedig, 5 ff., o eiriau'r ddwy gân 'Profiadau Melys' a 'Profiadau Diflas' a luniwyd ar y cyd gan Idwal Jones a J. Lemuel Rees [gweler hefyd B 13-14], ynghyd â geiriau 'Optimistic Chorus' a 'Grand Finale'.
Llythyr teipiedig, 2 ff. [oddi wrth Idwal Jones? at ei dad].
Part of Papurau Gwenallt
Part of Papurau Gwenallt
Sgript deipiedig o ddrama radio 'Breuddwyd Hafnos', cyfieithiad i'r Gymraeg gan Gwenallt o 'Midsummer Night's Dream' gan William Shakespeare, Mehefin 19[?], 33 ff.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 88 ff. yn cynnwys nodiadau, cyfeiriadau a dyfyniadau ar ganu arwrol yn bennaf, wedi eu cymryd o lyfrau a chylchgronau'r 19g. Ymdrinir â gwaith Klopstock, Dafydd ap Gwilym, Pedr Fardd, Dafydd Ionawr ac Islwyn, ac yn ogystal, ceir parhad o nodiadau ar Milton a geir mewn llyfr nodiadau arall.
Part of Papurau Gwenallt
Cerdd deipiedig, 1 f., 'Ochi am Gymru ar Grastir Affrica' gan Idwal Jones, a gyfansoddwyd yn Kilindini, Dwyrain Affrica, 30 Tachwedd 1916, ac a gyhoeddwyd yn Y Brython, 8 Chwefror 1917.
Part of Papurau Gwenallt
Llythyr teipiedig, 1 f., at Idwal Jones oddi wrth John, 25 Howard Street, Treorchy, 14 Rhagfyr, [19]36, yn cyfeirio at un o gyhoeddiadau Idwal Jones.
Part of Papurau Gwenallt
Dalen olaf deipiedig rhaglen ar fywyd a gwaith Idwal Jones gan Gwenallt, dyddiedig 10 Tachwedd [19]47. [Am y rhaglen gyfan, gweler B 28].
Part of Papurau Gwenallt
Copi teipiedig [anghyflawn], 6 ff., o anerchiad 'Neges Dewi Sant' a draddododd Gwenallt mewn gwasanaeth crefyddol dan nawdd Merched Plaid Cymru, Aberystwyth, 1 Mawrth 1951. Ceir copi o raglen y gwasanaeth ynghlwm wrth yr anerchiad.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 50 ff. yn cynnwys nodiadau ar gymdeithasau'r Cymmrodorion, y Cymreigyddion a'r Gwyneddigion, ff. 1-6, a Goronwy Owen, ff. 7-12, 21-34, 37-50, ynghyd â nodiadau o lawysgrifau amrywiol. Ceir enw John Vincent Williams, Trefenter ar y clawr cefn. [gweler hefyd CH 101].
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 20 ff. yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar J. J. Williams a'i awdl 'Y Lloer', ff. 1-2; ar gyfieithiad o'r nofel La Terre Qui Meurt [gan Rene Bazin], ff. 3-6; ar awdlau 'Yr Arwr' - Hedd Wyn, 'Yr Amaethwr' - Geraint Bowen, 'Y Glowr' - Gwilym R. Tilsley, a 'Madog' - T. Gwynn Jones, ff. 7-15. Ar f. 15 ceir pennill pedair llinell i'r 'Gwanwyn' [gan ?] wedi ei ddyddio Mawrth 18 1916, a rhwng ff. 15-25, ceir nodiadau [darlith] ar hanes Orpheus gan gymharu cerdd Fyrsil 'The Georgies', awdl William Morris 'Orpheus', a gwaith Rainer Maria Rilke.