Print preview Close

Showing 361 results

Archival description
Papurau Gwenallt
Print preview View:

Llyfr nodiadau.

Llyfr nodiadau gyda dyfyniadau o lyfrau hanesyddol Saesneg yn bennaf. Tua chanol y gyfrol ceir cerdd: ‘Y gweithfeydd hyn’ [cyhoeddwyd yn Christine James (gol.), Cerddi Gwenallt: y casgliad cyflawn (Llandysul, 2001) fel ‘Y gweithfeydd segur’ ac yn wreiddiol yn Baner ac Amserau Cymru, 25 Awst 1943], a dau englyn: ‘Er cof am David Lewis, Dolanog’ [cyhoeddwyd fel ‘Er cof am Ddafydd Lewis, Gwasg Gomer’, yn Cerddi Gwenallt a chyn hynny yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Medi 1943].

Llyfr nodiadau 20 ff. yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar J. J. Williams a'i awdl 'Y Lloer', ff. 1-2; ar gyfieithiad ....

Llyfr nodiadau 20 ff. yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar J. J. Williams a'i awdl 'Y Lloer', ff. 1-2; ar gyfieithiad o'r nofel La Terre Qui Meurt [gan Rene Bazin], ff. 3-6; ar awdlau 'Yr Arwr' - Hedd Wyn, 'Yr Amaethwr' - Geraint Bowen, 'Y Glowr' - Gwilym R. Tilsley, a 'Madog' - T. Gwynn Jones, ff. 7-15. Ar f. 15 ceir pennill pedair llinell i'r 'Gwanwyn' [gan ?] wedi ei ddyddio Mawrth 18 1916, a rhwng ff. 15-25, ceir nodiadau [darlith] ar hanes Orpheus gan gymharu cerdd Fyrsil 'The Georgies', awdl William Morris 'Orpheus', a gwaith Rainer Maria Rilke.

Results 81 to 100 of 361