Dangos 345 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gwynfor Evans/Gwynfor Evans Papers,
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Marwolaeth Dan Evans/Death of Dan Evans

Cardiau a llythyrau o gydymdeimlad, Tachwedd a Rhagfyr 1972, a ddaeth i law yn dilyn marwolaeth Dan Evans, y Barri, tad Gwynfor Evans./Cards and letters of sympathy, November and December 1972, received following the death of Dan Evans, Barry, Gwynfor Evans's father.

Nodiadau am etholwyr/Notes about constituents

Nodiadau gan Gwynfor Evans, 1966-1979, yn bennaf am achosion etholwyr a ddaeth i'w weld mewn 'surgery' etholaethol pan oedd yn aelod seneddol. Mae llawer iawn o'r achosion yn ymwneud â hawlio a thalu budd-daliadau nawdd cymdeithasol./Notes by Gwynfor Evans, 1966-1979, mainly about the cases of constituents who came to see him at constituency surgeries while he was a MP. Many of the individual cases relate to the claiming and payment of various social security benefits.

Erthyglau/Articles

Llungopïau a theipysgrifau o erthyglau, 1997-1998, a gyhoeddwyd mewn cylchgronau a llyfrau yn ymwneud â themau gwleidyddol, yn bennaf cenedlaetholdeb./Photocopies and typescripts of articles, 1997-1998, published in books and journals and on political themes, mainly nationalism.

Torion papur amrywiol/Miscellaneous press cuttings

Torion, 1951-[?2000], o bapurau newydd a chylchgronau'n ymwneud yn bennaf â gyrfa Gwynfor Evans fel gwleidydd. Mae rhai ohonynt o ddiddordeb gwleidyddol mwy cyffredinol ac eraill yn adolygiadau o'r wasg. Ceir hefyd o fewn y ffeiliau cylchau ambell eitem printiedig ac ambell lythyr./Cuttings, 1951-[?2000], from newspapers, journals and magazines relating mainly to Gwynfor Evans's career as a politician. Some are of more general political interest and some are press reviews. The ring binders also include a small quantity of printed items and correspondence.

Ffeiliau ar bynciau penodol/Files on specific subjects

Mae'r gyfres yn cynnwys ffeiliau o bapurau a gohebiaeth ar bynciau penodol, 1968-1983, a gasglwyd ynghyd gan Gwynfor Evans yn bennaf yn ystod ei ail dymor yn y senedd rhwng 1974 a 1979./The series comprises files of correspondence and papers, 1968-1983, accumulated by Gwynfor Evans mainly during his second term as MP for Carmarthenshire from 1974 until 1979.

Canlyniadau 201 i 220 o 345