Dangos 811 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Gwenith Gwyn, Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

11 Tudalen, yn cynnwys.

11 Tudalen, yn cynnwys:. A 'Members of Parliament for the Borough of Cardiff, in conjuction with Cowbridge, Neath, Llantrisant, Aberavon, Kenfig, Swansea, and Lougher. 1542-1826. B 'Arts, crafts, occupations, and profession, Cardiff, 1829'. C 'Names of Public Houses in Cardiff, 1829'. Ch Rhai digwyddiadau hanesyddol yng Nghaerdydd.

13 Mai 1927.

'Coel Glws', gan Gwenith Gwyn. Tri phennill yn adrodd hanes gollwng aderyn ar fedd Elin, geneth ddeunaw oed 'yn gennad i'r Wynfa Wen'. 'Y Wlad r'wyn myned iddi. Efelychiad o Emyn Annie Davies', gan Gwenith Gwyn. (2 bennill). 20 Mai. 'Ffynnon Ffagan Sant'. 'Yn y flwydddyn 1645 yr oedd plasdy teg o fewn muriau hen Castell Ffagan Saint, ac yn y berllan a berthynai i'r plasdy, o dan hen bren ywen, yr oedd ffynnon mewn craig a elwid Ffynnon Ffagan Sant. Cyrchid i yfed dyfroedd y ffynnon enwog hon o bob parth, a chyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth ddiffael at yr Haint Dygwydd (Epilepsy).'. 10 Meh. 'Hen Ddiwydiannau Cymru, gan Gwenith Gwyn. 1 'Gwneud Ysgubau'. 'Saith Rhyfeddod Morgannwg'. 1 Castell Caerffili. 2 Ffynnon Notais. 3 Berew Taf. 4 Pont y Taf. 5 Y Maen Chwyf. 6 Y Twmpath Diwlith. 7 Pen y Pyrod. 17 Meh. 'Hen Ddiwydiannau Cymru. ii. Gwneud Teisbannau'. 1 Gorff. 'Hen Ddiwydiannau Cymru. iii. Gwneud Ffynn'. 'Y Diweddar Mr Edwin Sydney Hartland'. 29 Gorff. 'Hen Ddiwydiannau Cymru. iv. Saer Coed Gwlad'. 5 Awst. 'Hen Ddiwydiannau Cymru. v. Y Gof'. 9 Medi. 'Hen Driban Caru' (4 triban). Wel Hywel Llywelyn ddifyr,. 'Rwy'n gofyn i ti'n gywir,. Oes rhyw obaith cei di wraig. Yn ochr Craig Rhiw Ceibyr? ... 16 Medi. 'Y Llyfrwerthwr Teithiol'. Disgrifiad o William Davies, Llansanffraid Glynceiriog.

21 Tud. rydd, yn cynnwys nodiadau ar y pynciau a ganlyn: 'Hebrew Female Names'; 'Common Place Book: Celts'; 'Ishweh'; 'Zir' ....

21 Tud. rydd, yn cynnwys nodiadau ar y pynciau a ganlyn: 'Hebrew Female Names'; 'Common Place Book: Celts'; 'Ishweh'; 'Zir'; 'Dravidan Races'; 'Hâna and Bâna'; 'Basalt Stone of Hauran'; 'Neb'; 'The Stone of Scone'; 'Bani Israil'; 'Some Accadian Syllables'; 'Mena'; 'Abraham'; 'Nudd'; 'Baptism among the Aztecs'.

4 Rhag. 1925.

'Cyfarchiad y Golygydd'. 'Nis gall Cymry aiddgar y Barri a'r Cylch lai na theimlo yn llawen fod Cyfarwyddwr llygadgraff y 'Barry and District News' a'r Golygydd, Mr Pullin, yn cydnabod y Barri yn dref ddwy-ieithog, yn eu gwaith yn neilltuo cyfran o'u newyddiadur at wasanaeth y Cymro yn ei iaith ei hun ... Ni arbedir unrhyw drafferth i wneud yr adran Gymraeg yn ddiddorol ac yn wasanaethgar ... Cymerwn y cyfle hwn i bwysleisio y ffaith mai nid gelyniaeth at yr iaith Seisnig, nac amharch i Saeson, sy'n cyfrif am ymlyniad y Cymry wrth eu hiaith, ond greddf a chariad. Teimlant, hefyd, mai drwy deyrngarwch i'w hiaith yn unig y gallant gyfrannu eu goreu ar allor budd cyffredinol y deyrnas ...'. 11 Rhag. 'Yn llên gofnodol Cymru, un adeg, by 'dychmygion' mewn bri mawr. Perthyna dyfalu 'dychmygion' i'r un dosbarth o gampau meddwl a 'pos' y croeseiriau. Gan farnu y ca ein darllenwyr bleser yn y gwaith hwn, rhoddir o wythnos i wythnos 'ddychymyg' yn yr Adran Gymraeg. Anfoner y dyfaliadau i'r Golygydd, a chyhoeddir enwau y rhai llwyddiannus'. Rhoddir yr ateb bob tro yn yr wythnos ganlynol. Mewn ambell d? ceir gwrthrych. Defnyddiol iawn yn wir,. Pan ddaw y gaeaf called,. A phan fo'r nos yn hir;. Mae ganddo drwyn cyrhaeddbell,. A chlust, a chroen mwyn, têg,. Ond ni fedd draed, na dwylaw,. Na llygad, gwallt, na chêg. Beth yw? (Megin). 18 Rhag. Dychymyg (ii). Y mae yna wrthrych. Heb un dafn o waed,. Ond mae iddo wyneb,. Corff, deufys, a thread;. Mae'n cerdded yn gyson. Heb symud o'i le,. Mae hefyd yn taro. Heb fraich chwith na de. Beth yw? (Cloc neu awrlais). 25 Rhag. Dychymyg (iii). Aderyn heb draed na chân fy ffrynd;. Aderyn heb edyn, ac eto'n mynd!. Aderyn heb blu, er hynny mae pwn. Dilladu'r miliynau ar gefen hwn. Beth yw ei enw? (Gwennol y gwehydd). 8 Ion. 1926. Dychymyg (iv). Y mae mewn caseg,. Ond nid mewn cawn;. Y mae mewn meddyg,. Ond nid mewn mawn;. Y mae mewn neges,. Ond nid mewn nos;. Y mae mewn rhyfyg,. Ond nid mewn rhos. Beth yw? (Y llythyren 'g'). 15 Ion. 'Twm Shon Cati yn Llanfabon'. Hanes Twm yn twyllo Siôn, tafarnwr, Pen yr Heol Fawr, Llanfabon, ac yn dwyn ei geffyl. 22 Ion. Dychymyg (v). Mae gan bob Cymro llawen,. A phob Cymraes iawn ryw,. Ddau efaill i'w hymg'leddu,. Bob dydd, tra byddant byw;. Mae sawdl, cefn a thafod,. Yn rhan pob un o'r ddau,. Ond fod y tafod, druan,. Mewn carchar wedi'i gau. Enwch y 'ddau efaill'! (Dwy esgid). 29 Ion. Dychymyg (vi). Mae'n enaid morwriaeth. Yr aig i gyd;. Mae'n rhwygydd gwlyb blisgyn. Bedd mwya'r byd;. Mae'n berffaith ei gynllun -. Gwaith llaw dyn gwan;. Mae draw ar y tonnau,. Mae'n ymyl glan. Beth yw? (Bwa llong). 5 Chwef. Dychymyg (vii). Mae gwrthrych bychan, cyfrwys,. I'w gael yng Nghymru fad;. Mae'n barchus iawn gan fechgyn,. A hefyd llawer tad;. O dan ei aden esmwyth,. Y llecha anghau du,. Ac ebyrth teg ei ystryw,. Yn fynych ddaw i'r ty. (Bach pysgota). 5 Mawrth. Dychymyg (viii). Offeryn hylaw welais,. A'i goes yn hir a llefn;. A dwy res wen o ddannedd. Yn sefyll gefn yng nghefn. Rhoddwch ei enw. (Ateb?).

7 Ion. 1927.

'Cloc Mawr T? Brith', (gan Gwenith Gwyn?). Cyhoeddwyd yn bum pennod, rhwng 7 Ion. - 4 Chwefror, 1927. 11 Chwef. 'Sir Henry P. Maybury, K.C.M.G., C.B., Of The Ministry of Transport.' Pennill, 10 llinell, gan Gwenith Gwyn. 18 Chwef. 'Cydgerddai Twm o'r Nant, a Sion Parry, Llan Eilian, mewn mynwent, ac ebai Twm -. 'Mae yn mynwent, mewn mannau - yn llwybr traed,. Lle bu'r trwyn a'r genau;. Sathru'r beilchion brychion, brau,. Wna byw-ddyn yn eu bedau.'. Atebodd Sion -. 'Ti sathrwr, baeddwr beddau - hyd esgyrn. O! dod ysgafn gamau;. A chofia hyn, briddyn brau,. Y dwthwn sethrir dithau.'. 18 Mawrth. 'Prifddinas Cymru'. Apel rymus am brifddinas i Gymru a'r rhesymau dros ddewis Caerdydd. Yn yr un rhifyn ceir crynodeb Saesneg o erthygl Gwenith Gwyn: 'Metropolis of Wales. Brilliant Welsh Article by Gwenith Gwyn'. 25 Mawrth. 'Creu Hynod'. Nodyn:. 'Ym mhlwyf Llansilin, Sir Ddinbych, plwyf yn ymylu ar Loeger, credir yr iacheir unrhyw un a flinir a gwddf mawr (goitre), os yr â i dy menyw a fyddo newydd fawr, ac y tynn law y corff ol a blaen, dros ei gwddf mawr. O wneud hynny, gwywa, a diflanna y chwaren chwyddedig yn fuan. Rhaid fod gwraidd y goel hon yn mynd yn ol i gyfnod cyn-hanes, a diddorol a fyddai gwybod a yw yn ffynnu mewn rhyw blwyf neu ardal arall.'. 8 Ebrill. 'Y Gannwyll Frwyn'. Nodyn:. 'Hen enw y Gannwyll Frwyn yn Sir Aberteifi oedd Ysport Pen Blewyn. Fel hyn y canodd Ieuan Brydydd Hir i'r math yma o gannwyll:. Gennyf nid oes un gannwyll - heno. Mi hunaf rhag gorphwyll;. Ysport yw yspario twyll,. Y berw yma a bair anhwyll.'. 'Hen Benhillion'. (Chwe phennill). 15 Ebrill. 'Hen Benhillion o waith Edward Morus, Perthi Llwydion, Cerrig y Drudion, Sir Ddinbych, yr hwn a fu farw yn Essex, yn y flwyddyn 1689.'. Mae llawer afal ar frig pren,. A melyn donnen iddo;. Ni thal y mwydion dan ei groen. Mo'r cymryd poen i'w ddringo;. Hwnnw fydd cyn diwedd Ha,. Debyca a siwra o suro. ........................... Mae'r coedydd yn glasu,. Mae'r meillion o'n deutu,. Mae dail y briallu. Yn tyfu mhob twyn;. A'r adar diniwed,. Yn lleisio cyn fwyned,. I'w clywed, a'u gweled,. Mewn gwiwlwyn. .......................... Mi af oddiyma i'r Hafod Lom. Er bod hi'n drom o siwrne;. Ac mi gaf yno ganu cainc. Ac eistedd ar fainc y simdde;. Ac ond odid dyna'r fan. Y byddaf tan y bore.

Canlyniadau 1 i 20 o 811