'Ar Un Ddalen o'r Dail ar Antur yn y S.W.N. am ddoe - 17.7.25, ceir cyhuddiad yn erbyn y Cymdeithasau Cymraeg. Dywedir nad ydynt o un gwerth ymarferol i'r mudiad cenedlaethol. Nid fy neges heddiw yw amddiffyn y Cymdeithasau, oni mentraf ddwyd na byddai y Ddirprwyaeth bresennol mewn bod onibae am lafur di-ildio Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg ... I genedl orchfygedig fel cenedl y Cymry i'r hon y mae yr Arglwydd Iesu Grist yn fywyd ac yn obaith, y mae cariad at ei hiaith yn troi yn elfen ysbrydol yn ei chenedlaetholdeb ... Y mae y gwaith yn fawr, ond nid mor fawr yw os yw pob aelod yn barod i wneud ei ran. Ac fe ddylai pob aelod wneud ei ran yn ddirwgnach. Arferai yr hybarch William Williams o'r Wern adrodd ar y llwyfan Dirwestol yn ei ddydd am ddau filwr ar ddiwrnod brwydyr Waterloo, a dau Gymro oeddyn hefyd eb ef, wedi ffoi o'r rhenc, a mynd i ymguddio mewn rhyw odyn galch. Yno llefent, 'Hwi Lloeger Goch, annwyl, concra nhw.' Peth hawdd yw dweyd ein bod am i'r ymgyrch hon lwyddo, ond gwrthod gwneud ein rhan i ennill y fuddugoliaeth. Sowldiwrs yr odyn galch ydynt.'.