Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 186 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archifau Urdd Gobaith Cymru Ffeil / File Saesneg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Taith Mistar Urdd

Cyflwyno Mistar Urdd yn fyw: Poster digwyddiad 'Helo Mistar Urdd' Ionawr 24 1979; trefn y prynhawn o safbwynt rhaglen, sgript a pherfformiad a rhestr o wahoddedigion. Taith Mistar Urdd 1979: poster, trefniadau staffio, trefn a dyddiadau'r daith. Shew Hewl: trefn a dyddiadau'r daith, a chyfrifoldebau staffio.

Taith i Geneva a Llundain

Dyddiadur Susannah Thomas, Ysgol Dr Williams, Dolgellau, sy'n cynnwys nifer o ffotograffau a chardiau post, yn cofnodi taith i Geneva a Llundain ym 1931.

Taith Canada 1955

Argraffiadau Taith Canada - drafftiau cyntaf ac yna'r drafft terfynol: Adroddiad ar yr Ymweliad â Chanada, Awst 18 - Tachwedd 18, 1955. (gwaith dwyieithog).

Taflennu gwybodaeth

Taflenni printiedig a ddefnyddir i hyrwyddo neu gofnodi amrywiol polisïau, adnoddau, gweithgareddau a digwyddiadau'r Urdd.

Swyddog Technegol

Gofynion darpariaeth Gwasanaeth Technegol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol, gan gynnwys disgrifiadau swydd.

Swyddfa Aberystwyth

Papurau gweinyddol amrywiol yn cynnwys nodiadau staff, deunydd yn ymwneud a Jiwbilî hanner canmlwyddiant, llythyrau. Dau lyfr nodiadau R.E. Griffith; casgliad bychan o fathodynnau'r Urdd.

Stampiau arbennig

Gohebiaeth yn ymwneud â'r cais am stamp arbennig - i goffau hanner canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru - yn cael ei gynnwys yn rhaglen stampiau Swyddfa'r Post 1972.

Rhaglenni

Casgliad o Raglenni Yrr Ysgol Gymraeg yn enwi'r llywodraethwyr, athrawon, disgrifio'r ysgol, barn am yr ysgol, ac enwi noddwyr yr ysgol

Pererindod i Dy Ddewi

Deunydd yn ymwneud â'r bererindod flynyddol i gyflwyno baner yr Urdd i wahanol eglwysi cadeiriol Cymreig ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys eitemau yn dogfennu'r bererindod olaf - i eglwys gadeiriol Tyddewi. Toriadau newyddion, ffeil prosiect, lluniau, rhaglenni.

Canlyniadau 21 i 40 o 186