Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

Hywel D. Lewis, Bangor,

Mae'n amgau ysgrif ar feirniadaeth adrodd. ['Beirniadaeth Adrodd', Y Llenor, cyf. XVIII (1939), tt. 118-121, 172-83]. Darllenodd R. T. Jenkins yr ysgrif a chred y dylai'r darn ysgafn tua'r diwedd ddod ar y dechrau ond meth...

Saunders Lewis, Llanfarian,

Y mae wedi darllen y dramâu i gyd ddwywaith ac y mae'n bendant mai drama 'Arawn' sy'n haeddu'r wobr yn llawn. Hoffai dderbyn gair er mwyn iddo fedru ysgrifennu ei feirniadaeth.

Saunders Lewis, Llanfarian,

Ni wyddai ddim am y trefniant yngl?n â'r ddrama yn Ninbych. Fe'i syfrdanwyd gan haelfrydigrwydd W. J. Gruffydd. Mae'n diolch am y cynnig ac yn ei dderbyn.

John Edward Lloyd, Bangor,

Diolch am erthygl o'r Revue Celtique. Mae'n codi pwyntiau yngl?n â Bleddri. Fe gytuna ei bod yn debyg bod Bleddri wedi marw tua 1150, ond tybia mai cerddor crwydrol proffesiynol ydoedd yn hytrach na thirfeddiannwr sylweddol.

R. S. Loomis, Prifysgol Columbia,

Sôn am ei waith yn adolygu cyhoeddiadau W. J. Gruffydd. Diolch am adolygiad ar ei waith ef yn Y Llenor. Nid yw'n debyg y byddant yn gytûn bob amser ond gallant barchu ei gilydd er hynny. Nid yw yn bwriadu ateb Miss Weston yn fanwl yngl?n â�...

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Mae'n cynnig gwaith un o'i fyfyrwyr, Miss Helaine Newstead, i sylw'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd gan ofyn iddynt ystyried ei gyhoeddi. Llyfr ydyw ar ddisgynyddion Arthuraidd Brân Fendigaid. Mae'r gwaith cystal ag y medrai ei lunio ...

Roger S. Loomis, Prifysgol Columbia,

Cred fod ganddo oleuni i'w daflu ar Preiddiau Annwfn. Trafodwyd peth arnynt yn Celtic Myth ... ond yn awr y mae am drafod y pedwar pennill cyntaf. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd i edrych dros ei gyfieithiad ohonynt i weld os oes gwall yndd...

R. Lloyd Matthews, Bethel,

Y mae wedi mwynhau 'Fy Mlwydd Arbennig' yn anghyffredin. Cafodd hwyl fawr ar y 'Tir Newydd' hefyd. Bu cryn ddarllen arno ym Methel. Disgwylir ei glywed yn 'amenu' Elfed tua'r Sulgwyn.

T. J. Morgan, Radur,

Mae eisiau barn W. J. Gruffydd ar ba swydd i'w dewis erbyn diwedd y rhyfel. Pe bai'n dod yn ôl i'r Coleg byddai'n derbyn £200 yn llai na'i swydd yn y Weinyddiaeth Lafur. Nid yw'n gweld bod cadair prifysgol i ddod i�...

T. J. Morgan, Radur,

Dyfodol Y Llenor. Ffoniodd Thomas Parry a bu Saunders Lewis yn ei weld. Trafod camddealltwriaeth yngl?n â dyfodol Y Llenor a rhan W. J. Gruffydd fel golygydd. Credai Thomas Parry a Henry Lewis mai galw cyfarfod cyhoeddus i geisio achub Y Llenor oe...

R. Hopkin Morris, BBC, Caerdydd,

Diolch am gael gweld llythyrau [yn canmol rhaglen radio gan W. J. Gruffydd]. Ni chlywodd y sgwrs ei hunan - yr oedd yn teithio ar y pryd. Y mae iddi'r un blas â Hen Atgofion a chofiant O. M. Edwards. Mae'n canmol 'Gair Personol'...

R. Hopkin Morris, BBC, Caerdydd,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd yngl?n â darllediad Mr D. P. Williams. Rhoddwyd cyfle iddo ddarlledu yn 'newyddion' yr Eisteddfod. Ni roddwyd cyfle iddo siarad yn erbyn dyfarniad yr Eisteddfod. Ni fwriedir beirniadu awdurdodau'r Eis...

Gilbert Norwood, Vancouver Island,

Mae'n synhwyro bod y rhyfel yn digalonni W. J. Gruffydd yn fwy na'r cyffredin oherwydd ei sensitifrwydd creadigol. Nid yw'n credu y bydd i'r Americaniaid ymuno â'r rhyfel oni bai iddynt gael eu gorfodi. Y maent yn genedl w...

Gilbert Norwood, Parc Cenedlaethol Jasper, Canada,

Wedi aros yn Jasper Park Lodge ar ei ffordd yn ôl i Toronto. Mae'n lle eithaf ffurfiol a'r mwyafrif o'r ymwelwyr yn Americaniaid. Mae yno gerddorfa wyth offeryn. Coed yw popeth bron yno, mae hyd yn oed y blwch llythyrau yn dwll ym m...

[W. J. Gruffydd] at [Gilbert] Norwood,

Ysgrifennodd am ei agwedd at y rhyfel yn Y Llenor. Yn yr erthygl ceisiodd ddangos fod Pabyddiaeth a Thotalitariaeth bob amser yn gyfochrog. Ei unig ofid yw y bydd Cymru, gweddill Prydain ac, yn wir, gweddill y byd yn cael eu gwaredu oddi wrth ddem...

Ben Owen, Llanberis,

[R.] Bryn Williams, y Capel Coch, Llanberis, yw awdur Y Ddarlith Olaf ar J. Morris Jones. Nid anghofir safiad gwrol W. J. Gruffydd adeg helynt Llyn. Braf yw cael teimlo os dwy farn, un galon. Cerdyn post.

Results 1 to 20 of 982