Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

T. Harold Morgan, Llanisien,

Ysgrifennu at W. J. Gruffydd ar ran Cynghrair Cymreig y Prifathrawon i ddiolch iddo am ei waith da dros addysg Gymreig yn ystod y dadleuon yngl?n â'r Bil Addysg yn y Senedd. Ysgrifenna ar ran 550 o brifathrawon Cymru.

T. H. Williams, Llundain, N.l,

Cydymdeimlo â W. J. Gruffydd ar golli ei dad ac am beidio â chael ei benodi yn brifathro [Caerdydd]. Collodd yntau ei dad. Nid oes gwell amgylchedd na chartref Cymraeg er iddo fod yn ddigon cyfyng a helbulus. Er mai 'gwyr y llwybrau blin' yw gweithwyr Arfon, eto disgyblir y goreuon i fywyd dwfn a thyfant yn gymeriadau gwastad. Ni fyddai unrhyw ystyr i fywyd ym meddwl T. H. Williams onibai iddo gredu fod yna rywbeth parhaol mewn dynion fel eu tadau hwy. Yn wyneb colli'r cyfle i fod yn brifathro Caerdydd ni ellir ond ategu sylw Puleston, 'W. J. Gruffydd, wedi chwyrn[u] gormod ar gorgwn'. Hen ystryw yw clwyfo'r cymwynaswyr - O. M. Edwards, J. M. J. a H[enry] Jones. Fe wyr ei hunan am y pris sydd raid ei dalu am geisio cadw ei enaid. Holi os bu iddo weld araith P[eter] H[ughes] G[riffiths] yn Y Cymro. Dywedodd T. H. Williams air yn y Cyfarfod Misol am felltith enwadaeth gan sôn am J.M.J. wedi sefyll dros ei argyhoeddiadau yn ystod y rhyfel, tra eraill yn plygu fel brwyn.

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Mae ganddo ddeg neu ddeuddeg o rigymau taith tebyg i'r rhai a gyhoeddwyd yn Y Llenor rai blynyddoedd ynghynt. Y mae yn eu cynnig ar gyfer Y Llenor. ['Rhigymau Taith' (Awst-Medi, 1935)', Y Llenor, cyf. XIV (1935), tt. 193-7].

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Mae'n cytuno eu bod yn bur ddrwg am destunau cywyddau. Maent yn teipio copïau o gywyddau yna, rhai o lyfrau a rhai o lawysgrifau a'u rhannu i'r myfyrwyr yn y dosbarth. Fe gymer y gwaith y gofynnwyd iddo ei wneud gryn dipyn o amser os yw i fod o unrhyw werth parhaol. Mae nifer o ymchwilwyr ar ganol llunio testun o waith nifer o'r cywyddwyr. Annoeth fyddai gwneud dim cyn i'r rheiny orffen. Mae Bangor yn defnyddio Gwyneddon 3 yn helaeth iawn at y diben hwn. Y mae casgliad Y Ford Gron a rhai T. G[wynn] J[ones] yn ei Llên Cymru ar gael wrth gwrs.

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Mae arno gywilydd braidd ar ôl darllen y rhigymau, ond y mae yn eu hanfon er hynny. Mae arno ofn eu gweld mewn print ond os yw W. J. Gruffydd yn fodlon mentro y mae croeso iddo wrthynt, os yw'n credu bod 'rhyw lygedyn o rywbeth ym mhlaendra diaddurn y rhan fwyaf ohonynt.'.

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Anfon dwy soned i'r Llenor. Hoffai weld eu cynnwys yn y rhifyn nesaf. Cas ganddo adael i bethau fel hyn sefyll - maent yn suro mor fuan. Buasai wedi eu hanfon ynghynt ond ei bod yn adeg gwyliau. ['Dwy Soned', Y Llenor, cyf. XVIII (1939), t. 5].

[T.] Gwynn [Jones], Caernarfon,

Diolch am lythyr ac arian at dysteb Eames. Nid yw am fynd i ymgomfa Cymdeithas Gymreig y dref am ei fod yn brin o arian ac yn brysur iawn a'i fod i annerch yno rywbryd ar ôl y Nadolig. Nid oes ganddo arian eto i anfon prospectws ei lyfr allan ond cafodd rai archebion eisoes gan gynnwys un gan Muriel Price. [Mae'n dyfynnu ei harcheb a anfonwyd ato mewn Cymraeg Canol ac yn parhau ei lythyr mewn Cymraeg Canol]. Ni roddwyd Arthur ap Gwynn 'yng nghlos' eto.

[T.] Gwynn [Jones], Bow Street,

Gwasg Prifysgol Caergrawnt newydd gyhoeddi'r gyfrol gyntaf o ddwy ar Literary Criticism in Antiquity gan Atkins. Hoffai'r awdur gael gweld adolygiad yn Y Llenor. T. Gwynn Jones yn canmol y gwaith ac yn cynnig llunio nodyn ar gyfer Y Llenor, ond byddai cael sylw gan W. J. Gruffydd i'r gyfrol yn llawer amgenach. Petai W. J. Gruffydd yn cael copi o'r Gainc Olaf fe fyddai T. Gwynn Jones yn hoffi cael adolygiad ar honno hefyd gan W. J. Gruffydd ei hunan.

[T.] Gwynn [Jones], Bow Street,

Diolch am wahanlithiau. Anfon rhai'n gyfnewid. Anfon hefyd drosiad o waith Lladin yr 'Archipoeta' i'r Llenor ['Cyffes Clerwr', Y Llenor, cyf. XIII (1934), tt. 66-9]. Mae hiraeth arno weithiau am eu hen gyfeillgarwch.

T. Gwynn Jones, Bow Street,

Bydd T. Gwynn Jones yn synnu at egni a dycnwch W. J. Gruffydd. Y mae T. Gwynn Jones bellach wedi ymddeol ac yn ceisio byw o fewn terfynau'r ychydig bensiwn y llwyddodd i'w gasglu. Dysgodd sut i eistedd yn llonydd am oriau i feddwl, heb geisio cofnodi dim. Ailafaelodd mewn astudiaethau Lladin a Groeg. Y mae'n disgwyl y diwedd a'r cysgod yn dod yn nes o hyd. Ni bydd neb ar gael cyn hir i ddarllen dim a ysgrifennwyd gan T. Gwynn Jones a'i debyg. Ni fydd dim ond 'bratiaith y papurach Saesneg lle bu Cymraeg fonheddig gynt'. Gwahoddir W. J. Gruffydd i ymweld â hwy.

[T.] Gwynn [Jones], Bow Street,

Mae'n dda ganddo fod W. J. Gruffydd yn barnu bod llyfr Atkins yn un da. Byddai'n well ganddo ped ysgrifennai W. J. Gruffydd yr adolygiad ond y mae'n addo gwneud rywbryd cyn diwedd Tachwedd. Diolch bod W. J. Gruffydd yn bwriadu tynnu sylw at Y Gainc Olaf. Ni all yr actorion wneud cyfiawnder â hi. Y mae T. Gwynn Jones yn mynd yn hen a bydd yn rhaid iddo droi at rywbeth sy'n talu'n well nag ysgrifennu Cymraeg er mwyn talu'r ffordd. Disgwyl gweld W. J. Gruffydd yn Llundain ym mis Tachwedd.

[T.] Gwynn [Jones], Aberystwyth,

Ysgrifennu yn dilyn ymosodiad ar ei lyfr yn y Western Mail. Penderfynodd anwybyddu'r sylw. Y mae'n gwahodd W. J. Gruffydd i lunio adolygiad ar y llyfr yn rhywle fel na fydd i werthiant y gyfrol ddioddef yn y De. Hoffai wybod pwy a ysgrifennodd yr adolygiad. Llawenhau ym muddugoliaeth R. Williams Parry a hwnnw wedi dyfynnu W. J. Gruffydd a dynwared T. Gwynn Jones yn ôl ei addefiad ei hunan.

[T.] Gwynn [Jones], Aberystwyth,

Anfonodd broflen Y Llenor ymlaen i Wrecsam. Y mae wedi diflasu ar bedantri argraffyddol. Trafod sut y dylid rhyddhau a datblygu rheolau cynghanedd. Y mae'r Caniadau wedi eu gwerthu i gyd. Sôn am ffurflenni y Bwrdd Amaethyddiaeth. Y mae Brynmor Jones, T. H. Parry-Williams a T. Gwynn Jones wedi trosi nifer helaeth ohonynt i'r Gymraeg. Y taflenni a'r pamffledi Saesneg, er hynny, a fynn ffermwyr Llangeitho ac ardaloedd Cymreig cyffelyb. Aeth yn rhy hwyr ar y Gymraeg. Cafodd argraff dda ar brifathro newydd y Coleg. Dyn cyffredin o allu ydyw, tra swil ac ofnus. Y mae'r Amgueddfa Genedlaethol yn hysbysebu am gynorthwywr yn yr Adran Gelf. Y mae blys ar Llywelyn [ap Gwynn] roi cais amdani. A oes siawns ganddo ei chael?.

[T.] Gwynn [Jones], Aberystwyth,

Diolch am gopi o gerddi W. J. Gruffydd - y mae yn uchel iawn ei ganmoliaeth ohonynt. Y mae'n ffyrnig ei feirniadaeth o'r Western Mail. Ni cheid y fath feirniadu ffyrnig ped ysgrifennai yn Saesneg. Y mae am droi i lunio straeon Saesneg, i gael bywoliaeth a llonydd gan y corgwn beirniaid. Mae'n edifar anfon cynifer o gopïau adolygu o'i lyfr allan. Sôn am Graves a'i addewid i gydweithio ar gyfrol o gyfieithiadau o farddoniaeth Gymraeg. Y mae am dynnu'n ôl o'r cynllun hwnnw. Cynnwys darn o awdl a ysgrifennodd ar Osian a Thir na nOg ac sydd bellach yn libretto ar gyfer David Evans. Mae'n edifar na allasai fod wedi mynd i Iwerddon i ddysgu Gwyddeleg ymhell o'r 'corgwn a gododd o domennydd glo y De'. Pe bai'n cael cynnig gwaith mewn gwlad dramor byddai'n ei dderbyn ar unwaith er y chwithdod ar ôl y bywyd gwledig Cymreig 'cyn dyfod o'r taeogion yn farchogion ac arglwyddi'.

T. G[wynn] J[ones], Aberystwyth,

Nid oedd T. Gwynn Jones yn cofio ei fod i gyfeirniadu cystadleuaeth gyda W. J. Gruffydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar wahân i'r Goron. Anfonodd gynnyrch y Goron at W. J. Gruffydd wedi eu cofrestru beth amser ynghynt. Yr oedd wedi eu darllen ar frys ar ganol adeg arholiadau. Cododd ddeunydd beirniadaeth ohonynt. Gofyn i W. J. Gruffydd roi gwybod beth yw ei farn cyn gynted ag y gall. Trafodir rhai o'r cystadleuwyr. Y mae'n brysur yn gorffen ei waith ar Dudur Aled. Hanes arholi yn Abertawe. Cafodd Iorwerth Williams distinction ond haeddai Arthur [ap Gwynn] un hefyd. Bu raid iddo ddioddef am y trydydd tro oherwydd ei fod yn fab i'w dad. Trafod y rhagymadrodd a luniodd i gyfrol o ganeuon a olygwyd gan [W. S.] Gwynn Williams. Mae galw mawr gan gerddorion am gael defnyddio geiriau gan T. Gwynn Jones yn awr. Trafod y sylwadau ar Tom Rees yn y rhifyn diweddaraf o'r Llenor a'r hyn a ddywedodd W. J. Gruffydd am Herbert Vaughan. Ni all disgynyddion yr hen deuluoedd bonheddig ddarllen y farddoniaeth a ganwyd i'w hynafiaid gan eu bod, bron i gyd, yn ddi-Gymraeg. Mae Eluned, merch T. Gwynn Jones, yn priodi ar 28 Gorffennaf.

T. Gwynn Jones,

Copi o'i lyfryn I'r Nyth Gwag ym Mro Gynin gyda chyfarchion i'w gyfaill W. J. Gruffydd.

T. Eric Davies, Dartmouth, Nova Scotia,

Diolch am araith W. J. Gruffydd yn Undeb yr Annibynwyr ym Machynlleth. Bu T. Eric Davies yn Annibynnwr, ond y mae erbyn hyn yn Undodwr. Cytuna â W. J. Gruffydd fod Calfiniaeth 'wedi gwneud cabledd o etholedigaeth Pawl'. Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am ei gyfraniad at ddeall Cymru a phethau Cymreig yn well.

T. E. Nicholas, Aberystwyth,

Mae'n cyhuddo ysgolheigion Cymru o fygu'r gwrtaith gwerinol sydd yn hybu beirdd drwy fynnu cywirdeb iaith a chystrawen. Cred y byddai'n well i fechgyn gwrdd i lunio englyn anghywir na mynd i chwarae darts. Nid oes neb ond Dewi Emrys yn nawddogi'r math hwn o wrtaith. Cafodd bleser mawr o ddarllen llyfr W. J. Gruffydd. Mae'n llawenychu pan ddadlennir gorchestion y werin. Trafod y 'bwytäwr pechod'. Trafod agwedd y Blaid [Genedlaethol] a S[aunders Lewis] at yr Ail Ryfel Byd. Roedd penderfyniad S[aunders Lewis] i sefyll dros y Blaid yn sedd y Brifysgol yn hollol anwerinol. Y mae W. J. Gruffydd yn ddigon diogel yn yr etholiad hwn. Fe gyll y ddau arall eu hernes.

T. C. Hart, (Federal Union), Caerdydd,

Mae'n falch o glywed bod W. J. Gruffydd yn cydymdeimlo ag amcanion y mudiad Federal Union. Mae'n hyderu y bydd W. J. Gruffydd yn fodlon cydweithredu â'r mudiad fel y gellir dod o hyd i ffyrdd gwell o gynnal cysylltiadau rhyngwladol.

Canlyniadau 161 i 180 o 982