Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Dafydd' [Y Parch. David Williams, (1877-1927)], Coleg y Bala,

Mae wedi derbyn copi o'r cyfieithiad o Efengyl Ioan a chais am nodiadau beirniadol arno. Bu'n sâl am bum mis ac ni all ddefnyddio ei law dde. Mae'n teipio'r llythyr hwn gyda'i law chwith. Ymddengys y cyfieithiad yn rhagorol ond methodd â chofnodi nodiadau wrth fynd ymlaen. Mae'n diolch hefyd am Y Llenor. Ni fynnai fod hebddo. Y mae rhwybeth yn perthyn i'r Llenor a oedd yn eisiau yn Y Beirniad. Mae'n troi yn syth at ddarnau o'r cylchgrawn sydd gan W. J. Gruffydd. Mae'n mynd at feddyg yn Llundain ddiwedd yr wythnos gyda'r gobaith o ailgydio yn ei waith y tymor dilynol.

Daniel Jones, Aberpennar,

Mynegi ei bleser mawr o gael darllen 'Hen Atgofion' W. J. Gruffydd ar ei hyd yn Y Llenor. Fe'i maged ef mewn ardal debyg, bro mebyd 'Brutus'.

[David] Gwilym [James], Rhiwbeina,

Y mae'n anfon 'Gwyrfai' [?cerdd Saesneg] gan obeithio nad yw yn rhy drist. Y mae'n mynd i Aber[ystwyth] ar gyfer cyfweliad. Bydd yn dda ganddo pan fydd y cyfan drosodd.

David Jones [Blaenplwyf], Aberystwyth,

[Llythyr yngl?n â beirniadu cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Aberystwyth]. Y mae [Euros] Bowen am wobrwyo 'Efnisien'. Gan nad yw ef a W. J. Gruffydd yn cytuno â'r dyfarniad hwnnw, rhaid iddynt hwy gytuno â'i gilydd bellach. Hydera y ceir gwobrwyo.

David Jones, [Blaenplwyf], Aberystwyth,

Wedi iddo ailddarllen gwaith y cystadleuwyr erys 'Y Perthi Llwydion' a 'Berddig' ar y blaen. Y mae o'r farn y gellir coroni 'Berddig'. Methwyd â choroni gwell na'r cystadleuwyr hyn yn Y Rhos. Nid yw wedi ailgysylltu ag [Euros] Bowen. Mae'n ddrwg iawn ganddo orfod anghytuno â W. J. Gruffydd.

Defnyddiau yn ymwneud â'r llyfrynnau North Wales and the Marches a South Wales and the Marches a baratowyd gan W ...,

Defnyddiau yn ymwneud â'r llyfrynnau North Wales and the Marches a South Wales and the Marches a baratowyd gan W. J. Gruffydd ar gyfer Gwyl Brydain 1951. Ymhlith y pecyn ceir llythyr oddi wrth R. T. Jenkins, dyddiedig 3 Medi 1947; cytundeb gyda'r cyhoeddwyr, 7 Ebrill 1950; sgript sgwrs radio rhwng T. I. Ellis a Jean Ware yn trafod y ddau gyhoeddiad, ynghyd â fersiynau llawysgrif, teipysgrif a phroflenni hirion.

Deunydd amrywiol: tystysgrif yn rhyddhau W. J. Gruffydd o'r Llynges, 1 Ionawr 1919; derbynebau, Mai 1929, gan Goleg yr Iesu ...,

Deunydd amrywiol: tystysgrif yn rhyddhau W. J. Gruffydd o'r Llynges, 1 Ionawr 1919; derbynebau, Mai 1929, gan Goleg yr Iesu a Phrifysgol Rhydychen; bwydlen cinio Clwb Rhyddfrydwyr Prifysgol Rhydychen, 31 Ionawr 1944, lle bu W. J. Gruffydd yn wr gwadd; torion papur newydd; tystebau gan yr Athrawon W. Lewis Jones, T. Hudson Williams a John Morris-Jones, Coleg y Gogledd, Bangor, ac E. Madoc Jones, prifathro Ysgol Ramadeg, Biwmares, 1904, yn cefnogi W. J. Gruffydd ar gyfer swydd prifathro Ysgol Sir y Drenewydd; erthygl ar Thomas Dekker; ysgrif deipysgrif '?The Late Sir Henry Jones and the University College of Wales, Aberystwyth' wedi ei chodi o'r Dragon, cyf. XLV (1922-3), tt. 178-80; a rhestr o feirdd ardal Dinorwig a Brynrefail yn rhestru eu nodweddion fel beirdd; nodiadau dosbarth gan G. W. Hughes, Blaenau Ffestiniog, o ddosbarth WEA 1937, &c.

[Di-enw] 'Dros Gymru', [Abertawe],

Cafodd wybodaeth yngl?n â phenodiad [Melville] Richards a diswyddiad J. S[aunders] Lewis. Cafodd Senedd Coleg Abertawe ei chamarwain. Nid y Senedd a fu'n apwyntio ond pwyllgor wedi ei ddewis gan y Prifathro, sef y Prifathro H[enry] Lewis a Mary Williams. Mae'r Cyngor yn ofni y bydd y mater yn gorfod mynd o flaen Llys y Brifysgol ac oddi yno i Gyngor y Brifysgol. Os felly fe brofid bod penodiad [Melville] Richards yn annilys. Byddai hyn yn caniatâu i Saunders Lewis gael ei le yn ôl yr eilwaith.

[Di-enw], Abertawe,

Mae'n cofnodi ffeithiau yngl?n â diswyddiad Saunders Lewis. Yr oedd un ar ddeg dros ei ddiswyddo a deg yn erbyn. Ymddangosai fod Saunders Lewis am gario'r dydd ond bygythiodd Lewis Jones, A.S., y gwelai ef fod Coleg Abertawe yn fethdalwr o fewn chwe mis pe na chai Saunders Lewis ei ddiswyddo. Dyna sut y llwyddwyd i ennill y bleidlais. Roedd o leiaf ddau o gefnogwyr Saunders Lewis yn absennol. Fe arwyddwyd deiseb o blaid Saunders Lewis gan holl aelodau staff Coleg Abertawe ar wahân i'r Prifathro, yr Athro Bacon a'r Jiwdas hwnnw yr Athro [Henry] Lewis. Fe siaradodd yr aelodau hynny o staff sydd ar y Cyngor o'i blaid. Gall athrawon a staff yr adrannau Cymraeg eraill a rhai Celteg Iwerddon wrthod arholi tan ailbenodir Saunders Lewis. Canlyniad hynny fyddai i'r diwydiannwyr ddal yn ôl eu £2,500 y flwyddyn. Cafodd y wybodaeth yn gyfrinachol gan gyfaill sydd â'i ewythr ar Gyngor y Coleg. Nid yw Dr Stevens ar y Cyngor yn awr ond y mae ei wraig, Dr Mary Williams yn gefnogol i Saunders Lewis. Awgryma y dylai W. J. Gruffydd ei ffônio hi i gael cadarnhad fod y ffeithiau'n gywir. Pe cyhoeddid yr hanes am fygythiad Lewis Jones yna byddai ymateb chwyrn a gallai Saunders Lewis fynd yn ôl i'w swydd yn sgîl hynny. Mae'r Athro [Henry] Lewis am fod yn Is-Brifathro y Sesiwn dilynol, dyna paham y mae ef yn gyfeillgar â'r gelyn.

Dorothy Jones, Bala,

Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am ei safiad ar y 'Gwylliaid' yn ei nodiadau yn Y Llenor diwethaf. Mae'n frawychus bod rhai yn defnyddio eu swyddi i hau had totalitariaeth a gelyniaeth at genhedloedd eraill a llawer o bobl ifanc yn dod o dan eu dylanwad.

Douglas Hyde, Dulyn,

Mae Senedd Prifysgol Genedlaethol Iwerddon yn penodi llefarydd i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Brenhinol ar y Gwasanaeth Sifil. Un o'r pwyntiau a godir fydd lle'r Wyddeleg yn y gyfundrefn. Mae'n hyderu y gwneir yr un peth dros y Gymraeg yng Nghymru. Os na lwyddir i hawlio priod le i'r ieithoedd Celtaidd yn awr fe gollir y cyfle am byth.

Drafftiau o gerddi o waith W. J. Gruffydd ac eraill: 'Jonah Puw'; 'Emyn i Amynedd'; 'Yr ieuainc wrth yr hen' ...,

Drafftiau o gerddi o waith W. J. Gruffydd ac eraill: 'Jonah Puw'; 'Emyn i Amynedd'; 'Yr ieuainc wrth yr hen'; 'The Yew-Tree at Llanddeiniolen' (cyf. H. I. Bell); 'Gwerfyl Fechain' (cyf. A. P. Graves); 'A hearty old Vicar of Mount ...', 1942; 'O Fab y Dyn, Eneiniog Duw ...'; 'Cyffes Gweinidog Bethesda' a 'Y Murddyn' wedi eu copio'n gain, Mehefin 1941; 'Rhagluniaeth fawr y nef ...'; ysgrif ar 'Glan Padarn' (Thomas David Thomas); 'I'r Eos yn canu mewn mynwent'; 'Yr Hydref'; a 'Gwyll y Duwiau', &c.

Canlyniadau 161 i 180 o 982