Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

Ifan Ab Owen Edwards, Llanuwchllyn,

Mae'n amgau llyfryddiaeth fras. Ni all ei chwblhau heb fynd i'r Llyfrgell Genedlaethol ac ni all fynd yno cyn diwedd Ebrill. Nid yw wedi amgau Cyfres y Fil. Mae'n amgau rhai eitemau ac yn anfon parsel arall gyda'r un post yn cynnwys hen ewyllys gan O. M. Edwards, llythyr oddi wrth Ruskin, dau lyfr ar Thomas Cromwell, a chopi cyflawn o Heddiw a'r Llenor.

Ifan Ab Owen Edwards, Aberystwyth,

Nid yw'n barod i ymddiried y gwaith o ysgrifennu'r cofiant i efrydydd, hyd yn oed un o dan ofal W. J. Gruffydd. Mae am gasglu'r defnyddiau felly. Bydd yn rhaid i'r cofiannydd newydd ail wneud y gwaith i gyd. Mae'n gofyn am gael trefnu cyfarfod â W. J. Gruffydd ar unrhyw Sadwrn o'r pedwerydd ar ddeg o Fawrth ymlaen, er mwyn mynd trwy'r papurau a'u pacio.

Ifan Ab Owen Edwards, Aberystwyth,

Y mae popeth yn barod ar gyfer gwasgaru'r cofiant. Archebwyd 200 copi eisoes ac fe anfonir 35 copi i'w hadolygu. Gall W. J. Gruffydd gael copïau gan William Lewis, yr argraffydd, ar gyfer ei hunan a chopi adolygu i'r Llenor. Holi yngl?n â chael caniatâd i gyhoeddi llythyrau yn y cofiant.

John Hugh Edwards, Llundain, S.W.1,

Y mae wedi cyfarfod â Gwynn Jones yn Aberystwyth. Fe benderfynwyd cyhoeddi'r llyfr gydag un o gyhoeddwyr blaenaf Llundain. Y mae Gwynn Jones yn ysgrifennu erthygl ar lenyddiaeth Gymraeg hyd at y cyfnod Tuduraidd ac 'Elfed' yn ysgrifennu ar lenyddiaeth Cymru o ddechrau'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Gofynnir i W. J. Gruffydd ysgrifennu am lenyddiaeth cyfnod y Tuduriaid a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae'n amgau siec am bum gini yn dâl am y gwaith.

John Hugh Edwards, Hindhead, Surrey,

Mae'n gwerthfawrogi pa mor brysur y mae W. J. Gruffydd gyda'i waith Coleg a gweithgareddau eraill, ond y mae yn erfyn arno i anfon ei gyfraniad ym mhost dydd Sul fan bellaf. Yr oedd wedi bwriadu dod i Gaernarfon i'r cyfarfod protest yngl?n ag achos Saunders Lewis a'i ddau gydymaith er mwyn ymgysylltu â'r brotest a chael cyfle i sgwrsio â W. J. Gruffydd. Yr oedd yn siomedig iawn pan glywodd nad oedd y cyfarfod i'w gynnal. Y mae newydd orffen darllen cyfrol atgofion W. J. Gruffydd. Cafodd ei swyno gan y cynnwys a'r mynegiant. Y mae'n sicr o gael ei ystyried yn glasur.

O. M. Edwards, Coleg Lincoln, Rhydychen,

Tystlythyr ar ran W. J. Gruffydd yn ei ddisgrifio fel un o'r rhai mwyaf disglair i ymadael â Rhydychen y flwyddyn honno. Mae'n debyg o wneud gwaith da ym myd llenyddiaeth Saesneg, a gwnaeth enw iddo'i hun eisoes ym myd llenyddiaeth Gymraeg. Nid yw wedi cyfarfod â neb sydd â brwdfrydedd mor heintus. Fe ddylai fod yn brifathro effeithiol a phoblogaidd. Bydd yn siwr o gyfrannu gwasanaeth teilwng i'r sustem addysg Gymreig.

T. P. Ellis, Dolgellau,

Ymateb i adolygiad ar ei lyfr [Welsh Tribal Law and Custom in the Middle Ages (Rhydychen, 1926)], sef cyfeiriad at R. T. Jenkins, 'Mr T. P. Ellis ar Gyfreithiau Hywel Dda', Y Llenor, cyf. VI (1927), tt. 6-25.

D. Owen Evans, Maidenhead, at Iorwerth C. Peate,

Yr oedd yn dymuno gweld Iorwerth C. Peate yn cael ei swydd yn ôl yn yr Amgueddfa am ddau reswm: 1) am iddo gael ei drin yn annheg a 2) byddai ei ymadawiad yn golled fawr i'r Amgueddfa. Llwyddwyd i gael digon o aelodau o'r Cyngor i gefnogi'r cais. Llwyddwyd i gael y Cyngor i aildrafod y mater. Y mae'n weddol hyderus y gwelir Iorwerth C. Peate yn ôl yn ei swydd cyn hir. Rhaid newid cyfansoddiad y Cyngor i osgoi digwyddiad tebyg yn y dyfodol ond gall hynny brofi'n fenter tymor hir. Copi teipysgrif.

E. Lewis Evans, Pontarddulais,

Mae'n ysgrifennu yngl?n â ffenestr goffa Morgan Llwyd. Yr oedd wedi ei chynllunio a'i chwblhau bron cyn bod neb ond Syr T. Carey Evans yn gwybod amdani. Yr oedd y lluniau ar y ffenestr 'yn ddim llai na thrychineb'. Llwyddwyd i newid y geiriau 'Patriot, Poet, Scholar, Soldier' a rhoddwyd 'Amser dyn yw ei gynhysgaeth' i mewn hefyd. Byddai'n well iddi gostio £20 arall nag ymddangos fel y mae.

Cyril Fox, Amgueddfa Genedlaethol Cymru,

Cafodd ei synnu o dderbyn llythyr W. J. Gruffydd. Nid oedd neb ar staff yr Amgueddfa yn gyfrifol am newid y manylyn lleiaf o gyfieithiad W. J. Gruffydd. Wedi ffônio yr argraffwyr William Lewis, cafwyd mai Cymro oedd y cysodwr a'i fod ef wedi cyfaddef mai ef a newidiodd y ffurf 'Edward' yn 'Iorwerth'. Y mae'n cydymdeimlo â W. J. Gruffydd am y diflastod a grewyd gan y mater.

Irene George, Aberystwyth,

Y mae'n falch iawn fod W. J. Gruffydd yn bwriadu ymgymryd ag ysgrifennu cofiant O. M. Edwards. Fe wyr hi am rai defnyddiau yn y Llyfrgell Genedlaethol ar O. M. Edwards. Mae'n cynnig, fel cynfyfyriwr iddo, ei gynorthwyo mewn unrhyw fodd.

LL. Wyn Griffith, Berkhamsted,

Mae'n holi am gopi o ddarlith W. J. Gruffydd i'r Cymmrodorion gan fod rhifyn o'r Trafodion ar fin mynd i'r wasg. Hydera na fydd unrhyw dalfyrru ar y cyfraniad ac y bydd yn cynnwys y darn gwych ar ddiwylliant gwerin.

Results 161 to 180 of 982