Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Anfonodd gopi o feirniadaeth W. J. Gruffydd i'r Cymro, Y Faner ac i Cynan a Prosser Rhys yn wyneb y paragraff personol a gynhwysai. Bydd datganiad byr ganddynt hwythau. Cafwyd Eisteddfod hapus iawn. Cafwyd hwyl yn y Gymanfa Ganu. Yr oedd Bethania (B.) yn llawn fore Sadwrn, Bethania a Chapel Mair yn llawn yn y prynhawn a Bethania, Capel Mair a'r Tabernacl yn llawn yn yr hwyr. Casglwyd £57. 10s. at 'Cofion Cymru'. Y mae'n llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei ethol yn aelod o Gyngor yr Amgueddfa.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Cydnabod swm o £2. 12s. Y mae'r 'Cofion' yn boblogaidd iawn. Bu'n rhaid argraffu 11,000. Fe'u dosberthir drwy'r eglwysi. Y mae'n amlinellu erthygl, 'Y Tri Hen Bererin', y bwriada ei llunio ar gyfer Y Llenor.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Y mae wedi derbyn beirniadaethau Cynan ac [E.] Prosser Rhys ar gyfer y Goron. Fe'u hanfonodd at yr argraffwyr gan fod y ddau yn dyfarnu'r Goron i'r un cystadleuydd. Gofid i bawb fydd deall nad yw'r prif feirniad [W. J. Gruffydd] yn cytuno â hwy. Hydera y caiff feirniadaeth o law W. J. Gruffydd i'w chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau. Mae'n holi a yw W. J. Gruffydd yn golygu bod yn yr Eisteddfod ddydd y Coroni.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Ni chafodd ateb i'w lythyr blaenorol. Hydera fod W. J. Gruffydd yn well erbyn hyn. Mae'n amgau proflen o'r beirniadaethau a'r nodyn. A yw W. J. Gruffydd yn bwriadu dod i Aberteifi i draddodi'r feirniadaeth? Mae cludo pobl y Gogledd o Aberystwyth i Aberteifi yn dal yn broblem. Fe ataliwyd gwerthiant rhaglen yr Eisteddfod yn Aberteifi gan yr heddgeidwaid am fod map o'r dre ynddo!.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd ac am gael gweld ei lythyr at Cynan. Mae'n sôn am drafodaeth ar ran o Gyfansoddiad yr Eisteddfod a fu'n achos colli tymer sef yr hyn a elwid yn 'Bond yr Orsedd'. Mae'n ymddiheuro am unrhyw ddiffyg a fu yn ystod y trafodaethau i ddeall ei gilydd.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Achwyn am fod W. J. Gruffydd [mewn araith] wedi ymosod eto ar Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n wir mai cymdeithas a anwyd yn Llundain ydyw, ac mai Llundeinwyr a fu wrth y llyw ers ei dechreuad. Y mae'n rhestru'r newidiadau a ddaeth i rym wedi marwolaeth 'Finsent'. Eisoes fe dynnwyd rhestr o ryw ugain i bump ar hugain o Gymry i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith - naw o Lundain a'r lleill, e.e. W. J. Gruffydd, Griffith John Williams, R. Williams Parry, etc., yn ddynion 'o'r wlad'. Nid yw Cymdeithas yr Eisteddfod yn nwylo'r Philistiaid yn hollol.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Mae'n ymddiheuro am gredu bod yr adroddiad yn y Western Mail yn eirwir pan nad oedd. Nid yw'r Western Mail i'w gredu pan yn ymdrin â naill ai W. J. Gruffydd neu'r Blaid. Mae wedi alaru ar ystrywiau digydwybod rhai pobl i droi popeth yn elw personol.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Mae'n disgwyl gweld W. J. Gruffydd yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith y noson ganlynol. Hoffai pe bai modd cyhoeddi Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Caerdydd yn union ar ôl y Cadeirio. Bydd Beirniadaethau Abergwaun a Machynlleth ar werth ymhen wythnos. Bydd cyfrol y Cyfansoddiadau ar werth ar wahân gan y Pwyllgor Lleol. Bu yng Nghaerdydd yn ddiweddar a chael sgwrs gyda G. J. W[illiams] yng Ngwaelod-y-garth a chlywed am 'antics y llys bondigrybwyll a fu'n ceisio mygu'r ymdrafod ar achos Saunders Lewis.' Ceisiodd cyfeillion Machynlleth yn daer i rwystro Ashton rhag anfon ei 'hen lythyr gwirion' i'r Western Mail. Buasai'n well petai W. J. Gruffydd wedi gohirio eu nodion golygyddol hyd y rhifyn nesaf.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Diolch i W. J. Gruffydd am eiriau caredig yn Y Llenor [cyf. XV (1936), t. 130, yngl?n â chyfraniad D. R. Hughes at lunio Braslun o Gyfansoddiad Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol]. Bu David Hughes-Parry, Llewelyn Wyn Griffith, D. S. Owen ac eraill yn llawer iawn haelach eu cyfraniad nag ef wrth lunio'r gwaith. Rhaid cael 'bechgyn y colegau' i ymuno â Chymdeithas yr Eisteddfod. Bwriada wneud cais personol at ysgolheigion yr adrannau Cymraeg, etc., i ymuno. Cafwyd nifer o bwyllgorau eisoes wedi hirlwm o chwarter canrif tra bu Vincent Evans yn ysgrifennydd.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Gofyn am awgrymiadau W. J. Gruffydd ar gyfer cyfansoddiad [Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol]. Mae'n deall, gan gyfaill, fod 'Gruffydd yn anfarwol' yn Y Llenor diweddaraf. Bydd yn rhaid iddo aros tan ddaw ei gopi ef drwy'r post oddi wrth Foyles.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am ei eiriau caredig yn Y Llenor. Ef a fu'n gyfrifol am benodi D. Owen Evans i'r gadeiryddiaeth er iddynt gael 'aml ysgarmes bur gas' yn ystod y deugain mlynedd blaenorol. Mae D. Owen Evans yn gyfrifol am lawer o lwyddiant y Cyngor. Derbyniodd air gan Syr John [E.] Lloyd yn dweud bod y traethawd ar 'Hanes Plwyf Llandebie' yn werth ei gyhoeddi gan Gyngor yr Eisteddfod. Y mae'r gwaith wedi ei drefnu a'i deipio'n ddestlus ac yn barod i'w argraffu. Hwyrach y gallai Gwasg y Brifysgol ei gyhoeddi dros y Cyngor gan ddwyn y ddau fudiad yn nes at ei gilydd.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Mae'n cyd-fynd â sylwadau golygyddol W. J. Gruffydd yn rhifyn yr Haf o'r Llenor [cyf. XIV (1935), tt. 65-7]. Nid yw, fodd bynnag, yn deall yr ensyniad cas yngl?n â swydd Ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod sef fod yn rhaid iddo fod yn Gymro Llundain er mwyn medru tynnu 'rhaffau'r addewidion' a derbyn teitlau. Y mae D. R. Hughes yn mynnu ei fod ef ymhell o fod yn y categori hwn, cymaint felly nes y byddai 'Finsent' yn troi yn ei fedd. Yr oedd yn amharod iawn i ymgymryd â'r swydd.

D. R. Hughes, Worthing,

Daeth cofiant O. M. Edwards i law. Bu'n ei ddarllen mewn cadair yng ngolwg y môr ac anodd oedd ei roi heibio ar adeg prydau bwyd. Diolch am yr hyfrydwch a gafodd o ddarllen y llyfr.

D. T. Davies, Pontypridd,

Ysgrifennu yngl?n â helynt y Gymraeg yn ysgolion sir Gaernarfon. Nid oedd W. J. Gruffydd yn cyfeirio o gwbl at yr ymchwil a wnaethpwyd gan y Bwrdd Addysg y flwyddyn flaenorol. Y mae'r Pwyllgor Addysg (yn bennaf Mr William George) yn camddeall a chamddehongli yr hyn a ddywed yr adroddiad. Yr oedd yr ysgolion yn chwannog i ddechrau dysgu plant rhwng 7 ac 11 i ddarllen Saesneg yn llawer rhy gynnar a hynny heb geisio seilio'r darllen ar unrhyw allu i ddeall a llefaru'r iaith. Dylid dechrau gwneud y gwaith llafar gyda'r babanod fel bod y plant yn gyfarwydd â'r iaith erbyn dosbarth un.

D. T. Davies, Porthcawl,

Anfon stori at W. J. Gruffydd a ddarlledwyd ganddo ar y radio. Esbonio cefndir y stori. ['Cyfrinach Hywel Dafis', Y Llenor, cyf. XVIII, (1939), tt. 83-90].

D. T. Davies, Porthcawl,

Anfon copi o gyfraniad ganddo i'r Athro gan ei fod yn crybwyll enw W. J. Gruffydd. Y mae wedi darllen popeth a gyhoeddwyd gan y Blaid Genedlaethol yn ystod y ddwy flynedd flaenorol ac y mae'n syndod iddo cyn lleied o sylw a gafodd y diwylliant Cymraeg a'r iaith gan y blaid honno. Mae mwy o angen ymosod ar gysgodrwydd Cymru na chwyno oherwydd unrhyw ddrwg a ddaw o'r tu arall i Glawdd Offa.

D. Tafwys Jones, Caerffili,

Mae'n anfon copi o'r llyfr Y Cydymaith Goreu at W. J. Gruffydd yn rhodd gyda diolch am bopeth a wnaeth dros Elsie [ei ferch]. Nid yw Elsie wedi cael lle hyd yma, dal i obeithio y maent. Cafodd fenthyg cofiant Hiraethog gan Scorpion a Dewi Ogwen ac y mae wedi dechrau ar ei gwaith. Mae D. Tafwys Jones wedi ei ddarllen yn frysiog ac nid yw'n credu ei fod yn dda iawn. Y mae'n proffwydo y bydd W. J. Gruffydd yn bennaeth un o'r colegau sydd yn, ac sydd i ddod yn wag cyn bo hir.

Dafydd Jenkins, ['y Gyfraith'], Caerfyrddin,

Mae'n anfon stori fer at W. J. Gruffydd. Dealla fod Y Llenor yn talu am ysgrifau. Hoffai wybod ai gwir hyn gan na chafodd ei dalu am ei gyfraniad 'Traddodiad Eglwys Caergaint' [Y Llenor XIV (1935), tt. 140-51].

Dafydd M[orris] Jones, Aberystwyth,

Mae'n amgau tocyn maes parcio ar gyfer yr Eisteddfod. Bydd yn rhaid cael trwydded gan y Prif Gwnstabl i barcio'r car ar rai o strydoedd Aberystwyth. Dylid gwneud cais yn Swyddfa'r Heddlu ar ôl cyrraedd gan ddangos y tocyn amgaeëdig. Cynhwysir awgrymiadau ynghylch traddodi beirniadaethau yn y Babell Lên. Teipysgrif.

Canlyniadau 141 i 160 o 982