Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

Copi o lythyr Cyril Fox at William Lewis (Argraffwyr) Cyf., Caerdydd,

Mae'n amlinellu'r hanes am newid 'Edward VII' yn 'Iorwerth VII' ac yn pwysleisio anniddigrwydd W. J. Gruffydd yngl?n a'r newid. Dywed mai cyfieithiad o'r enw 'Hereward' yw 'Iorwerth' a bod y newid yn adlewyrchu'n anffafriol ar ysgolheictod W. J. Gruffydd. Mae'n siwr fod yr argraffydd yn gweithredu ar sail cymhellion da ond ni ddylid newid copi, gellid awgrymu gwelliant ar ymyl y ddalen.

Crynodebau teipysgrif o'r erthyglau canlynol: R. E. Bennett, 'Arthur & Gorlagon, The Dutch Lancelot, & St. Kentigern', Speculum, XIII; 'Geoffrey ...,

Crynodebau teipysgrif o'r erthyglau canlynol: R. E. Bennett, 'Arthur & Gorlagon, The Dutch Lancelot, & St. Kentigern', Speculum, XIII; 'Geoffrey of Monmouth and the Paternity of Arthur', Speculum XIII; Sarah Michie, 'The Lover's Malady in Early Irish Romance', Speculum XII; R. Thurneysen, 'Irish 'Eneclann'', Zeitschrift für Keltische Philologie XX; 'Geoffrey of Monmouth and the Modena Archivolt', Speculum XIII.

Cyfieithiadau teipysgrif o ddwy stori fer Gymraeg i'r Saesneg, sef: 'The Poet's Dream' a 'Dripping Leaves'. Cynhwysir hefyd fersiwn llawysgrif ...,

Cyfieithiadau teipysgrif o ddwy stori fer Gymraeg i'r Saesneg, sef: 'The Poet's Dream' a 'Dripping Leaves'. Cynhwysir hefyd fersiwn llawysgrif o'r stori 'The Poet's Dream' ynghyd â llythyr oddi wrth y cyfieithydd, Ll. Wynn Griffith, Berkhamsted, dyddiedig 28 Ionawr 1940. Yn ogystal ceir erthygl ar 'Daniel Silvan Evans' gan J. Seymour Rees, Seven Sisters, ar gyfer Y Llenor, ynghyd â llythyr dyddiedig 25 Mehefin 1952.

'Cymro' gwaed Coch cyfan!,

Mae'n iawn i gredu nad oes gan Archesgob Cymru [Alfred George Edwards] unrhyw gydymdeimlad â'r iaith Gymraeg. Penododd Ll. Wynne Jones, Cymro di-Gymraeg yn archddiacon ac yn Ddeon Llanelwy a chafwyd protestio mawr. A phan ymddiswyddodd y Deon yn ddiweddar fe benododd Sais yn ei le. Penododd offeiriaid Saesneg yn y Rhyl, Bae Colwyn, etc. Mae hyn i gyd yn dangos ei fod yn anwybyddu'r iaith yn llwyr. Mae hefyd wedi penodi ei fab yn Ganghellor yr Esgobaeth ac yn Gofrestrydd y Llys Prawf, er i hwnnw fethu fel bargyfreithiwr. Rhestrir nifer o enghreifftiau eraill o ffafrio perthnasau. Nid oedd un o'i blant yn medru'r Gymraeg. Mae hyn i gyd yn profi ei fod yn haeddu'r feirniadaeth a fu arno yn Y Llenor.

Cyril Fox, Amgueddfa Genedlaethol Cymru,

Cafodd ei synnu o dderbyn llythyr W. J. Gruffydd. Nid oedd neb ar staff yr Amgueddfa yn gyfrifol am newid y manylyn lleiaf o gyfieithiad W. J. Gruffydd. Wedi ffônio yr argraffwyr William Lewis, cafwyd mai Cymro oedd y cysodwr a'i fod ef wedi cyfaddef mai ef a newidiodd y ffurf 'Edward' yn 'Iorwerth'. Y mae'n cydymdeimlo â W. J. Gruffydd am y diflastod a grewyd gan y mater.

Canlyniadau 81 i 100 o 982