Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

Haydn Morgan, Lerpwl,

Diolch am gyhoeddi 'Ioseff a Mair' [yn Y Llenor, cyf. XVIII (1939), tt. 138-9, sef efelychiad o waith James Elroy Flecker]. Mae'n cynnig ysgrif am ddau Nadolig gynt ar gyfer Y Llenor ['Cofio Nadolig', cyf. XVIII (1939), tt. 239-41].

T. J. Morgan, Radur,

Mae'n cynnig am swydd weinyddol ac yn gofyn i W. J. Gruffydd roi geirda drosto yng nghlust Pierce Jones. Collodd T. J. Morgan wythnos o waith o achos y ffliw. Ei argraff o ddarllen hanes yr Eisteddfod oedd mai rhywbeth yn digwydd tua 'Greenland oer fynyddig' oedd hi. Cyfeiriad at erthygl y Morgrugyn Cloff yn rhifyn y mis blaenorol o'r Ddraig Goch. Mae'n wir ddrwg ganddo dros [Iorwerth] Peate, mae'n amlwg mai casineb personol ei gydswyddogion sy'n gyfrifol.

[W. J. Gruffydd] at R. Hopkin Morris, BBC, Caerdydd,

Y mae [Iorwerth] Peate yn paratoi erthygl yn beirniadu rhaglenni'r tri mis blaenorol ar gyfer Y Llenor. Mae'n cynnwys beirniadaeth lem ar y sgyrsiau a ddarlledwyd. Os hoffai R. Hopkin Morris weld yr erthygl cyn ei chyhoeddi y mae croeso iddo. Fe gaiff gyfle i ymateb yn nes ymlaen. Nid yw am dramgwyddo R. Hopkin Morris gan fod arno gymaint o ddyled iddo. Copi teipysgrif.

R. Hopkin Morris, Caerdydd,

Diolch am ysgrifennu ato yngl?n ag erthygl [Iorwerth] Peate. Mae'n cytuno na ddylai ei darllen cyn ei chyhoeddi. Os bydd y feirniadaeth yn deg fe geisir cywiro'r diffygion. Mae ei ferch yn ysbyty Dolgellau a'i wraig yn y gwely yn dioddef o phlebitis.

R. Hopkin Morris, BBC, Caerdydd,

Yngl?n a'r bwriad i gael dwy ddarlith genedlaethol i Gymru. Traddodir yr un Saesneg ym mis Hydref a'r llall yn ystod yr wythnos gyntaf o Fawrth yn Gymraeg. Bydd Dr Tom Jones yn traddodi'r un Saesneg ar ei brofiadau o'r Cyfrin-gyngor a gofynnir i W. J. Gruffydd draddodi'r un Gymraeg ar 'Beirniadaeth Lenyddol yng Nghymru' ym Mawrth 1939. Cynigir pum gini ar hugain iddo, yr hawlfraint i fod yn eiddo'r Gorfforaeth. Cyhoeddir y ddarlith yn llyfryn. Gall ddewis gwell testun os y mynn.

R. Hopkin Morris, BBC, Caerdydd,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd yngl?n â darllediad Mr D. P. Williams. Rhoddwyd cyfle iddo ddarlledu yn 'newyddion' yr Eisteddfod. Ni roddwyd cyfle iddo siarad yn erbyn dyfarniad yr Eisteddfod. Ni fwriedir beirniadu awdurdodau'r Eisteddfod mewn unrhyw ffordd.

Gilbert Norwood, Toronto,

Cafwyd trefn ar bethau. Bu'r briodas, y mis mêl a'r cyfnod o ymgartrefu ac yn awr fe ddechreuodd y Brifysgol unwaith eto. Ceir ychydig o hanes y briodas a disgrifiad o'r cartref newydd. Nifer y myfyrwyr Clasuron wedi disgyn eto. Ofn gwaith ymenyddol ar bobl Canada, dyna paham y lluniwyd y gwyddorau cymdeithasegol. Bu'n cynrychioli Caerdydd a Chaergrawnt yn nathliadau 50 mlynedd Prifysgol Chicago. Nid yw yn darllen hanes y rhyfel bellach. Ni all neb esbonio goresgyniad Rwsia.

Gilbert Norwood, Toronto,

Sôn am y ty y maent yn byw ynddo. Yr oedd ef yn rhy hen i brynu ty. Disgrifir y seremoni raddio ddeuddydd ynghynt. Mae wedi dechrau paratoi ei ddarlithiau ar Pindar ar gyfer Prifysgol California, i'w traddodi yn gynnar yn 1944. Mae sôn ei fod am dderbyn F.R.S.C. Hanes ymosodiad ar rywbeth a ysgrifennwyd ganddo gan Almaenwr. Gofynnwyd iddo gyfieithu emyn Saesneg i'r Lladin. Mae siwgwr i'w ddogni yng Nghanada. Nid oes gorfodaeth filwrol i fod yno ar gyfer gwasanaeth tramor. Darganfuwyd mai dim ond 63% o boblogaeth y wlad oedd yn gefnogol i'r rhyfel.

Gilbert Norwood, Toronto,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar gadw ei sedd a chynyddu ei fwyafrif. Disgrifio ychydig ar wleidyddiaeth Canada. W. J. Gruffydd ei hunan yw un o'r rhesymau dros i Gilbert Norwood ddyfaru gadael Prydain - mae'r rhesymau eraill yn cynnwys yr eglwysi cadeiriol a nofio yn y môr. Cafodd flas mawr wrth ddarllen A Word in your Ear gan Ivor Brown. Fe luniodd fynegai ar 4,000 o gardiau i'w gyfrol ar Pindar. Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei benodiad yn Llywydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n methu deall un frawddeg yn llythyr blaenorol W. J. Gruffydd sef '... to be a Welsh Nationalist means submission to the Vatican ... they have shoals of money supplied by rich Catholics'. Mae Prifathro a Llywydd newydd yn y Brifysgol ac fe addawyd mwy o staff iddo yn Adran y Clasuron. Disgwylir dwywaith gymaint o fyfyrwyr y sesiwn dilynol oherwydd y niferoedd sy'n dychwelyd o'r lluoedd arfog. Mae'n edrych ymlaen i gael ymweld â W. J. Gruffydd gan fod y rhyfel drosodd.

Bob Owen, Croesor,

Ymddangosodd Cerdd yr Hen Wr, David Charles (Iau), gyntaf mewn cyfnodolyn o'r enw Yr Addysgydd IX (1823), tt. 107-8. 'Y Cardotyn' yw'r teitl yno. Manylion am Rowland Walter 'Ionoron Glan Dwyryd'. Mae darlun ohono yn Cymru (O. M. Edwards) cyf. 48 (1915), t. 225, ynghyd ag ychydig o'i waith barddonol. Mae gan Bob Owen ddau neu dri llythyr o'i eiddo at ei frawd, William Walter, ynghyd â'r ddau lyfr a gyhoeddwyd ganddo. Diolch am Y Llenor ac am yr 'Atgofion' yn enwedig. Mae 'canmol mawr arnynt ond gan hen bregethwyr M.C. a blaenoriaid'. Atgofion Bob Owen am gyfarfod â thad W. J. Gruffydd.

Bob Owen, Croesor,

Mae'n amgau adysgrif o Gywydd Marwnad Siôn Rhydderch i Ellis Wynne a godwyd o Lawysgrif Tanybwlch. Nid oes unrhyw wybodaeth arall am Ellis Wynne yn y llawysgrif honno. 'Cywydd salw, dienaid' ond yr unig un sydd ar gael i Ellis Wynne. Mwy o wybodaeth am achau Ellis Wynne, etc. Mae Bob Owen am geisio am le ar y Cyngor Sir dros blwyf Llanfrothen. Mae'n aelod o'r Blaid Genedlaethol er 1925 ond nid yw am gyhoeddi'r ffaith honno, dim ond gweithredu egwyddorion y Blaid yn gall os caiff ei ethol. Mae am wrthwynebu'r rhai sy'n mynd ar y Cyngor Sir er mwyn parchusrwydd ac anrhydedd, snobyddion gan mwyaf yn aelodau o'r Seiri Rhyddion. Gwell ganddo'r gwir ysweiniaid toriaidd. Mae am wneud ei orau i geisio cadw'r ysgolion gwlad yn fyw a chadw'r plant yno hyd nes y'u bod yn 13 oed. Melltith yw'r Ysgolion Canol sy'n tynnu plant o'r wlad 'i snobydda mewn pentrefydd mawr a threflannau.' Cynhwysir adysgrif o'r Cywydd Marwnad i Ellis Wynne.

[J.] Dyfnallt [Owen], Caerfyrddin,

Mae'n ddrwg ganddo i W. J. Gruffydd fethu â dod i annerch oherwydd ei ddigalondid. Y mae llawer yn credu mai W. J. Gruffydd, yn anad neb, sydd i 'ganu corn Arthur i alw'r genedl o'r ogof'. Bu Gwynn yno'r noson o'r blaen yn siarad ag Urdd y Gweithwyr. Chwith yw ei weld wedi mynd yn hen, ond y mae ei feddwl yn fyw iawn. Ceisio sicrhau W. J. Gruffydd fod ganddo flynyddoedd eto o'i flaen 'i achub a ellir o enw da ein hen genedl annwyl'.

William Richard Owen, Rhewl, Rhuthun,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwrandawai cwmni bach arno yno o fewn tafliad carreg i'r fynwent lle gorwedd Emrys ap Iwan. Dymuno pob hwyl iddo ddweud y gwir 'wrth Philistiaid o bob math'. Cerdyn post.

Blodwen [Jane Parry], Bethel,

Mae'n falch o glywed ei fod yn bwriadu dod adref dros y Nadolig. Pe bai'n medru dod yn amlach hwyrach na fyddai mor ddigalon. Mae'n ofni iddo 'fynd o'i go' gan bod hanes am hynny'n digwydd ar ddwy ochr y teulu. Hyderu iddo gael hwyl ar ei ddarlith yn Rhydychen. Mae disgwyl mawr amdano i ddarlithio ym Methel hefyd. Newyddion lleol.

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Mae'n ysgrifennu yngl?n â phrotest staffiau adrannau Cymraeg [y Brifysgol] yn erbyn Cyngor Coleg Abertawe yn sgîl canlyniadau llosgi'r Ysgol Fomio a dyfodol swydd Saunders Lewis yno. Y mae Tom [Parry] yn fodlon arwyddo ond gwrthod y mae Ifor [Williams]. Bu R. T. Jenkins yn cefnogi Ifor Williams yn ei ddadl. Felly dim ond naw o'r tri ar ddeg fydd yn arwyddo. Dau o Fangor, tri yng Nghaerdydd a phedwar yn Aberystwyth. Nid teg fyddai gofyn i St[ephen John] Williams. R. Williams Parry yn synnu at safbwynt Henry Lewis. Awgrymir pwyntiau i'w hymgorffori yn y llythyr.

R. W[illiams] Parry at G. J. W[illiams],

Mae'n cefnogi'r syniad o bledio pwysigrwydd arbennig Saunders [Lewis] yn llenyddiaeth Cymru. Y mae ei ymddiswyddiad gorfodol felly yn golled drist i Adran Gymraeg Coleg Abertawe. W. J. Gruffydd yw'r dyn i ysgrifennu llythyr cryf i'r Wasg. Dylai bwysleisio bod Saunders Lewis yn cyfateb i T. S. Eliot yn Lloegr. Yn yr ail baragraff gellid pledio achos D. J. [Williams] ac yna yn y trydydd gellid nodi ymddygiad Cristnogol Eglwys y Bedyddwyr yn Llandudno yn achos Lewis Valentine. Mae'n gweld arwyddocâd yn y ffaith 'mai pobl ddiawen fel Ifor, R. T. Jenkins a Harry Lewis sydd yn nogio rhag mynd i'r gad dros gymrodor'. Y mae ganddynt smotyn dall 'na ad iddynt adnabod llenyddiaeth pan welont hi. Nid oes yr un ohonynt wedi gweld magnitude Saunders'.

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Gofyn caniatâd i gyhoeddi'r ddwy gerdd sydd heb ymddangos yn Y Llenor un ai yn Y Cymro neu'r Brython. Mae am brysuro i'w cyhoeddi oherwydd eu bod o natur amserol. Nid oeddynt chwaith mor loyw lenyddol â'r soned a gyhoeddwyd. ['Cymru, 1937', Y Llenor, cyfrol XVI (1937), t. 1].

Results 941 to 960 of 982