Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

R. T. Jenkins, Bangor,

Rhydd hanes Pwyllgor Brys yr Eisteddfod a gyfarfu yng Nghaer y dydd Gwener blaenorol. Clywodd fod Ceridwen, chwaer W. J. Gruffydd, wedi ei hanafu pan fomiwyd y Rhos. Holi am argraffwyr Y Llenor gan i'r proflenni ddod o Landysul yn hytrach nag oddi wrth Hughes a'i Fab. Syfrdanwyd y Pwyllgor Brys o glywed fod [?T. I.] Ellis wedi cael cynnig swydd yn ddarlithydd yn y Clasuron yn Llanbedr. Teimlai rhai y dylai Ellis weithio heb dâl fel Ifan [ab Owen Edwards] gyda'r Urdd. Dadleuai Saunders [Lewis] a Moses Gruffydd y dylid ei dalu fel y telid J. E. Jones gan y Blaid. Y mae felly yn neilltuol bwysig i W. J. Gruffydd fod yn y pwyllgor nesaf.

R. T. J[enkins], Bangor,

Mae'n anfon copi o lythyr od a dderbyniodd. Hola paham y bu i W. J. Gruffydd hepgor gwaith Ann Griffiths o'i Flodeugerdd. Cafodd flas arbennig ar ddetholion o 'Storm' 'Islwyn'. Mae wedi pwyso ar yr Eisteddfod i gynnig gwobr am drefnu detholion o'r 'Storm'. Mae newydd ddarllen A Buried Life gan Percy Withers am A. E. Housman ac yn dyfynnu tamaid.

R. T. [Jenkins], Bangor,

Mae'n falch o glywed bod W. J. Gruffydd lawer yn well. Hanes y tro trwstan pan fu R. T. Jenkins yn chwilio am W. J. Gruffydd yn Chertsey ac yn chwilio'n ofer. Trafod y posibilrwydd o roi ymreolaeth i [Iorwerth] Peate yn Sain Ffagan. Hanes y pwyllgor lle trafodwyd y mater. Mae Myfanwy yn hapus iawn ar staff Ysgol Glanadda. Glyn Roberts fydd olynydd R. T. Jenkins ym Mangor.

[A. E. Jones], 'Cynan', Porthaethwy,

Yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor Gwaith y mae'n parhau i esbonio'r rheolau ynghylch beirniadu ac aelodau'r Orsedd yn yr Eisteddfod. Y mae'n amheus fod yna gorff mawr o feirdd cadeiriol a choronog sydd heb fod yn perthyn i'r Orsedd.

[W. J. Gruffydd] at y Prifathro Stuart Jones, C. P. C. Aberystwyth,

Llythyr yn ymosod ar Timothy Lewis. Y mae'n defnyddio'r Wasg i ymosod ar athrawon Cymraeg y Brifysgol. Y mae ar fin ymosod ar Syr John Morris-Jones yn y South Wales News. Y mae'r erthyglau a gyhoeddir ganddo yn destun sbort yng Nghymru. Y mae ei gais i esbonio enwau lleoedd yn fwy gwallgo na'r rhai welir mewn papurau lleol. Mae'n rhaid i Adran y Gymraeg yn Aberystwyth ysgwyddo'r gwarth am ei ymddygiad. Y mae'n ennill £550 y flwyddyn am wneud dim ond ymosod ar aelodau'r brifysgol. Rhaid gwneud rhywbeth am hyn ar fyrder. Cafwyd addewid yng nghyfnod rhagflaenydd Stuart Jones gan Timothy Lewis y byddai'r ymosodiadau hyn yn darfod. Hydera y gellir delio â'r sefyllfa cyn gorfod codi'r mater gydag awdurdodau'r Brifysgol. Awgryma y gellid holi barn yr athrawon Parry-Williams, Gwynn Jones, Edwards a Fleure. Gallai Henry Lewis ac Ifor Williams roi barn ddiduedd yn ogystal pe bai raid. Copi teipysgrif.

H. Stuart Jones, Saundersfoot,

Y cam cyntaf fyddai siarad â golygydd y South Wales News. Os na ellir gwneud hyn y mae'n fodlon ceisio gweld y golygydd pan ddaw i gyfarfod Cyngor y Brifysgol ar yr 20fed. Ar y mater cyffredinol bydd yn rhaid iddo drafod y peth gyda'i gydweithwyr. Ysgrifennodd Timothy Lewis draethawd llyfryddol ar gyfer y gyfrol ar Hywel Dda. Hola os bu beirniadu ar honno.

[W. J. Gruffydd] at y Prifathro Stuart Jones, C.P.C Aberystwyth,

Diolch am ei lythyr. Y mae Sir John [Morris-Jones] eisoes wedi cysylltu â golygydd y South Wales News ond nid yw hynny yn debyg o wneud gwahaniaeth. Y brif ystyriaeth yw bod y Brifysgol yn talu dyn i ymosod ar ei gwaith ei hunan. Hydera y caiff Stuart Jones gyfle i drafod y mater gyda'i gydweithwyr pan fydd yn dychwelyd i Aberystwyth. Copi teipysgrif.

J. Morgan Jones, Bangor,

Diolch am gopi o'r Bil Addysg. Mae llawer o bethau da ynddo. Y mae, fodd bynnag, yn gwrthwynebu haerllugrwydd y Catholigion a'r Anglicaniaid. Y mae'n croesawu'r Pwyllgor Ymgynghorol. Siomedig yw'r adran sy'n ymwneud ag addysg oedolion. Mae'n gwrthwynebu cael addoliad yn rhan orfodol o fywyd ysgolion. Y mae caniatáu i weinidogion ac offeiriaid i fynychu ysgolion er mwyn rhoi gwersi crefyddol yn ffwlbri.

J. Walter Jones, Llangatwg, Castell-nedd,

Apêl dros ei fab-yng-nghyfraith, D. Gwilym James, am gymorth i sicrhau iddo swydd darlithydd cynorthwyol yn Adran Saesneg Coleg Caerdydd. Ceir crynodeb o'i hanes a'i gyraeddiadau a gwybodaeth am lyfr Scepticism and Poetry a gyhoeddwyd ganddo ychydig fisoedd ynghynt. Gofyn i W. J. Gruffydd gefnogi'r cais os bydd modd. Beth sydd i'w wneud yn achos Saunders Lewis?.

P. Mansell Jones, Caergrawnt,

Diolch am gyngor a geirda W. J. Gruffydd drosto wrth geisio am swydd ym Mangor. Bu'n ymweld â [Saunders Lewis] yng ngharchar Wormwood Scrubs. Nid triniaeth lawfeddygol a gafodd ond pigiad at ei aflwydd. Wedi gofal a bwyd arbennig yn yr ysbyty gallodd ddychwelyd i amgylchiadau normal y carchar. Y mae Saunders Lewis a'r lleill yn gobeithio y rhoddir pardwn iddynt gan y Brenin pan fydd yn ymweld â Chymru. Mae P. Mansell Jones ac Saunders Lewis wedi trefnu cyfarfod ym Mharis ym mis Medi. Hydera nad yw'r Rhyfel Cartref yn Sbaen wedi effeithio ar hoff leoedd W. J. Gruffydd tua'r de.

R. E. Jones, Llanberis,

Llongyfarch W. J. Gruffydd am ei ysgrifau yn Y Brython a'r Genedl. Fe ddywed galon y gwir am lywodraethwyr addysg a llenyddiaeth yng Nghymru. Nid yw graddau'r Colegau yn sicrwydd diwylliant. Mae'n pwyso ar W. J. Gruffydd i ddal ati i amddiffyn y gwerthoedd y cafodd ei fagu arnynt.

Roy Jones, Hen Golwyn,

Wedi clywed W. J. Gruffydd yn darlledu y prynhawn cynt ac yn feirniadol iawn ohono a'i safbwynt cenedlaethol. Sut hoffai W. J. Gruffydd fyw o dan ormes y Naziaid?.

[T.] Gwynn [Jones], Bow Street,

Mae'n dda ganddo fod W. J. Gruffydd yn barnu bod llyfr Atkins yn un da. Byddai'n well ganddo ped ysgrifennai W. J. Gruffydd yr adolygiad ond y mae'n addo gwneud rywbryd cyn diwedd Tachwedd. Diolch bod W. J. Gruffydd yn bwriadu tynnu sylw at Y Gainc Olaf. Ni all yr actorion wneud cyfiawnder â hi. Y mae T. Gwynn Jones yn mynd yn hen a bydd yn rhaid iddo droi at rywbeth sy'n talu'n well nag ysgrifennu Cymraeg er mwyn talu'r ffordd. Disgwyl gweld W. J. Gruffydd yn Llundain ym mis Tachwedd.

T. Parry-jones, Bodorgan,

Anfon cerdd ar gyfer Y Llenor. Clywodd mai haws ennill y ddau lawryf cenedlaethol na chael Golygydd Y Llenor i dderbyn cerdd i brif chwarterolyn Cymru.

Results 901 to 920 of 982