Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

Westminster Bank LTD., (Rheolwr), Abertawe,

Agorwyd cyfrif yn 1927 yn enw'r 'Welsh Drama League'. Mae yna gredyd o £24-7-3 yn y cyfrif erbyn hyn. Deallir nad yw'r corff yn dal i weithredu. W. J. Gruffydd oedd y Cadeirydd. Nid yw cyfeiriad yr Ysgrifennydd ganddynt ac y mae'r Trysorydd wedi marw. Hoffent wybod beth i wneud â'r cyfrif.

[Wynn P. Wheldon], Llundain S.W.1,

Mae'n ceisio ymryddhau o fod yn Llywydd Cronfa Goffa Morgan Llwyd. Hydera y bydd Syr T. Carey Evans wedi derbyn y gwaith hwnnw cyn bo hir. Cafodd ohebiaeth fywiog gyda J. W. Jones ac y mae'n cynnwys copi o lythyr a ysgrifennodd at Carey Evans. Mae ei fwriadau yn dda ond nid yw yn deall yr hyn sy'n ymhlyg yn y math hwn o beth. Mae ef a J. W. Jones yn teimlo'n flin at Bob Owen am awgrymu rhoi'r ffenestr yn y 'capel Sentars yn y Llan'. Mac ef, Wynn P. Wheldon, yn tueddu cytuno â Bob Owen. Maent i gyd yn rhy ddiamynedd yngl?n â beirniadaeth ac yn methu sylweddoli mai ychydig iawn o arian a gesglir i achos fel hwn.

Alun [Llywelyn-williams], Caerdydd,

Mae'r awen wedi ailddeffro ynddo ac mae'n amgau cerdd i'r Llenor. ['Y Glöwr Diwaith', Y Llenor, cyf. XVI (1937), t. 200]. Mae rhai o fewn y BBC ac oddi allan i'r gorfforaeth yn bwriadu cyfarfod yn ystod y gaeaf i drafod pynciau o ddiddordeb mewn celfyddyd. Byddent yn hoffi cael cwmni W. J. Gruffydd. Dweud cymaint o bleser a gafodd wrth ddarllen cofiant O. M. Edwards. Cyfrol wirioneddol wych. Nodi un broblem yn y gerdd i'r Llenor. A oes angen defnyddio'r fannod o flaen 'Rhondda Fach'. Arferai feddwl fod defnyddio'r fannod o flaen enwau afonydd neu gwm, os defnyddid enw'r afon yn lle'r cwm, yn anghywir. Gwelodd T. J. Morgan yn y Llenor diwethaf yn ysgrifennu 'y Rhondda'. Mae'n hyfryd gweld adwaith R. Williams Parry at y digwyddiadau diweddaraf yng Nghymru. Byddai hynny'n rhywbeth o werth amhrisiadwy hyd yn oed os na ddaw dim lles arall o'r helynt.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd fe'i cafodd ef yn nhy Wil Ifan ym Mhen-y-bont [ar Ogwr]. Mae'n gweld yr anhawster o ysgrifennu llythyr i'r Wasg ar ran Saunders [Lewis] ac yntau. Byddai absenoldeb enwau gwyr amlwg yn adrannau Cymraeg y Brifysgol yn tynnu cryn dipyn oddi wrth rym y neges. Synnodd weld enw Dr Parry-Williams ymhlith y gwyr gochelgar - nid cachgi mohono ef. Mae mor gadarn â neb yng Nghymru dros yr hyn y cred ynddo. Y mae hefyd yn aelod o'r Blaid. Clywodd Cassie Davies yn dweud ei fod yn gwbl gefnogol i losgi'r Ysgol Fomio. Ond ni chafodd D. J. Williams air ganddo ar y mater er hynny. Bu'n gyfaill gwerthfawr bob amser. Mae Mr Tim Lewis o'u plaid hefyd er na chafodd air ganddo yntau. Yn yr Old Bailey y dydd o'r blaen yr oedd y cyfan wedi ei drefnu gan y tri barnwr ymlaen llaw. Gwnaeth Norman Birkett araith wych drostynt yn erbyn symud lle'r prawf. Ond hynny a benderfynwyd. Bwriad D. J. Williams yw peidio â dadlau ei achos a thrwy hynny wrthod cydnabod hawl rheithwyr estron i eistedd mewn barn arno. Am y cwrcyn y mae croeso i W. J. Gruffydd gadw'r stori ar gyfer rhifyn y Pasg o'r Llenor, os na fydd ei sawr yn rhy gryf!.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Mae'n amgau cân oddi wrth George M. Ll. Davies, cân sy'n gwbl nodweddiadol ohono. ['Heddwch', Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 172-3]. Mae'n methu â chytuno â rhai o sylwadau diweddar W. J. Gruffydd yngl?n â'r rhyfel. Mae hefyd yn methu cytuno â Saunders [Lewis] weithiau er cymaint ei edmygedd ohono. Dim ond gwahaniaeth graddau sydd yna rhwng totalitariaeth Hitler a thotalitariaeth Seisnig. Os oes rhaid i D. J. Williams ufuddhau i Churchill a'i debyg, yna y mae popeth y credodd ynddo erioed ac y ceisiodd fod yn ffyddlon iddo wedi bod yn gyfeiliornus. Mae'n eironig fod W. J. Gruffydd yn gofyn gan Gymru gyflwyno ei holl ynni i gynorthwyo Prydain i gyflawni ei gwyrth. Mae gwraig D. J. Williams wedi ailgopïo cerdd George M. Ll. Davies gan fod yr ysgrifen yn anodd a'r papur yn wael yn y gwreiddiol.

[W. J. Gruffydd at D. Llewelyn Williams],

Roedd y llythyr yngl?n â'i freuddwyd yn ddiddorol iawn. Nid yw'r freuddwyd, fodd bynnag, yn debyg o gael ei gwireddu. Trafferth Anghydffurfwyr yw eu bod yn anghydffurfiol yngl?n ag Eglwys Loegr a'r Deyrnas, ond yn cydymffurfio'n ormodol â chonfensiynau pietistig yr oes. Mae rhai fel W. J. Gruffydd na fedr honni bod yn dduwiol yn darganfod ei bod yn amhosibl iddynt gymryd rhan yn eu gweithgareddau crefyddol er eu bod yn cydymdeimlo hwy. Mae arweinyddiaeth y cylchoedd Anghydffurfiol yng Nghymru yn tueddu cael ei gyfyngu i ddwylo gweinidogion a diaconiaid, yn annheg iawn i Eglwys Rufain, Eglwys Loegr a'r Huguenots. Mae W. J. Gruffydd am drafod y pwyntiau hyn yn gyhoeddus rhyw ddiwrnod. Anghyflawn. Copi teipysgrif.

Ifor [Williams], Porthaethwy,

Diolch i W. J. Gruffydd am adolygiad ar ei gyfrol Pedair Keinc y Mabinogi. Ymesgusodi dros beidio â chynnwys cyfeiriad at esboniad W. J. Gruffydd yngl?n â'r Mabinogi fel helaethiad o fabinogi Pryderi. Brys wrth lunio'r rhagymadrodd a oedd yn gyfrifol am hynny, nid bwriad i anwybyddu'r syniad. Lluniai'r rhagymadrodd fesul paragraff mewn ychydig oriau. Ysgrifennodd druth ar T[imothy] Lewis i'r Cymmrodor. Mae'n hyderu gweld W. J. Gruffydd yn Amwythig. Cael ei lusgo oddi wrth y Gododdin at y Pedair Cainc a wnaeth. Ni fu'r Pedair Cainc erioed yn faes ymchwil iddo a chyda chwerwder ysbryd yr aeth ati i lunio'r llyfryn.

Ifor [Williams], Pontllyfni,

Diolch am delegram W. J. Gruffydd yn ei longyfarch [ar ei wneud yn farchog]. Ni wyddai ddim am y peth hyd nes y bu iddo dderbyn y gair swyddogol - yr oedd yn 'syfrdanedig'. Ychydig a ysgrifennodd yn Saesneg ac mewn lludded a llesgedd y llafuriodd ar Aneirin. Mae'n troi at Daliesin yn awr, ond yn bur ddi-ffrwt.

'Jerry' [Jeremiah Williams], Caernarfon,

Ei annog i ysgrifennu at De Valera i geisio ei berswadio i ymuno â'r rhyfel. Byddai'n wych o beth petai W. J. Gruffydd yn medru ei gael i weld rheswm a gweithio tros ddiogelwch Iwerddon a Chymru. Mae'n fwy tebygol o wrando ar genedlaetholwr amlwg fel W. J. Gruffydd nag ar unrhyw aelod o'r Cabinet Seisnig. Os bydd iddo barhau i bledio niwtraliaeth yna dylai'r Llywodraeth anfon lluoedd amddiffyn i Iwerddon, er y gallai hynny olygu ymladdfa i'r Ira. 'Does dim amser i'w golli. Mae'r perygl wrth law'. Hydera y bydd i W. J. Gruffydd ysgrifennu at De Valera yn ddiymdroi.

M. E. Williams, Llundain, W.2,

Mae'n teimlo mor ddigalon fel ei bod am ysgrifennu at un o gyfeillion ei diweddar wr, Llew. Diolch i W. J. Gruffydd am ei eiriau caredig yn ei lythyr ati. Roedd gan ei gwr feddwl uchel iawn o W. J. Gruffydd. Yr oedd yn trysori'r Llenor. Yr oedd caredigrwydd Llew tuag ati bob amser yn ei gwneud hi'n llawer anoddach iddi fod hebddo. Mae'n casâu meddwl am fynd ymlaen hebddo. Mae'n anfon copi o Herald Môn. Soniodd am W. J. Gruffydd yn yr ysbyty fel ffrind mawr. Bu farw Llew yn ogoneddus, yn llawn ffydd, gobaith a llawenydd.

Stephen [J.] Williams, Abertawe,

Diolch i W. J. Gruffydd am roi mynegiant mor groyw a dewr i'r unig farn sydd yn werth ei mynegi yn y Gymru gyfoes. Gwelodd y W[estern] M[ail] y golau coch. Crybwyll cyfarfod o Gyngor Coleg Abertawe. Un oedd y mwyafrif dros ddiswyddo S[aunders] L[ewis], a hwnnw wedi ei ddychryn gan y bygythiad yr atelid cyfraniadau'r cyfalafwyr i'r coleg oni ddiswyddid Saunders Lewis. Fe rwystrwyd o leiaf ddau o gefnogwyr Saunders Lewis rhag bod yn y cyfarfod. Mae'n ddigon hawdd i gyfarfod arall ddileu'r penderfyniad a wnaed. Petai arholydd allanol y Brifysgol mewn Cymraeg yn gwrthod arholi fel protest hwyrach y byddai'n amhosibl i'r Brifysgol gael neb yn ei le. Byddai'n rhaid i Abertawe wedyn ailystyried y diswyddo. Byddai'r holl faich yn disgyn ar J. Ll[oyd] J[ones] a hwyrach y ceid y darlithydd o Lerpwl i gymryd ei le. Gallai arholwyr mewnol y Brifysgol wrthod gweithredu ond anodd fyddai cael pawb i gydsynio. Hoffai gael barn W. J. Gruffydd a G[riffith] J[ohn] W[illiams] ar y mater. Dylid anfon yr ateb i'w gartref.

[W.] Nantlais [Williams], Rhydaman,

Diolch am groeso mor garedig i aelwyd anrhydeddus Y Llenor. ['Ar y Ffordd i Dal-y-llychau', Y Llenor cyf. XIX (1940), t. 68]. Cafodd ias a lawenydd hefyd pan ddarllenodd nodiadau eirias, gwrol a gonest W. J. Gruffydd. Nid oes agwedd arall yn bosibl heddiw. Mwynhaodd 'Bethesda'r Fro' gan W. J. Gruffydd hefyd yn yr un rhifyn [tt. 72-7].

[W.] Nantlais [Williams], Rhydaman,

Mae'n anfon cyfrol o gerddi i blant - 'ychydig o felysion ar adeg prinder melysion!' Efallai y bydd y gyfrol yn gymorth i gadw'r Gymraeg yn fyw. Bechgyn Talfan sy'n gyfrifol am ei chyhoeddi. Teimlodd chwant anfon copi i W. J. Gruffydd yn rhodd fel un sy'n caru Cymru. [Darlun a Chân].

'Cymro' gwaed Coch cyfan!,

Mae'n iawn i gredu nad oes gan Archesgob Cymru [Alfred George Edwards] unrhyw gydymdeimlad â'r iaith Gymraeg. Penododd Ll. Wynne Jones, Cymro di-Gymraeg yn archddiacon ac yn Ddeon Llanelwy a chafwyd protestio mawr. A phan ymddiswyddodd y Deon yn ddiweddar fe benododd Sais yn ei le. Penododd offeiriaid Saesneg yn y Rhyl, Bae Colwyn, etc. Mae hyn i gyd yn dangos ei fod yn anwybyddu'r iaith yn llwyr. Mae hefyd wedi penodi ei fab yn Ganghellor yr Esgobaeth ac yn Gofrestrydd y Llys Prawf, er i hwnnw fethu fel bargyfreithiwr. Rhestrir nifer o enghreifftiau eraill o ffafrio perthnasau. Nid oedd un o'i blant yn medru'r Gymraeg. Mae hyn i gyd yn profi ei fod yn haeddu'r feirniadaeth a fu arno yn Y Llenor.

'Another Celt', Somewhere in Scotland,

Hoffai petai W. J. Gruffydd a Syr Arnold Gridley yn gwrthwynebu'r Bil Hydro-Electric Albanaidd. Nid yw'r Sais cyffredin yn malio am Ucheldiroedd yr Alban. Mae dros bedair miliwn o aceri ar gyfer ceirw ac adar i'w saethu - cymaint â maint deg o siroedd yr Alban ar gyfartaledd. Mae yna filoedd o bobl heb dir a hoffai weithio mewn amaethyddiaeth. Ni ellir cael digon o dir i bori un buwch arno i gyflenwi digon o laeth. Caiff y plant y darfodedigaeth a'r tir o'u cwmpas yn pydru dan y ceirw. Mae'r Torïaid yn rheoli yn yr Ucheldiroedd. Cyfeiriad at ddeddf 1911 'The Scottish Small Landholders Act' a'r gwaith da a wnaethpwyd ar y cychwyn i greu tiroedd a thyddynnod allan o'r fforestydd ceirw. Dylid gofyn i Ysgrifennydd Gwladol yr Alban paham nad yw'r gwaith hwn yn parhau. Paham na fedrid defnyddio'r 30 miliwn o bunnau i greu cartrefi a thiroedd i'r milwyr sy'n dychwelyd o'r rhyfel. Ni all roi ei enw a'i gyfeiriad oherwydd ei fod yn dal swydd arbennig.

Albwm yn cynnwys cant o gardiau post, 1903-31, a ffotograffau teuluol, tua deugain o'r cardiau wedi eu hanfon gan W ...,

Albwm yn cynnwys cant o gardiau post, 1903-31, a ffotograffau teuluol, tua deugain o'r cardiau wedi eu hanfon gan W. J. Gruffydd at aelodau o'i deulu ym Methel, ger Caernarfon, tra'r gweddill wedi eu hanfon at W. J. Gruffydd, gan gynnwys rhai yn llaw R. W[illiams] P[arry], Rhys J. Huws, [T.] Gwynn [Jones], [R.] Silyn [Roberts] a [J.] Dyfnallt [Owen].

Results 301 to 320 of 982