Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

Barddoniaeth amrywiol: 'The Odyssey of Man' gan Granville F. Bilbrough, Birmingham, ynghyd â llythyr, 7 Awst [19]52; cyfieithiadau o farddoniaeth ...,

Barddoniaeth amrywiol: 'The Odyssey of Man' gan Granville F. Bilbrough, Birmingham, ynghyd â llythyr, 7 Awst [19]52; cyfieithiadau o farddoniaeth a llythyr 28 Tachwedd [19]31 gan J. Ceinionydd Roberts, Manceinion; Englynion Coffa - 'Fy Nhad' o waith G. Prys Jones, Caergybi; 'Y Gwys Unig' gan W. R. Jones, Wrecsam; 'Yno' gan W. Francis Hughes, Beddgelert; 'Y Cwm Unig' gan J. M. Edwards; 'Y Wyddfa' gan Alun Lewis, Waenfawr; 'Y Tir Pell' gan J. M. Edwards; 'Anobaith' gan T. G. Jones, Rhydaman; 'Chwilota' gan E. P. Jones, Tumble; 'Hiraeth' gan W. Hughes, Cpc Aberystwyth; 'Cwm Silyn' gan Mathonwy Hughes; 'Rhinwedd' cyfieithiad gan T. I. Phillips, Aberystwyth; ac ysgrif 'Y Bws Bore' gan W. R. Owen, Caerdydd, Chwefror 1931.

Deunydd amrywiol: tystysgrif yn rhyddhau W. J. Gruffydd o'r Llynges, 1 Ionawr 1919; derbynebau, Mai 1929, gan Goleg yr Iesu ...,

Deunydd amrywiol: tystysgrif yn rhyddhau W. J. Gruffydd o'r Llynges, 1 Ionawr 1919; derbynebau, Mai 1929, gan Goleg yr Iesu a Phrifysgol Rhydychen; bwydlen cinio Clwb Rhyddfrydwyr Prifysgol Rhydychen, 31 Ionawr 1944, lle bu W. J. Gruffydd yn wr gwadd; torion papur newydd; tystebau gan yr Athrawon W. Lewis Jones, T. Hudson Williams a John Morris-Jones, Coleg y Gogledd, Bangor, ac E. Madoc Jones, prifathro Ysgol Ramadeg, Biwmares, 1904, yn cefnogi W. J. Gruffydd ar gyfer swydd prifathro Ysgol Sir y Drenewydd; erthygl ar Thomas Dekker; ysgrif deipysgrif '?The Late Sir Henry Jones and the University College of Wales, Aberystwyth' wedi ei chodi o'r Dragon, cyf. XLV (1922-3), tt. 178-80; a rhestr o feirdd ardal Dinorwig a Brynrefail yn rhestru eu nodweddion fel beirdd; nodiadau dosbarth gan G. W. Hughes, Blaenau Ffestiniog, o ddosbarth WEA 1937, &c.

R. I. Aaron, Cpc Aberystwyth,

Bu 'Gwenallt' ac R. I. Aaron yn edrych ar lawysgrifau 'Islwyn' yn y Llyfrgell. Mae'r rhai a oedd gydag O. M. [Edwards] wrth olygu'r Gweithiau yno i gyd yn ogystal â rhai eraill. Mae dwy 'Storm' wahanol, 1854 ac 1856, a'r ddwy gân yn hollol wahanol. Ymddengys na orffennodd 'Islwyn' 'Y Storm' o gwbl. Mewn gair y mae tair cerdd - 'Storm '54', 'Storm '56' a 'Storm O.M.'. Dymuno pob hwyl i W. J. Gruffydd yn yr etholiad. Nid oes ganddo lawer o ffydd yn Saunders [Lewis] a Jack Daniel fel gwleidyddwyr.

John Ballinger, Aberystwyth,

Trafodir apwyntiad [Prifathro newydd] yng Ngholeg Caerdydd. Awgryma ei fod yn bwriadu trafod y mater gydag aelodau yr is-bwyllgor dewis. Y mae'n hoffi yr argraffiad newydd o Perl mewn Adfyd. Yr oedd wedi bwriadu mynd i gyfarfod Llys Coleg Caerdydd drannoeth, ond ni all.

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Diolch am erthygl a ddychwelwyd. W. Ambrose Bebb yn cynnig anfon erthygl ar y Diwygiad Protestannaidd. Mae'n amau mai go sych oedd ei erthygl 'Ystyr Maes Bosworth' [Y Llenor, cyf XIX (1940), tt. 78-90.] Sylwadau W. Ambrose Bebb ar adolygiad R. T [Jenkins] ar ei lyfr [Cyfnod y Tuduriaid] yn [Y Llenor, Cyf. XIX (1940), tt. 102-6]. Y mae wedi derbyn nifer o lythyrau diddorol gan berthnasau iddo yn America at eu teuluoedd yng Nghymru. Cynnig eu dangos i W. J. Gruffydd os byth y daw heibio. Gofyn a dderbyniodd Dyddlyfr Pythefnos i'w adolygu.

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Mynegi ei siom o dderbyn yr ysgrif ar ei dad yn ôl. Mae'n barod i wella a chwtogi rhywfaint arni. Yn achos yr Etholiad, hoffai W. Ambrose Bebb weld cefnogwyr W. J. Gruffydd yn ymatal rhag gyrru pawb i 'ymlafnio mewn budreddi'. Buasai'n well ganddo weld W. J. Gruffydd a Saunders [Lewis] yn gytun yn hytrach na gweld dau Gymro da yn ymgeisio yn erbyn ei gilydd. Cyhudda W. J. Gruffydd o gael ei ddefnyddio gan y 'myrdd gorachod di-enaid sydd yng Nghymru' er mwyn rhwystro Saunders [Lewis] i ennill y sedd. Ysgrifennodd at Saunders Lewis i ofyn iddo dynnu'n ôl ond yn ofer. Y mae'n rhy hwyr iddo ofyn i W. J. Gruffydd dynnu'n ôl, ond nid yw'n rhy hwyr i gyhoeddi na fynn weld yr etholiad yn cael ei ddefnyddio i bardduo neb. Y mae'n edrych ymlaen i glywed W. J. Gruffydd yn siarad pan ddaw i Fangor.

R. G. Berry, Gwaelod-y-garth,

Wrth ddiolch yn y cyfarfod diolchgarwch bu R. G. Berry yn diolch yn ddistaw bach fod W. J. Gruffydd yn fyw ac iach. Y mae'n dyfynnu barddoniaeth W. J. Gruffydd yn aml gan mai ef 'yw'r mwyaf o ddigon o'r holl frîd'.

Euros Bowen, Llangywair,

Nid yw Euros Bowen yn gosod pryddest 'Efnisien' gyda'r lleill. Fel y dywedodd, y mae'n fodlon iddo gael y Goron a phan aiff ati i lunio beirniadaeth y mae'n bwriadu dweud hynny.

[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,

Mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth. Nid yw wedi derbyn copi o dystiolaeth W. N. Bruce eto. Gobeithia nad yw yn gwrthddweud W. N. Bruce yn ei dystiolaeth. Copi teipysgrif.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Mae cyfiawnhad dros i W. J. Gruffydd ymgeisio am swydd Prifathro Coleg [Caerdydd]. Pe na bai W. N. Bruce ar y pwyllgor [dewis] byddai yn falch iawn o ysgrifennu tystlythyr iddo. Gan ei fod ar y pwyllgor y mae'n gorfod bodloni ar addo rhoi ystyriaeth deg i'r cais. Byddai wedi synnu ac yn siomedig pe na roddid enw W. J. Gruffydd ymlaen ar gyfer y swydd. Nid yw yn gwybod eto pa enwau eraill y byddant yn eu hystyried.

A. C. Cameron, Llundain,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ddarllediad a wnaethai'r bore hwnnw. Llwyddodd i gyfleu'r ddadl yngl?n ag ymwybyddiaeth genedlaethol Gymreig yn dda. Canmola W. J. Gruffydd am ymosod ar y myth sy'n bodoli yngl?n â'r Celtic twilight. Rhyfedda at y ffaith fod mwyafrif arweinwyr y Gwyddelod o dras Seisnig fel Yeats a Parnell. Mae llawer o'r bai ar Syr Walter Scott yn yr Alban am barhau'r myth. Bu'n aros yng Nghymru am ddeuddydd ar ei ffordd yn ôl o Iwerddon. Gwelodd ysgol yn sir Gaerfyrddin lle roedd plant o Lundain yn dysgu Cymraeg a'r Cymry yn cael gwersi Saesneg gan athrawon yr L.C.C.

J. E. Daniel, Bangor,

Holi os oes modd codi mater diswyddiad Saunders Lewis yn Llys Coleg Abertawe. Mae J. E. Daniel wedi anfon at bob cynghorydd sir yngl?n â mater grant y Brifysgol. Arian yw'r unig ddadl y mae Cyngor [Coleg] Abertawe yn ei deall. Ymddiheuro am anfon llythyrau allan yn dwyn enw W. J. Gruffydd heb iddo ei weld.

Alice Huws Davies, Kew Gardens, Surrey,

Gofyn i W. J. Gruffydd ysgrifennu rhywbeth arall am ei gwr [Thomas Huws Davies] yn y Western Mail. Mae'n awgrymu iddo ddioddef cam yn ei waith gyda'r Eglwys yng Nghymru. Byddai wedi bod yn ddarlithydd Prifysgol da gan ei fod yn gallu ysbrydoli pobl ifanc. Mae'n gofyn iddo sôn rhywfaint am ei ddoniau fel ysgrifennwr. Yr oedd ysgolheigion wedi ei wneud yn ofnus o ysgrifennu yn Gymraeg. Y mae Alice Huws Davies wedi llafurio drwy'r blynyddoedd gydag ymdeimlad o rwystredigaeth. Yr oedd y Rhyfel yn hunllef iddo ac y mae hi'n falch ei fod wedi dianc rhagddo.

Percy E. Watkins, Llundain, S.W.1,

Derbyniodd lythyr W. J. Gruffydd yngl?n ag ysgol Llanuwchllyn [rhif 810 uchod] a bydd yn ysgrifennu eto mewn ychydig ddyddiau gyda chanlyniad ei ymholiadau. Mae'n cofio am apwyntiad Owen Owen fel Prif Arolygydd y Bwrdd Canol Cymreig yn dda. Mae ganddo hefyd beth deunydd dogfennol sy'n taflu golau ar y digwyddiad.

Western Mail (J. A. Sandbrook), Caerdydd,

Diolch i W. J. Gruffydd am ei erthygl ar Lenyddiaeth Cymru yn ystod teyrnasiad Siôr V. Ni chafodd gyfle i'w darllen eto ond mae'n sicr o fod yn wych a digonol. O.N. Newydd ddarllen yr erthygl. Y mae'n feistraidd. Hoffai petai W. J. Gruffydd yn ysgrifennu'n amlach i'r papur.

Results 281 to 300 of 982