Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

G. H. Harvard, Caerdydd,

Diolch i W. J. Gruffydd am gofiant O. M. Edwards. Gresyn na chai ysgrifennu'r cofiant i gyd. Mae'n bwriadu llunio erthygl ar y cofiant i'r Goleuad. Cerdyn post.

G. H. Peate, Llanbryn-mair,

Mae wedi darllen cofiant O. M. Edwards a gafodd yn anrheg gan Iorwerth [Peate, ei fab]. Yr oedd yn fendigedig. Y mae'n rhagori ar bob cofiant a ddarllennodd erioed. Y mae'r Llenor hefyd yn odidog. Cerdyn post.

G. J. Williams, Gwaelod-y-garth,

Methodd â chael hen enghraifft o'r ffurf 'Llantorfaen'. Y mae'n rhestru enghreifftiau cynnar o ffurf Llantarnam gan nodi ei ffynonellau. Bu trwy gywyddau'r beirdd, ond Y Fynachlog a geir ganddynt hwy. 'Llanfihangel y Fynachlog' oedd yr enw a glywid gan hen Gymry'r cylch, ceir sôn hefyd am y ffurf 'Llanfihangel Ton-y-groes'. Y mae wedi holi yngl?n ag enw'r afon. Mae'n addo anfon gair eto. Da ganddo glywed bod W. J. Gruffydd yn dychwelyd i Gymru. Caiff ei weld mewn cyfarfod o Fwrdd y Wasg cyn hynny.

G. W. Whittington, Abertawe,

Ymddiheuro am gamarwain W. J. Gruffydd wrth ddweud bod 'Alun' wedi bod yn ficer Glyncorrwg. Cafodd ei gamarwain i ddweud hynny. Mae'r dirgelwch yn dal felly sut y bu i Alun ysgrifennu cân hela am ardal Glyncorrwg a'i gwneud mor debyg i gân hela arall a oedd yn adnabyddus i helwyr ardal Llantrisant a'r Rhondda. Tybed mai ar gyfer cystadleuaeth y bu hyn?.

G. W. Whittington, Gwauncaegurwen,

Ysgrifennu at W. J. Gruffydd i ddiolch iddo am bopeth a wna dros Gymru. Ceisiodd yntau fod yn ffyddlon i Gymru drwy ei oes, ond gwr yr un dalent ydoedd. Mae'n anfon cyfraniad bach at W. J. Gruffydd i'w roi at unrhyw achos teilwng ar wahân i'r Blaid Genedlaethol. Mae eisoes wedi cyfrannu at y Blaid gyda'r un post. Awgrymu y gellid cynorthwyo un o'r myfyrwyr i brynu llyfrau, neu roi gwobr i'r myfyriwr Cymraeg gorau ar ddiwedd y tymor. Nid yw am wybod sut y gwerir yr arian ac nid oes angen cydnabod ei lythyr ychwaith gan fod W. J. Gruffydd mor brysur.

G. W. Whittington, Porthcawl,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd. Mae angen codi calon mewn cyfnod sydd mor ofnadwy o ddigalon. Sylwodd nad yw ysgrifennydd Cymdeithas y Cambrians yn fodlon hyrwyddo unrhyw lyfr o waith W. J. Gruffydd. Druan ohono. Pan fydd ei enw ef yn angof bydd pawb yn cofio am O. M. Edwards a W. J. Gruffydd. Mae'n atgoffa W. J. Gruffydd iddo ddweud 'fod rhai pobl yn rhoi mwy o bwys ar benglog Cymro marw nag ar enaid Cymro byw'. Mae'n bwriadu mynd i Abertawe i brynu copi o gofiant O. M. Edwards pan fydd yn gweld y Basgiaid bach. Bu'n byw yn Bilbao ar un adeg ac y mae'n medru'r iaith. Nid yw'r Western Mail am weld rhwystro cylchrediad y llyfr neu ni fuasent yn cyhoeddi adolygiad. Bu ymosodiadau'r papur ar W. J. Gruffydd yn farbaraidd er hynny.

G. W. Whittington, Porthcawl,

Mae'n gweld o'r Western Mail fod W. J. Gruffydd yn amddiffyn Ceiriog. Nid yw'n deall pam y ceisir dilorni'r bardd. Pan oedd tua phymtheg oed clywodd rywun yn canu cerdd o waith Ceiriog mewn tafarn yn Nhonypandy, sef 'Breuddwyd y Bardd'. O'r dydd hwnnw ymlaen dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth a chred y gall adrodd mwy o farddoniaeth oddi ar ei gof na neb arall yng Nghymru. Gadawodd Gwm-gors oherwydd salwch nerfol. Bu yn Ysbyty Nerfol Muswell Hill yn Llundain a deuai llinell o waith W. J. Gruffydd yn aml i'w gof yno: 'Estynnodd law a rhoddodd iddi hun'. Diolch i W. J. Gruffydd am ei apêl ar ran Cronfa'r Tri Gwron. Bu'n darllen gwaith Caspar Nuñez yn ddiweddar a gwelodd debygrwydd rhwng ei Miserere a'r stori fer 'Dygwyl y Meirw'. Diolch eto i W. J. Gruffydd am ei waith dros Gymru.

G. W. Whittington, Porthcawl,

Awgrymu bod W. J. Gruffydd yn anfon copi wedi ei lofnodi o gofiant O. M. Edwards i dloty Dolgellau a chopi o Hen Atgofion i dloty Caernarfon. Mae'n amgau 11 swllt at y gost. Rhoi peth o hanes George Rees yr emynydd. Gwelodd ef gyntaf yn 1884. George Rees Heycock oedd ei enw. Cafodd ei dad a brawd iddo eu lladd yn nhanchwa Penygraig, 27 Ionawr 1884. Aeth George Rees i weithio yn y lofa a dechreuodd farddoni. Cymerodd ddiddordeb yn enwogion Cymru a bu'n ymweld â bedd 'Iolo Morganwg'. Ymwelodd â chartrefi beirdd y Gogledd. Priododd ferch o Ffestiniog. Aeth i weithio i Aberteleri ac ymlaen i Lundain ar ddechrau'r dirwasgiad gan ollwng yr 'Heycock'. Cafodd ei fagu yn hen draddodiad llenyddol Morgannwg.

George Davies, Treorci,

Sôn am gyfarfod ar 25 Mai pryd y disgwylir tri chant a rhagor o gynrychiolwyr i glywed adroddiad o gyfarfod yn Siambr yr Awdurdod Lleol pan gyflwynwyd deiseb i'r Cyngor yn erfyn arnynt ystyried cyflwr difrifol y Gymraeg yn eu hysgolion. Gwahodd W. J. Gruffydd yno i annerch. Mae angen arnynt glywed am orffennol godidog yr iaith a thrymed eu cyfrifoldeb i ymffrostio yn eu breintiau a'u tras. Mae angen troi'r ysgolion yn ysgolion dwyieithog. Y Mae'r Blaid yn fwgan haerllug i'r bobl hyn.

Gilbert Norwood, Lake Louise (ar fwrdd y Duchess of Athol),

Pan gyhoeddwyd bod rhyfel yr oedd yn Blois ac yn lle dal yr Empress of Britain yn Cherbourg fe hwyliodd o Lerpwl ar y Duchess of Athol. Ceisiodd swyddog y tollau yn Ffrainc gymryd ei lythyr credyd Canadaidd oddi arno. Disgrifiad o sut yr hebryngwyd y llong allan gan longau rhyfel. Gofyn am fanylion yngl?n â chyfyngiadau amser rhyfel.

Gilbert Norwood, Parc Cenedlaethol Jasper, Canada,

Wedi aros yn Jasper Park Lodge ar ei ffordd yn ôl i Toronto. Mae'n lle eithaf ffurfiol a'r mwyafrif o'r ymwelwyr yn Americaniaid. Mae yno gerddorfa wyth offeryn. Coed yw popeth bron yno, mae hyd yn oed y blwch llythyrau yn dwll ym monyn coeden. Nid oes yna fawr iawn o ddiwylliant yn y gorllewin. Yr oedd yn falch i gyrraedd Victoria er mwyn cael prynu The New Republic a The New Statesman.

Gilbert Norwood, Toronto,

Mae'n ysgrifennu gan ei bod yn rhy boeth i weithio. Mae'n edrych ymlaen i weld W. J. Gruffydd eto. Bydd yn y Barry Hotel erbyn canol Mehefin. Yr oedd yn wrthun ganddo glywed bod Saunders Lewis wedi colli ei swydd. Sôn am lwyddiant P. M. Jones yng Nghaergrawnt. Holi am Llewelyn a Richardson.

Gilbert Norwood, Toronto,

Cafodd bleser mawr o dderbyn llythyr W. J. Gruffydd. Y mae arno gywilydd o fod yn Sais ar ôl yr hyn a wnaeth [Neville] Chamberlain. Y mae'n dechrau teimlo diflastod o gymryd dosbarthiadau. Mae'n dod ymlaen yn dda gyda'r rhagymadrodd i waith Pindar.

Gilbert Norwood, Toronto,

Y mae wedi darllen hanes yr achos yng Nghaernarfon [Yr Ysgol Fomio] ac wedi cael ei ddwysbigo ganddo yn fawr. Mae'n llongyfarch W. J. Gruffydd am ei lythyr yn y Guardian. Mae'n rhagweld y Cymry'n cael eu ffordd yn yr un ffordd ag y cafodd y suffragettes eu ffordd trwy ddifetha meysydd golff.

Gilbert Norwood, Toronto,

Mae'r tymor, yng Nghanada, wedi dod i ben. Mae ar fin priodi eto gyda chyn ddisgybl a fu'n llwyddiannus iawn mewn Clasuron, yn gantores a phianydd clodfawr. Bu'n ystyried y cam yn ddwys oherwydd y gwahaniaeth oed yn fwy na dim. Y maent yn priodi ar 28 Mehefin. Cyfeirio at achos Hess. Nid yw'n credu y byddai Churchill yn gwneud arweinydd da yn ystod y cyfnod wedi'r rhyfel er ei fod yn arweinydd rhyfel tan gamp. Y trethi rhyfel a godir yng Nghanada - mae pawb yn gefnogol i'r ymgyrch ond y Catholigion yn Quebec yn gwrthwynebu gorfodaeth filwrol. Mae'n rhoi hanes yr anerchiad a ysgrifennwyd ganddo ar gyfer ei ddarlledu i Brydain a Gogledd America ar ddydd Sant Siôr. Cafodd ei apwyntio yn athro anrhydeddus yn y Clasuron gan Brifysgol California.

Gilbert Norwood, Toronto,

Cafwyd trefn ar bethau. Bu'r briodas, y mis mêl a'r cyfnod o ymgartrefu ac yn awr fe ddechreuodd y Brifysgol unwaith eto. Ceir ychydig o hanes y briodas a disgrifiad o'r cartref newydd. Nifer y myfyrwyr Clasuron wedi disgyn eto. Ofn gwaith ymenyddol ar bobl Canada, dyna paham y lluniwyd y gwyddorau cymdeithasegol. Bu'n cynrychioli Caerdydd a Chaergrawnt yn nathliadau 50 mlynedd Prifysgol Chicago. Nid yw yn darllen hanes y rhyfel bellach. Ni all neb esbonio goresgyniad Rwsia.

Gilbert Norwood, Toronto,

Sôn am y ty y maent yn byw ynddo. Yr oedd ef yn rhy hen i brynu ty. Disgrifir y seremoni raddio ddeuddydd ynghynt. Mae wedi dechrau paratoi ei ddarlithiau ar Pindar ar gyfer Prifysgol California, i'w traddodi yn gynnar yn 1944. Mae sôn ei fod am dderbyn F.R.S.C. Hanes ymosodiad ar rywbeth a ysgrifennwyd ganddo gan Almaenwr. Gofynnwyd iddo gyfieithu emyn Saesneg i'r Lladin. Mae siwgwr i'w ddogni yng Nghanada. Nid oes gorfodaeth filwrol i fod yno ar gyfer gwasanaeth tramor. Darganfuwyd mai dim ond 63% o boblogaeth y wlad oedd yn gefnogol i'r rhyfel.

Canlyniadau 281 i 300 o 982