Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

E. Tegla Davies, Manceinion,

Gwybodaeth yngl?n â Jane Cross Simpson (1811-86), yr emynyddes. Ysgrifennwyd 'Star of Peace' ganddi yn 1830, cyn geni 'Islwyn'. E. Tegla Davies yn holi pa le y daethpwyd o hyd i gân 'Islwyn'.

Evan Davies (cyfreithiwr), Caerdydd,

Mae Evan Davies wedi ateb llythyr y Parch. [Wynne] Griffith ac wedi derbyn ateb oddi wrth ei gyfreithwyr. Mae'n amgau copi o'r llythyr hwnnw [rhif 206 isod] ac yn gofyn am sylwadau W. J. Gruffydd.

Gwynoro Davies, Abermaw,

Llawenhau o ddarllen yn y Western Mail for Owen Edwards i gael cofiant o'r diwedd. Cafodd Gwynoro Davies lawer o lythyrau ganddo ac y mae nifer go dda wedi eu cadw. Bu'n cydletya ag ef yng Ngholeg Aberystwyth. Ef a fu'r cyfrwng i ddwyn Gwynoro Davies yn fugail i Lanuwchllyn. Mae'n cynnig benthyg y llythyrau i W. J. Gruffydd.

Gwynoro Davies, Abermaw,

Mae'n anfon 28 llythyr a deg cerdyn post at W. J. Gruffydd. Ysgrifennai [O. M. Edwards] mewn Saesneg yn y llythyrau cynnar er mwyn gloywi tipyn ar yr iaith. Ni fedrai O. M. Edwards na Gwynoro Davies fwy nag 'yes' neu 'no' nes eu bod yn ddeuddeg oed. Cerdyn post.

J. D. Powell, Caerfyrddin,

Mae'n ymddiheuro am y dryswch sydd wedi codi yngl?n â'r detholion o lythyrau'r Morrisiaid. Bu'n chwilio drwy'r ty amdanynt ac y mae am holi awdurdodau'r post yn eu cylch.

J. D. Powell, Porthcawl,

Dywedodd Swyddfa'r Post yn derfynol fod y llythyr yn cynnwys detholiad o waith y Morrisiaid wedi ei golli. Nid oes dim amdani ond ailddechrau ar y gwaith. Mae wrthi yn ceisio trefnu Cwrs Rhydychen am eleni. Gwahodd W. J. Gruffydd i roi dwy ddarlith ar lenyddiaeth gyfoes Lloegr yn ystod y cwrs. Mae T .J. Morgan wedi cytuno darlithio ar rai o elfennau barddoniaeth Gymraeg. Y mae J. D. Powell wedi cael ei ddyrchafu'n H.M.I. llawn.

[W. J. Gruffydd] at Caradog Prichard, Caerdydd,

Roedd yn falch o dderbyn ei lythyr gan ei fod mewn cryn bryder ynghylch y modd y buasai'n derbyn y feirniadaeth. Ni chafodd W. J. Gruffydd neb pan oedd yr un oed ag yw Caradog Prichard i wneud yr un gymwynas ag ef. Mae'n hyderus y bydd cân nesaf Caradog Prichard yn well na dim a ysgrifennodd. Awgrymir ei bod hi'n hawdd i rywun benderfynu ennill coron ac 'iselhau ei waith at safon yr Eisteddfod'. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Caleb Rees, Caerdydd,

Cwyno am dlodi iaith hysbyseb Gymraeg a ymddangosodd yn Y Faner. Mae'n amlwg bod rhywun wedi mynd ati i gyfieithu'r hysbyseb gyda geiriadur. Mae'n hyderu y gellir pwysleisio i'r Weinyddiaeth briodol pa mor ddifrifol yw iaith yr hysbyseb. Mae'n gosod esiampl wael ac yn destun doniolwch i weithiwr cyffredin o Gymro Cymraeg. Copi teipysgrif.

I[orwerth] C. P[eate], Caerdydd,

Cafodd gais gan J. W. Jones, Blaenau Ffestiniog, yn gofyn am ddeg copi o ddarlith W. J. Gruffydd ar 'Islwyn'. Dywed mai Alexander Smith yw'r bardd a ddyfynnir ar glawr Caniadau 'Islwyn' a bod mwy o ddylanwad hwnnw na neb arall ar waith 'Islwyn'.

File of articles, in typescript and autographs labelled 'Beirniadaeth Lenyddol'. 28 ff., as follows: ff. 1-6, typescript article on Eben ....

File of articles, in typescript and autographs labelled 'Beirniadaeth Lenyddol'. 28 ff., as follows: ff. 1-6, typescript article on Eben Fardd; ff. 7-11, typescript article on Islwyn; ff. 12-16, typescript article with autograph revisions entitled 'Datblygiad y Delyneg'; ff. 17-20, typescript article entitled 'Y Stori Fer'; f. 21, list of references to and articles on the poets Alun and Ieuan Glan Geirionydd to be found in Y Genhinen, Y Traethodydd, and Cymru; ff. 22-28, autograph article entitled 'Telynegwyr Cynnar y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'.

Results 241 to 260 of 982