Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

Roy Jones, Hen Golwyn,

Wedi clywed W. J. Gruffydd yn darlledu y prynhawn cynt ac yn feirniadol iawn ohono a'i safbwynt cenedlaethol. Sut hoffai W. J. Gruffydd fyw o dan ormes y Naziaid?.

Roger S. Loomis, Prifysgol Columbia,

Cred fod ganddo oleuni i'w daflu ar Preiddiau Annwfn. Trafodwyd peth arnynt yn Celtic Myth ... ond yn awr y mae am drafod y pedwar pennill cyntaf. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd i edrych dros ei gyfieithiad ohonynt i weld os oes gwall ynddo. Mae traethawd Miss Newstead ar ddisgynyddion Arthuraidd Brân ar fin ei gyhoeddi. Mae ef a'i wraig yn bwriadu ymweld â Chaerdydd ar 10 Mehefin.

Roger [S.] Loomis, Paris,

Ei noson olaf yn Ewrop am rai blynyddoedd. Mae blwyddyn brysur yn ei wynebu yn Efrog Newydd. Rhaid cael Halma yn barod ar gyfer y Wasg. Gwasg Clarendon sydd yn debygol o ymgymryd â'r gwaith. Mae'n reit fodlon ar y penodau Cymreig - er fe hoffai petai W. J. Gruffydd yn hytrach nag [Idris] Foster yn ymgymryd â Chulhwch a Breuddwyd Rhonabwy. Hanes Cyngres Rennes. Rhai papurau 'gwyllt' yno, nodir syniadau yr Athro Carney o Ddulyn a'r Athro Draak o Amsterdam. Mae'n bwriadu dod i'r Gyngres nesaf ym Mangor os bydd amgylchiadau yn caniatáu iddo.

Roger [S.] Loomis, Efrog Newydd,

Mae'r campws yn gwacáu oherwydd effeithiau'r Rhyfel. Mae ef a'i wraig ar wyliau ym Maine. Cafodd lwyddiant mawr gyda'i ymchwiliadau i'r Pedair Cainc. Sôn am gyfystyron neu adlewyrchiadau o Brân mewn chwedlau a thraddodiadau eraill. Mae'n mynd ymlaen i drafod stori Pwyll, Arawn a Hafgan. Mae'n cyfeirio at yr elfen o ymrysonau wrth y rhyd sy'n gyffredin i lawer testun Arthuraidd. Mae'n awgrymu mai chwedl dymhorol, un sy'n ymwneud â chylch y flwyddyn sydd yma, Arawn yn cynrychioli'r gaeaf a Hafgan yr haf. Gofyn cwestiynau am Pen Llwyn Diarwya, 'erchlas' a Breuddwyd Rhonabwy.

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Mae'n cynnig gwaith un o'i fyfyrwyr, Miss Helaine Newstead, i sylw'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd gan ofyn iddynt ystyried ei gyhoeddi. Llyfr ydyw ar ddisgynyddion Arthuraidd Brân Fendigaid. Mae'r gwaith cystal ag y medrai ei lunio ei hunan. Y mae yng ngofal ochr ganoloesol yr Adran Saesneg ac wedi cynhyrchu llyfr mawr ar iconau Celtaidd gyda'i wraig. Mae'n cydweithio â'r Adran Ffrangeg i lunio argraffiad o ramantau Chrétien a hydera lunio llyfr ar y Greal ryw ddydd. Mae'n hyderu na fydd olynydd Math yn hir cyn ymddangos.

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Mae'n hyderu bod adeiladau'r Brifysgol a'r Amgueddfa wedi osgoi niwed a bod W. J. Gruffydd a'i wraig wedi llwyddo i ddianc rhag effeithiau gwaetha'r rhyfel. Cynnig anfon bwyd iddynt. Fe amlinellir ganddo sut y mae'r rhyfel yn effeithio ar fywyd yn U.D.A. Mae'n hyderu anfon ei waith ar Preiddiau Annwfn yn Rhagfyr. Holi pa obaith sydd am gael gweld gwaith W. J. Gruffydd ar Culhwch yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Mae ganddo fyfyriwr fyddai'n abl i lunio llyfr ar Culhwch. Ei adwaith i lyfr Miss Newstead erbyn hyn.

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Trafod yr ymryson wrth y rhyd. Sôn am olion amlwg mewn rhamantau Arthuraidd eraill. Ni ellir seilio damcaniaethau ar Breuddwyd Rhonabwy ond tybed na ellir sylwi yno ar fotifau a phatrymau sy'n llawer iawn eglurach mewn lleoedd eraill? Hoffai gael cyfle i drafod pwyntiau o'r fath gyda W. J. Gruffydd. Mae'n sôn am amgylchiadau yn U.D.A. yng nghyd-destun y rhyfel.

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Diolch am ganmoliaeth W. J. Gruffydd ar ei waith. Amddiffyn ei hun am alw chwedl Geraint yn 'mabinogi'. Gofyn os yw Pwyll a Brân yn gyfystyr. Mae'n credu bod yr enw Peredur yn deillio o'r enw Pryderi. Nodi nifer o draddodiadau yngl?n â Brân.

Roger [S.] Loomis, Efrog Newydd,

Y mae'n siomedig na dderbyniodd Math hyd yma na chopi o'r Llenor. Mae'r frwydr ynghylch Celtic Myth and Arthurian Romance wedi dechrau. Cafodd ymateb oddi wrth nifer o brifysgolion Americanaidd. Trafod adolygiadau ar ei waith.

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Llawenhau bod America wedi ymuno yn y rhyfel. Bu diwygiad mawr yn America yn ystod y flwyddyn flaenorol mewn rhyddfrydiaeth tebyg i un canol y ganrif cynt. Mae hyn yn golygu bod gwladgarwch America yn llawer iawn mwy cytbwys nag ydoedd yn 1917. Da ganddo glywed bod gwaith W. J. Gruffydd ar y Pedair Cainc a Culhwch yn mynd ymlaen. Trafod ei erthygl ar Preiddiau Annwfn. Mae'n credu mai yr un un yw Morddwyd tyllon a Brân. Mae'n trafod pwyntiau yngl?n â marwolaeth Brân. Mae Mrs Loomis yn gweithio ar siopau llyfrau Llundain yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Y mae hi'n credu i Chaucer ddarllen llawysgrif Auchinleck sydd yng Nghaeredin ac mai hynny a fu'n ysbrydoliaeth i'w waith Sir Thopas.

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar gael ei ethol yn Aelod Seneddol dros y Brifysgol. Mae'n ofni, fodd bynnag, y bydd hynny yn llesteirio ei waith ar y Mabinogion. Rhestrir eitemau ym mywyd cyfoes yr Unol Daleithiau sy'n profi bod y Chwedl Arthuraidd yn fyw iawn o hyd. Mae'n gobeithio gorffen ei lyfr ar ffynonellau Chrétien yn y gwanwyn.

Robert Williams Talycafn,

Mae'n ysgrifennu iddo fwynhau darllen llyfr W. J. Gruffydd ar gywyddau Goronwy Owen [Cywyddau Goronwy Owen (Casnewydd, 1907)]. Gormod fyddai disgwyl i bawb gytuno ag ef ar bob pen. Dadleuodd W. J. Gruffydd mewn ffordd deg a boneddigaidd. Mae Cymru yn gallu magu rhai sy'n medru esbonio cyfrinion ei llenyddiaeth. Mae'n llawlyfr a all gystadlu â goreuon llawlyfrau y clasuron Lladin a Groeg a gyhoeddir gan weisg y prifysgolion Seisnig.

Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,

Diolch am ymateb i'w gais yn yr Herald yn gofyn am ysgrif ac am yr ysgrif gampus gan W. J. Gruffydd yn y Western Mail. Tila ac annheilwng oedd ysgrifau T. Gwynn Jones a Henry Lewis. Ni ellid casglu oddi wrth eu sylwadau hwy fod neb o bwys wedi marw. Mae'n wir ddrwg ganddo na phenodwyd W. J. Gruffydd yn Brifathro [yng Nghaerdydd]. Gwnaeth sylwadau ar hynny yn Yr Herald. Cydymdeimlo hefyd ag W. J. Gruffydd ar golli ei dad.

Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,

Cododd 'Y Lawlen a Gollais' o'r hen Bapur Pawb am y flwyddyn 1903. Bu'n bwriadu anfon at W. J. Gruffydd yngl?n ag enwau ei ardal enedigol - Aber. Mae dyfaliad John Lloyd Jones yn ei lyfr am ystyr Cytgoed yn dra anghywir. Cwtogiad o 'Cytiau Coed' yw'r enw diweddar hwnnw. Gyferbyn â'r Cytgoed mae Y Ferdroed a gerllaw eto Y Foel Ddiarth. Ar ochr y Foel honno y mae Llwybr Gorllwy. Mae 'Meuryn' yn enw ar le ar fynydd Aber - Meuryn Uchaf a Meuryn Isaf. Awgrymodd Syr John Morris-Jones y gallai mai Mei-fryn sef 'y bryn canol neu ganolig' oedd yr ystyr, a byddai hynny'n ffitio i'r dim. Mae yno gytiau Gwyddelod ac ar dir Hafod Gelyn mae olion hen eglwys. Diolch am y pleser diddiwedd a gaiff o ddarllen nodiadau W. J. Gruffydd yn Y Llenor. Wrth gyfeirio atynt mor aml yn Y Genedl y maent yn cyrraedd dosbarth arall o'r Cymry.

Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,

Derbyniodd gopi o ysgrif W. J. Gruffydd ar 'Y Praw' ac felly cyhoeddir yn Yr Herald a'r Genedl. Sylwodd fod W. J. Gruffydd yn ymddiswyddo o feirniadu ym Machynlleth ynghyd â thri arall. Pwy yw'r tri hyn? Cafodd 'Meuryn' wahoddiad i feirniadu'r awdl ym Machynlleth ac er mai dyma'r tro cyntaf iddo gael gwahoddiad y mae'n barod i ymddiswyddo os bydd hynny'n help i ychwanegu at y brotest. Cafodd bleser anhraethol wrth ailddarllen Hen Atgofion.

Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,

Mae gan Tom Parry 'awydd mawr i ymddiswyddo'. Bwriada 'Meuryn' ysgrifennu at awdurdodau Eisteddfod Machynlleth y diwrnod canlynol i ymddiswyddo o fod yn feirniad fel bod ymddiswyddiadau dau o feirniaid yr awdl yn cyrraedd yr un diwrnod. Ni chaiff 'Meuryn' gyfle arall ond fe gaiff [Tom Parry] ddigon. Gobeithio y bydd mwy eto yn dilyn arweiniad W. J. Gruffydd.

Rich[ar]d Jones, Llandinam,

Diolch am Hen Atgofion, y darlun gorau a chywiraf o'r hen bobl a'r hen bethau a welodd erioed. Hwn fydd y clasur bellach o blith y llyfrau sy'n disgrifio'r cyfnod dan sylw. Bydd yn cael lle parchus yn llyfrgell bersonol Richard Jones rhwng hunangofiant Rutherford ac Old Memories Henry James.

Richard Denham, [Pontrilas],

Diolch am gymorth W. J. Gruffydd hyd yma ond y mae W. J. Gruffydd yn ei ateb wedi awgrymu nad oes ganddo'r amser i ateb ei gwestiynau'n llawn er ei fod ar yr un pryd yn cytuno i fod o gymorth iddo. Mae'n mynd ati i esbonio sut y datblygodd ei ddiddordeb mewn enwau lleoedd a'r ffynonellau y mae wedi eu darllen hyd yn hyn. Mae'n gofyn sut y gall ddatblygu ei wybodaeth am wyddor dehongli enwau lleoedd. Mae'n barod i dreulio pedair awr y dydd yn dysgu'r grefft.

Richard Denham, [Pontrilas],

Gofyn i W. J. Gruffydd esbonio nifer o fân bwyntiau yngl?n ag enwau lleoedd. Gofyn hefyd am iddo awgrymu nifer o weithiau dibynadwy ym maes enwau lleoedd.

Richard Denham, [Pontrilas],

Gofyn cymorth W. J. Gruffydd i esbonio'r ffurfiau 'Pont tref heilas' ac 'Ynysyrwyddfa'. Gofyn os oes perthynas rhwng y ffurfiau 'culan', 'ceulan' a 'goilan'.

Canlyniadau 221 i 240 o 982