Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

T. A[rtemus] J[ones], Llanrwst,

Mae'n anfon y cofnod a ysgrifennodd ynghylch safle'r iaith yn y Brawdlys. Fe'i hanfonodd at Lloyd George a ofynnai am sylwadau T. Artemus Jones ar y mater. Anfonodd gopi hefyd at yr Arglwydd Raglaw (Arglwydd Penrhyn) ac ysgrifennydd yr Arglwydd Ganghellor. Ni ddigwyddodd dim yn y cyfamser. Mae'r bai yn gorwedd ar ysgwyddau aelodau seneddol Cymru. Bydd S[aunders] L[ewis] a'i gyfeillion o flaen y Barnwr yng Nghaernarfon y dydd Mawrth canlynol. Bydd ganddynt gyfle da i gael cyhoeddusrwydd i'r anghyfiawnder.

T. A[rtemus] J[ones], Llandrindod,

Diolch am lythyr a dderbyniodd tra'n pysgota ar Lyn Fyrnwy. Cafodd annwyd yno ac y mae'n gorffen ei wyliau yn ei wely gyda laryngitis. Trafod llwon rheithwyr a swyddogion y llys. Addo anfon copi o'i femorandwm yngl?n â'r anghyfiawnder i Gymro dan y gyfundrefn bresennol. Caiff Saunders Lewis gyfle da iawn i dynnu sylw'r awdurdodau yn Llundain at y ffaith nad yw Cymro yn medru pledio ei achos yn iaith ei fam yng Nghymru. Dylai Saunders Lewis yng Nghaernarfon fod wedi efelychu Emrys ap Iwan yn Rhuthun yn 1889 drwy siarad Cymraeg yn unig. Fel y dywedodd T. P. O'Connor wrth T. Artemus Jones yr unig ddadl y mae John Bull yn ei deall 'yw cic yn ei din neu dyrniad ar ei drwyn!' Gwahoddiad i aros yn Llanrwst.

T. A[rtemus] J[ones], Bangor,

Y mae wedi darllen ateb W. J. Gruffydd i'r Faner a'r Ddraig Goch yn Y Llenor. Hydera y caiff ei gyhoeddi fel pamffledyn yn y ddwy iaith. Cafodd sgwrs â Hooson y diwrnod cynt yn Wrecsam. Y mae wedi ymddiswyddo o fwrdd rheolwyr Y Faner. Tybia nad oedd yn teimlo'n esmwyth iawn ymysg 'y fath nyth o Gatholigion!'. Gwael iawn yw dadleuon 'Euroswydd' a Jack [J. E.] Daniel. Cafwyd anhawster i gael Llywydd i'r Tribiwnlys Apêl Cymraeg. Dywed Hopkin Morris ei fod am fynnu cael llywydd sy'n medru Cymraeg. Mae 75% o achosion Gogledd Cymru yn cael eu clywed yn Gymraeg. Y tro cyntaf i lys barn i dderbyn awdurdod oddi wrth y Llywodraeth Brydeinig i farnu achosion yn hollol drwy'r Gymraeg.

T. A[rtemus] J[ones], Bangor,

Mae'n amgau llythyr David Davies [Llandinam]. Y mae'n siwr na fydd Hulton yn cyhoeddi'r cyfieithiad gan mai Catholigion yw'r teulu. Mae'n awgrymu y gallai Hughes a'i Fab ei gyhoeddi fel pamffledyn.

T. A[rtemus] J[ones], Bangor,

Mae newydd orffen ail-ddarlien 'Mae'r Gwylliaid ar y Ffordd', [Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 112-26] o waith W. J. Gruffydd. Tybiodd ef a'i wraig ers blynyddoedd fod gormod o afael gan Gatholigion ar y Swyddfa Dramor. Gresyn nad yw yn cael ei chyhoeddi yn Saesneg. 'Gyda phob parch i awdur Cwrs y Byd [Saunders Lewis] mae'r peraroglau Rhufeinig drosti i gyd!!'.

Stephen [J.] Williams, Abertawe,

Amgau adolygiad ar Robinson Crusoe i'r Llenor ar gais yr Athro [Henry] Lewis. Hwyrach ei fod yn rhy hir, ond haws talfyrru nag ychwanegu. Buont yn rhegi colled y Brifysgol a llawenhau ennill ysgolheictod a llenyddiaeth Gymraeg [yn sgîl peidio penodi W. J. Gruffydd yn brifathro yng Nghaerdydd].

Stephen [J.] Williams, Abertawe,

Diolch i W. J. Gruffydd am roi mynegiant mor groyw a dewr i'r unig farn sydd yn werth ei mynegi yn y Gymru gyfoes. Gwelodd y W[estern] M[ail] y golau coch. Crybwyll cyfarfod o Gyngor Coleg Abertawe. Un oedd y mwyafrif dros ddiswyddo S[aunders] L[ewis], a hwnnw wedi ei ddychryn gan y bygythiad yr atelid cyfraniadau'r cyfalafwyr i'r coleg oni ddiswyddid Saunders Lewis. Fe rwystrwyd o leiaf ddau o gefnogwyr Saunders Lewis rhag bod yn y cyfarfod. Mae'n ddigon hawdd i gyfarfod arall ddileu'r penderfyniad a wnaed. Petai arholydd allanol y Brifysgol mewn Cymraeg yn gwrthod arholi fel protest hwyrach y byddai'n amhosibl i'r Brifysgol gael neb yn ei le. Byddai'n rhaid i Abertawe wedyn ailystyried y diswyddo. Byddai'r holl faich yn disgyn ar J. Ll[oyd] J[ones] a hwyrach y ceid y darlithydd o Lerpwl i gymryd ei le. Gallai arholwyr mewnol y Brifysgol wrthod gweithredu ond anodd fyddai cael pawb i gydsynio. Hoffai gael barn W. J. Gruffydd a G[riffith] J[ohn] W[illiams] ar y mater. Dylid anfon yr ateb i'w gartref.

Stanley Watkins, Exeter,

Cydymdeimlo ag W. J. Gruffydd am na chafodd swydd [Prifathro] Caerdydd, bron na ellid ei longyfarch hefyd ar beidio â'i chael. Nid yw yn swydd i'w chwennych ac eto nid W. J. Gruffydd yw'r cyntaf i beidio â chael ei gydnabod yn ei ardal ei hunan.

Sian Williams, [gwraig D.J. Williams], Y Borth,

Diolch iddo am ei hateb ac am gydsynio â'i chais. Fe'i chamarweiniwyd yngl?n â'r mater neu ni fuasai wedi ysgrifennu ato. Diolch iddo am eiriol dros D. J. yn y Bwrdd Addysg. Mae'r llywodraethwyr yn debyg o roi dyfarniad cyn i'r Bwrdd Addysg ymateb. Cywilydd o beth fod lle Saunders Lewis wedi ei lanw mor ddiseremoni. Mae'n teimlo'n flin iawn dros ei wraig, y siom ofnadwy o weld Cymry yn ei drin fel hyn. Cafodd ei anfon i ysbyty'r carchar, 'wedi rhedeg lawr dipyn'. Cafodd yr hanes gan A. Gray Jones, ysgrifennydd yr A.M.A. a oedd wedi bod yn ymweld â D. J. Williams. Mae [Lewis] Valentine a D. J. Williams yn iach ac mor gysurus ag sydd bosibl.

Sian Williams, [gwraig D. J. Williams], Y Borth,

Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd tybed a oes modd iddo gael ail gynnig i feirniadu yn Eisteddfod Machynlleth. Tybed a fyddai'n fodlon gweithredu er mwyn y Blaid? Mae'n byw yn awyrgylch yr Eisteddfod ac y mae'n ddolur calon ganddi glywed pa mor chwerw y mae pobl yn erbyn y Blaid, yn dweud mai unig amcan y Blaid yw lladd yr Eisteddfod. Hoffai petai'n ystyried ei chais a cheisio dylanwadu ar y lleill i wneud yr un peth. Mae'r wlad yn colli golwg ar y brotest yn erbyn yr Ysgol Fomio yn Llyn ac yn erbyn dewis yr Arglwydd Londonderry - amddiffynnydd y bomio, yn llywydd un o gyfarfodydd yr Eisteddfod. Rhaid cyfaddef ei fod wedi tynnu'n ôl yn foneddigaidd er lles yr Eisteddfod. Dyna gyfle'r Blaid i wneud popeth i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod yn awr. 'Eiddigedd santaidd' dros y Blaid sy'n peri iddi ysgrifennu fel hyn.

Sian Williams, [gwraig D. J Williams], Brongest,

Bu D. J. a hithau yn trafod y stori 'Yr Eunuch' ychydig cyn ei ddedfrydu. Ofnent fod enllib yn y cyfeiriad at 'y Ffarier' a'r sôn amdano'n 'codi ei fys bach' ac 'afradlonedd ei fywyd cynnar fel efrydydd meddygol'. Mae gwraidd y stori yn wybyddus yn yr ardal - gwyr pawb pwy yw'r ffarier. A fyddai'n well gohirio cyhoeddi'r stori hyd nes y daw D. J. allan [o'r carchar]? Dyna yw ei dymuniad hi beth bynnag. Gobeithia na fydd hyn yr golygu llawer o drafferth iddo. Diolch am lythyr cryf W. J. Gruffydd i'r papurau. Ofna y gellir camddeall un frawddeg ynddo. Mae ganddynt lawer o ffrindiau o Saeson sy'n cydymdeimlo â hwy yn yr helynt presennol.

Canlyniadau 181 i 200 o 982