Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Nodi ei siom na chyhoeddwyd ei ysgrif. Ofna iddi fynd yn angof. Nid yw'n cytuno bod holl arweinyddion y Blaid yn ffasgiaid. Gadawodd ef y Blaid oherwydd na chytunent ag ef fod Almaen Hitler yn anwar. Y mae'n mynegi hynny eto yn Dyddiadur 1940. Gofyn i W. J. Gruffydd anwybyddu gwallau yn y gyfrol honno. Un broflen a gafodd ef ac fe gysodwyd y llyfr yn ystod y 'dyddiau uffernoll' a gafodd Abertawe.

Violet Douglas-pennant, Llundain,

Yr oedd yn ddrwg gan Violet Douglas-Pennant golli W. J. Gruffydd yn yr arddwest a gynhaliwyd yn Neuadd Aberdâr [Coleg Caerdydd]. Mae'n amgau taflen brintiedig yngl?n â Stanley Baldwin ag achos Miss Douglas-Pennant.

Vernon Rees, Salisbury,

Ymddiheuro am adael heb ddiolch i W. J. Gruffydd am ei garedigrwydd iddo tra fu yn y Coleg. Dysgodd werthfawrogi'r pethau ceinaf yn y byd. Bydd yn edrych ymlaen yn eiddgar at bob rhifyn o'r Llenor.

V. G. Sederman, Caerdydd,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei gyfraniad gwych i'r ddadl ar y Mesur Addysg. Mae'n cytuno â sylw W. J. Gruffydd mai gwaith athro yw dysgu. Beirniadu'r ffaith fod athrawon yn gorfod arolygu prydau bwyd a dosbarthu llaeth. Hydera y bydd W. J. Gruffydd yn parhau i wrthwynebu yr ymyrraeth cynyddol hwn ar amser dysgu athrawon.

'Uncle O',

Dinorwig. Dweud beth sydd ar garreg fedd 'Glan Padarn' a'i wraig Mary. Manylion amdano. Bu farw Mary yn 1878 yn 28 oed ac yna priododd ei chwaer. Bu iddo ddau fab. Disgrifiad corfforol ohono. Bu mewn ysgol yn Nulyn a Rhuthun. Bu'n gweithio am gyfnod byr ym Mhenbedw. Aeth yn aberth i 'nychdod' yn gynnar iawn. Roedd llais tenor swynol ganddo. Cadwai ei freichiau yn syth i lawr pan âi i hwyl. Dywedodd 'Llew Llwyfo' lawer gwaith mai'r tri bardd mwyaf canadwy oedd 'Ceiriog', 'Mynyddog' a 'Glan Padarn'. Arferai gyfansoddi alawon i'w siwtio ei hun o ran llais. Nid yw'r alawon hyn wedi eu cyhoeddi. Sgets o'r garreg fedd.

Trefor Rendal Dafys, Bryste,

Synnu at y ffordd yr erlidiwyd Dr Iorwerth Peate gan awdurdodau'r Amgueddfa Genedlaethol. Y mae'n llongyfarch y rhai a fu'n weithgar dros iddo gael ei swydd yn ôl. Copi teipysgrif.

Tom Williams, Aberystwyth,

Gellir trefnu bod rhywun arall yn darllen Rheol Buchedd Sanctaidd [ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru]. Gwell ganddo pe bai W. J. Gruffydd neu Mr Jenkin James yn ymgymryd â'r sgwrs radio, byddai ef yn fodlon danfon unrhyw wybodaeth angenrheidiol. Mae'n amgau ei ysgrif ar oedran geiriau ['Oedran Geiriau Cymraeg', Y Llenor cyf. XV (1936), tt. 44-7]. Y mae hefyd yn amgau copïau o slipiau'r Geiriadur am y gair 'egwyd'.

Tom Richards, Bangor,

Ymosodiad ar adolygiad 'anonest' T. J. Morgan yn Y Llenor [cyf. XV (1936), tt. 48-55, adolygiad ar Creigiau Milgwyn, nofel gan Grace Wynne Griffith]. Dywedodd fod hanner beirniadaethau Tom Richards yn ddim ond ymosodiad ar fanion sillafu a chamenwi. Mae hynny'n gelwydd noeth. £50 oedd y wobr nid £100. Nid oedd ond dwsin yn gwrando arno'n traethu ar gyfnod Morgan Llwyd, nid tyrfa. Dywedodd beth wmbredd o bethau clodwiw am y nofel, ond nid oes yr un sill gan T .J. Morgan. Y pechod mawr oedd peidio â rhoi'r wobr gyfan i Kate [Roberts]. Nid nofel oedd ei gwaith hi, ond cadwyn o storfau (godidog ddigon). Hoffai gael ymateb i'r adolygiad yn Y Llenor, ond hwyrach mai gwell fyddai ymatal hyd oni chyhoeddir adolygiad ar [Traed Mewn Cyffion] Kate [Roberts].

Tom Parry, Groeslon,

Diolch am bopeth a wnaeth W. J. Gruffydd drosto tra bu yng Nghaerdydd. Fe'i calonogwyd gan ei ddull 'o gyfuno perffaith ryddid a diddordeb yn [ei] waith'. Mae'n falch o'r tair blynedd a dreuliodd yn y De. Mae'n tynnu at derfyn papurau'r Bwrdd Canol ac wedi dechrau darllen proflenni Peniarth 49.

Tom Parry, Groeslon,

Gofynnodd Edgar Jones iddo ysgrifennu at W. J. Gruffydd ynghylch gwersi radio. Bydd yn falch o unrhyw gyfarwyddyd. Mae'n gofyn os bu i W. J. Gruffydd weld llythyr T. R. [? Thomas Richards] at T. J. M. [T. J. Morgan]. Mae arno gywilydd i'r fath gyfansoddiad gychwyn erioed o Goleg Bangor.

Tom Parry, Bangor,

Llythyr yngl?n â beirniadaeth y bryddest yn Aberpennar. Mae 'Cynan' am anfon y tair pryddest sydd ag un copi yn unig ohonynt at W. J. Gruffydd - ni raid poeni amdanynt, y maent yn perthyn i'r trydydd dosbarth. Rhestrir yr ymgeiswyr sydd yn yr ail ddosbarth o'r dosbarth cyntaf. Cred Cynan a Tom Parry mai 'Blodau'r Grug' yw'r gorau, mae'n denau mewn mannau ond nid yw'n cynnwys athronyddu gwag fel rhai ohonynt. Mae rhywbeth diffuant yn ei symledd. Rhyfedd iddo beidio â sôn am Frwydr Mynydd Carn a charchariad Gruffydd ap Cynan yng Nghaer. Mae ei waith yn fwy o gyfres o faledi telynegol nag o bryddest. Hoffai wybod os yw W. J. Gruffydd yn gytûn yngl?n â phryddest 'Blodau'r Grug'. A yw hi'n ddigon da i'w choroni? Buasai'n dda medru dyfarnu'r Goron gan fod ym mryd y BBC 'wneud tipyn o firi o'r peth ar y radio'.

Tom Parry, Bangor,

Y mae am dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl o Fachynlleth. Cafodd y pwyllgor ei boenydio ddigon. Mae'n gwneud hyn ar yr amod fod Dr Ashton yn cadw rheolaeth ar ei dafod ac na fydd yn eu difrio ar hyd y wlad fel y gwnaeth tua Gwyl Dewi.

Tom Parry, Bangor,

Y mae ef wedi ymddiswyddo o fod yn feirniad yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Roedd hi'n anodd gwneud hynny oherwydd yr oedd cael beirniadu'r awdl yn ei wneud 'yn dipyn o lanc'. Yr oedd wedi digio wrthynt am benodi Caradoc Evans yn feirniad y nofel ond pan soniwyd am [yr Iarll] Londonderry, fe droes ei stumog. Tybia y buasai Gwenallt, Hooson, Lloyd Jones, S. B. Jones ac [E.] Prosser Rhys yn fodlon dilyn eu hesiampl. Nid yw mor sicr am T. G[wynn] J[ones], ond bwriada gael gair â Thomas Richards. Nid yw'n addo ceisio dylanwadu ar Syr J. E. Lloyd. Mae'n ofni bod ysbryd heddychol I[for] W[illiams] braidd yn anodd i'w gyffroi.

Tom Parry, Bangor,

Dyry'r cefndir i'w lythyr blaenorol [rhif 656 uchod]. Cawsai lythyr oddi wrth Breese Davies, Dinas Mawddwy, yn gofyn iddo gydsynio i feirniadu gan fod rhwystr yr Iarll Londonderry wedi ei symud a chan fod pwyllgor nos Wener i ystyried y sefyllfa a'i fod am dderbyn ateb cyn hynny. Gan fod problem yr Iarll wedi ei symud a bod y Pwyllgor mewn digon o anawsterau rhwng popeth cytunodd i dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl. Anfonodd at W. J. Gruffydd a 'Meuryn' yr un pryd. Ateb 'Meuryn' oedd mai'r Pwyllgor a ddylai symud, a dyna ddigwyddodd. Daeth llythyr ar ôl y Pwyllgor yn derbyn yr ymddiswyddiad. Mae'n debyg mai T. G. J[ones] a J. Ll[oyd] J[ones] fydd yn beirniadu'r awdl. Gresyn na buasai'r ddau wedi cael digon o blwc i ymddiswyddo. Dylai ymddiheuro am beidio â dod i wrando ar W. J. Gruffydd yng Nghynhadledd y Blaid. Cychwynnodd yn dalog ond wedi camgymryd amser y trên yr oedd yn 3.15 arno'n cyrraedd Caernarfon.

T[homas] Shankland, Bangor,

Ymddiheuro bod enw W. J. Gruffydd wedi ei hepgor o restr gyhoeddedig. Dylai fod yno. Mae'n ysgrifennu at 'Asaph' i gywiro'r gwall ar unwaith. Cerdyn post.

Canlyniadau 101 i 120 o 982