Print preview Close

Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

J. Seymour Rees, Blaendulais,

Diolch am y rhifyn diweddaraf o'r Llenor. A oes gobaith cael nodiadau'r golygydd eto a'i Hen Atgofion? Mae ganddo'r Llenor wedi ei rwymo ganddo ef ei hun a silff bwrpasol i ddal y cyfrolau. Mae yno le am hanner cant o gyfrolau eto a hynny o dan yr un golygydd, gobeithio. Mae'n edmygu W. J. Gruffydd am ei gyfraniad mawr. Cerdyn post.

Iorwerth C. Peate, Caerdydd,

Anfon ysgrif i'r Llenor ['Anghydffurfiaeth a'r Trefi', Y Llenor, cyf. XXIII (1944), tt. 9-16]. Holi hynt ei gais i dderbyn uchafswm ar raddfa'r Ceidwad o'r cyntaf o Ionawr. Clywodd gan Twiston Davies mai o'r cyntaf o Orffennaf y bwriedid ei dalu ar y raddfa newydd. Y mae ar fin colli gwasanaeth Miss Price, ei ysgrifenyddes. Bydd ef ar ben ei hunan wedyn yn ei adran. Y mae tri neu bedwar o staff ar ôl mewn rhai adrannau.

Results 981 to 982 of 982