Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

[A. E. Jones] 'Cynan', Porthaethwy,

Y mae Cynan yn falch mai ato ef yr anfonodd W. J. Gruffydd ei brotest yn erbyn y rhan honedig a gymerodd yr Archdderwydd Crwys mewn seremoni yn Wessex pan wisgwyd tarw â garlantau barddol. Mae Cynan yn pwysleisio nad oedd a wnelo'r Orsedd ddim â'r peth. Yr adroddiad yn yr Evening News oedd y peth cyntaf a glywodd ef am y digwyddiad. Yr oedd hawl gan Crwys i dderbyn gwahoddiad personol i fynd yno ond nid oedd ganddo'r hawl i fynd â gwisg a theyrnwialen Archdderwydd Cymru o'r Amgueddfa Genedlaethol heb awdurdod Bwrdd yr Orsedd. Pan dderbyniodd Cynan y toriad gan gyd-swyddog ysgrifennodd at Crwys [ceir copi o'r llythyr yn atodiad i'r llythyr hwn] ond cadarnhau iddo fod yno a wnaeth Crwys yn hytrach na gwadu. Dywedodd na chymerodd ran yn nefod addurno'r tarw ac y bu iddo ymgynghori â'r Arwyddfardd cyn mynd. Yr oedd yr Arwyddfardd dan yr argraff mai dros Gyngor yr Eisteddfod yr âi Crwys ac nid fel unigolyn. Bwriada'r Arwyddfardd ysgrifennu i egluro hyn i Fwrdd yr Orsedd a chael Crwys i ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad. Teimla Cynan na ddylai W. J. Gruffydd grybwyll y mater yn Y Llenor. Pwyllgor Gwaith Cyngor yr Eisteddfod yw'r lle priodol i wneud hynny.

A. C. Cameron, Llundain,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ddarllediad a wnaethai'r bore hwnnw. Llwyddodd i gyfleu'r ddadl yngl?n ag ymwybyddiaeth genedlaethol Gymreig yn dda. Canmola W. J. Gruffydd am ymosod ar y myth sy'n bodoli yngl?n â'r Celtic twilight. Rhyfedda at y ffaith fod mwyafrif arweinwyr y Gwyddelod o dras Seisnig fel Yeats a Parnell. Mae llawer o'r bai ar Syr Walter Scott yn yr Alban am barhau'r myth. Bu'n aros yng Nghymru am ddeuddydd ar ei ffordd yn ôl o Iwerddon. Gwelodd ysgol yn sir Gaerfyrddin lle roedd plant o Lundain yn dysgu Cymraeg a'r Cymry yn cael gwersi Saesneg gan athrawon yr L.C.C.

Canlyniadau 981 i 982 o 982