Print preview Close

Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

Drafftiau o gerddi o waith W. J. Gruffydd ac eraill: 'Jonah Puw'; 'Emyn i Amynedd'; 'Yr ieuainc wrth yr hen' ...,

Drafftiau o gerddi o waith W. J. Gruffydd ac eraill: 'Jonah Puw'; 'Emyn i Amynedd'; 'Yr ieuainc wrth yr hen'; 'The Yew-Tree at Llanddeiniolen' (cyf. H. I. Bell); 'Gwerfyl Fechain' (cyf. A. P. Graves); 'A hearty old Vicar of Mount ...', 1942; 'O Fab y Dyn, Eneiniog Duw ...'; 'Cyffes Gweinidog Bethesda' a 'Y Murddyn' wedi eu copio'n gain, Mehefin 1941; 'Rhagluniaeth fawr y nef ...'; ysgrif ar 'Glan Padarn' (Thomas David Thomas); 'I'r Eos yn canu mewn mynwent'; 'Yr Hydref'; a 'Gwyll y Duwiau', &c.

R. I. Aaron, Cpc Aberystwyth,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ennill yr etholiad. Mae 'Gwenallt' yn bwriadu cyhoeddi erthygl ar 'Islwyn' yn Yr Efrydydd. Hwyrach y bydd i 'Gwenallt' ac R. I. Aaron lunio erthygl ar gyfer Y Llenor ar ddrafft cyntaf y 'Storm'. Dadansoddiad o'r hyn y ceisiodd O. M. [Edwards] ei wneud wrth olygu gwaith 'Islwyn' yn 1897 ar gyfer Cyfres y Werin.

[W. J. Gruffydd] at E. R. Appleton, BBC, Caerdydd,

Mae'n barod i ddarlledu apêl ar ran 'Cofeb Islwyn'. Bu mewn is-bwyllgor [darlledu] y noson flaenorol ac y mae'n feirniadol o gyfansoddiad y pwyllgor. Cred y dylai G. J. Williams a Tom Parry o'r Coleg, Dr Llewelyn Williams o'r Bwrdd Iechyd Cymreig a'r Parch. John Roberts, Pembroke Terrace, fod yn aelodau ohono. Syndod iddo oedd sylwi nad oedd R. T. Jenkins yn aelod ychwaith. Copi teipysgrif.

W. Ambrose Bebb, Bangor,

Holi hynt ei ysgrif ar 'Achosion y Diwygiad Protestannaidd'. Canmol erthygl W. J. Gruffydd 'Mae'r Gwylliaid ar y ffordd' [Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 112-26].

E. H. Jenkins, BBC, Caerdydd,

Mae'n cynnig ffi o ddeg gini i W. J. Gruffydd am bob perfformiad o'i ddrama 'Dull y Byd Hwn'. Gellid defnyddio'r ddrama gan yr awdur ond byddai'r sgript yn para'n eiddo i'r Gorfforaeth. Hoffai dderbyn cydsyniad W. J. Gruffydd.

R. T. Jenkins, Bangor,

Mae'n anfon erthygl gan Alun Thomas ar gyfer Y Llenor ('Rhai Agweddau a r Broblem Diarfogi', Y Llenor XIV [1935, tt. 51-62]). Bu'n rhaid ei chwtogi tipyn. Y mae'n gofyn i W. J. Gruffydd ei chynnwys yn Y Llenor ar fyrder er mwyn i R. T. Jenkins fedru wynebu'r awdur gan iddo ei chadw cyhyd. Daeth [David] Hughes Parry at R. T. Jenkins yn Llundain yn brudd yr olwg a'i hysbysu nad oedd W. J. Gruffydd am barhau gyda chofiant O. M. Edwards. Cafodd R. T. Jenkins wahoddiad i fynd ymlaen â'r dasg. Mae'n pwyso ar W. J. Gruffydd i fynd â'r maen i'r wal. Rhydd hanes ei ymweliad â'r Gyfadran Ddiwinyddol yn Amwythig y diwrnod blaenorol.

Edw[ard] T. John, Llanfairpwllgwyngyll,

Diolch am lythyr diddorol. Mae'n falch o glywed bod yr elfen fwyaf ystyriol yng ngharfan Young Wales yn gefnogol i'w syniadau. Cafodd ei siomi hytrach gan The League of Young Liberals. Mae'n dda ganddo weld bod W. J. Gruffydd yn prisio'r farddoniaeth ddiweddar cystal. Credai y byddai dadeni ym myd yr awen o weld y beirdd yn ailgydio yn themgu y Mabinogion. Y mae'n credu y dylai Cymru gael rheolaeth dros ei hadnoddau naturiol. Mae'n cytuno â'r angen i bregethu efengyl Cenedlaetholdeb Cymreig. Mae'n gobeithio cael cyfle i siarad â W. J. Gruffydd ar ddydd Sul, 18 Mehefin, am ei erthygl i'r Beirniad ac am Ddatgysylltiad.

[W. J. Gruffydd] at A. E. Jones 'Cynan',

Mae'n rhoi ei farn ar 'yr enwau ar y pared' yn yr Eisteddfod. Nid yw'n gefnogol i'r paneli enwogion. Cam yn ôl i Oes Victoria fyddai llenwi'r pafiliwn â baneri pigfain. Yr oedd yr hen eisteddfodwyr yn credu mewn gwneud y pafiliwn yn debyg i siop printer gwlad. O ddefnyddio baneri pigfain byddai'n debycach i syrcas. Mae'n apelio am foelni a symlrwydd ar furiau'r pafiliwn. Os oes raid cael enwau enwogion yna dylid defnyddio llythrennau Rhufeinig plaen. Copi teipysgrif.

[A. E. Jones] 'Cynan', Porthaethwy,

Yr oedd yn ddrwg ganddo glywed fod W. J. Gruffydd yn anhwylus ym Methel. Mae'n esbonio sut yr aethpwyd ymlaen gyda beirniadaeth y Goron er na dderbyniwyd beirniadaeth W. J. Gruffydd. Er pob ymdrech i gysylltu â W. J. Gruffydd methwyd â dod o hyd iddo. Gan fod Prosser Rhys a Chynan yn gytûn mai'r gwaith yn dwyn y ffugenw 'Aneirin' [Herman Jones, Deiniolen] oedd y gorau, fe aethpwyd ati yn unol â'r rheol ynghylch cytundeb dau feirniad, i gynnwys y beirniadaethau yn y gyfrol. Mae'n ofid nad yw W. J. Gruffydd yn cytuno ond nid yw'r ffaith honno yn newid dim ar farn Cynan.

[A. E. Jones] 'Cynan', Porthaethwy,

Y mae Cynan yn falch mai ato ef yr anfonodd W. J. Gruffydd ei brotest yn erbyn y rhan honedig a gymerodd yr Archdderwydd Crwys mewn seremoni yn Wessex pan wisgwyd tarw â garlantau barddol. Mae Cynan yn pwysleisio nad oedd a wnelo'r Orsedd ddim â'r peth. Yr adroddiad yn yr Evening News oedd y peth cyntaf a glywodd ef am y digwyddiad. Yr oedd hawl gan Crwys i dderbyn gwahoddiad personol i fynd yno ond nid oedd ganddo'r hawl i fynd â gwisg a theyrnwialen Archdderwydd Cymru o'r Amgueddfa Genedlaethol heb awdurdod Bwrdd yr Orsedd. Pan dderbyniodd Cynan y toriad gan gyd-swyddog ysgrifennodd at Crwys [ceir copi o'r llythyr yn atodiad i'r llythyr hwn] ond cadarnhau iddo fod yno a wnaeth Crwys yn hytrach na gwadu. Dywedodd na chymerodd ran yn nefod addurno'r tarw ac y bu iddo ymgynghori â'r Arwyddfardd cyn mynd. Yr oedd yr Arwyddfardd dan yr argraff mai dros Gyngor yr Eisteddfod yr âi Crwys ac nid fel unigolyn. Bwriada'r Arwyddfardd ysgrifennu i egluro hyn i Fwrdd yr Orsedd a chael Crwys i ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad. Teimla Cynan na ddylai W. J. Gruffydd grybwyll y mater yn Y Llenor. Pwyllgor Gwaith Cyngor yr Eisteddfod yw'r lle priodol i wneud hynny.

A. Gwynn Jones, Capel Garmon,

Anfon tair cân i'r Llenor. Y mae dylanwad W. J. Gruffydd ar y cyfnod yn fwy nag y tybia. Y mae cynnwys Y Llenor yn gyfoethog. Wfft i'r 'Junior Member' a chriw ffals y Western Mail.

D. J. Jones, Portsmouth,

Llwyddodd i fenthyg llyfrau ar Ddewi Sant o'r Llyfrgell Genedlaethol a phenderfynodd gadw at bwyntiau cyffredinol gan osgoi ffeithiau. Tybia fod ei bregeth yn eithaf llwyddiannus. Ei uchelgais yw cael plwyf tawel gwledig heb fod ymhell o'i sefyllfa bresennol ar gyfer y deg i bymtheg mlynedd sy'n weddill o'i yrfa. Atgoffa W. J. Gruffydd o'u hymweliad â bazaar y Groes Goch yn Ismailia. Holi beth yw ystyr yr enw Mabws ym mhlwyf Llanrhystud a beth yw'r esboniad am y ffurf 'Llangwrddon' ar lafar am enw'r plwyf Llangwyryfon.

D. J. Jones, Hedgerley, Buckinghamshire,

Cafodd bleser mawr o glywed anerchiad eneiniedig W. J. Gruffydd i'r Cymmrodorion ar y radio. Y mae'n cytuno â barn W. J. Gruffydd ar beth ddylai cynnwys Y Bywgraffiadur fod. Ni ddylai fod yn 'apologia pro vita sua' i'r Saeson nac yn ymgais i brofi bod Cymru wedi cynhyrchu gwyr mawr. Y mae o'r farn y ddylai gwyr fel Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn, a David Lewis, y teiliwr a'r cerddor o Lanrhystud, fod ynddo.

D. Tafwys Jones, Caerffili,

Mae'n anfon copi o'r llyfr Y Cydymaith Goreu at W. J. Gruffydd yn rhodd gyda diolch am bopeth a wnaeth dros Elsie [ei ferch]. Nid yw Elsie wedi cael lle hyd yma, dal i obeithio y maent. Cafodd fenthyg cofiant Hiraethog gan Scorpion a Dewi Ogwen ac y mae wedi dechrau ar ei gwaith. Mae D. Tafwys Jones wedi ei ddarllen yn frysiog ac nid yw'n credu ei fod yn dda iawn. Y mae'n proffwydo y bydd W. J. Gruffydd yn bennaeth un o'r colegau sydd yn, ac sydd i ddod yn wag cyn bo hir.

Dafydd M[orris] Jones, Aberystwyth,

Mae'n amgau tocyn maes parcio ar gyfer yr Eisteddfod. Bydd yn rhaid cael trwydded gan y Prif Gwnstabl i barcio'r car ar rai o strydoedd Aberystwyth. Dylid gwneud cais yn Swyddfa'r Heddlu ar ôl cyrraedd gan ddangos y tocyn amgaeëdig. Cynhwysir awgrymiadau ynghylch traddodi beirniadaethau yn y Babell Lên. Teipysgrif.

Edmund Jones, Y Bermo,

Negyddol yw pob ymgais am wybodaeth ar gyfer W. J. Gruffydd hyd yn hyn. Mae'n amgau llythyr oddi wrth Morris Davies ac un a dderbyniodd yntau gan gyfaill. Y mae'n disgwyl ateb oddi wrth gyfaill arall yn Nhrawsfynydd hefyd.

Results 81 to 100 of 982