Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

W. N. Bruce, Albury Heath,

Diolch am ei lythyr a'r crynodeb; y mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth yntau. Nid oes dim ynddynt sy'n gwrth-ddweud ei gilydd. Prif fwriad W. N. Bruce yw pwysleisio'r angen am lyfrau gosod. Y mae'n deall ofnau W. J. Gruffydd ynghylch cyfansoddiad y Cyngor Ymgynghorol. Nid trwy bleidlais y mae gweld gwir gryfder corff fel hwn. O ddewis yr elfen academaidd yn ofalus gall ei ddylanwad fod gystal â deg gwaith ei nerth pleidleisio.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Mae cyfiawnhad dros i W. J. Gruffydd ymgeisio am swydd Prifathro Coleg [Caerdydd]. Pe na bai W. N. Bruce ar y pwyllgor [dewis] byddai yn falch iawn o ysgrifennu tystlythyr iddo. Gan ei fod ar y pwyllgor y mae'n gorfod bodloni ar addo rhoi ystyriaeth deg i'r cais. Byddai wedi synnu ac yn siomedig pe na roddid enw W. J. Gruffydd ymlaen ar gyfer y swydd. Nid yw yn gwybod eto pa enwau eraill y byddant yn eu hystyried.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Bydd yr ôl-nodiad i'r llythyr amgaeëdig [sydd ar goll] o ddiddordeb i W. J. Gruffydd. Y mae W. N. Bruce yn mynd i roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Ymgynghorol y Bwrdd Addysg. Y mae'n falch o glywed bod W. J. Gruffydd wedi cael ei alw hefyd. W. N. Bruce yn bwriadu codi mater cyhoeddi llyfrau gosod ar gyfer pob lefel addysgol, nid rhai yn Gymraeg yn unig, er mai rheiny ddylai gael y sylw yn gyntaf.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Y mae wedi darllen erthygl W. J. Gruffydd yn y Western Mail ['The Case Against a National Council of Education for Wales', t. 11]. Dywed ei bod yn ddiddorol a dewr, er nad yw ef yn cytuno â'i safbwynt. Trafodir y syniad na ellir gweithredu cynllun W. N. Bruce heb greu swydd Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Yr ail bwynt i'w drafod yw sefydlu perthynas bendant rhwng arholiad ac archwiliad. Adroddir hanes argyfwng y Bwrdd Addysg wrth geisio dosbarthu arian i ysgolion uwchradd yng Nghymru flynyddoedd ynghynt. Yr oedd Owen Edwards ac Alfred Davies i gael defnyddio'r arian fel y mynnent. Mae W. N. Bruce yn gweld eisiau ei gysylltiad a'r Brifysgol yn fawr iawn ond bu'n rhaid iddo dorri'r cysylltiad oherwydd afiechyd.

W. Lloyd Davies, Bournemouth,

Mae W. Lloyd Davies yn barod i anfon at olygyddion y Cambrian Archaeological Journal i brotestio am nad oedd Harold Hughes, un o'r golygyddion, yn fodlon cynnwys slip hysbysebu yngl?n â chofiant O. M. Edwards.

W. Lloyd Davies, Bournemouth,

Mae'n falch o glywed bod Dr Lloyd wedi rhoi H[arold] H[ughes] yn ei le. Bu'n pwyso dros gael erthyglau Cymraeg o dro i dro yn y cylchgrawn, ond ni chafwyd un hyd yn hyn. Mae'n dda ganddo glywed bod y cofiant yn cael y fath groeso ardderchog. Sôn am gyfarfyddiad a gafodd ag O. M. Edwards. Hanes yr ymgyrch i gael carreg fedd i 'Hwfa Môn'. Diddorol iawn oedd atgofion W. J. Gruffydd am William Jones, A.S. Awgryma y gallai rhywun fynd ati i adrodd hanes William Jones a'r ffordd y cafodd ei gaethiwo gan y Blaid Ryddfrydol. Paham nad yw Herbert Morgan yn mynd ymlaen â'r bwriad o gyhoeddi llythyrau 'Glan y Gors'?.

W. LL. Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth,

Mae'n fodlon anfon copi o gatalog teipiedig y llawysgrifau i'r pedwar coleg. Y mae 15,000 o lawysgrifau a 130,000 o ddogfennau a phapurau yn y Llyfrgell bellach. Y mae'r staff wedi gweithio'n galed yn y tair blynedd a hanner ers i W. Ll. Davies gymryd yr awenau. Teipiwyd cymaint fyth ag a ellid o'r schedules a'u rhwymo ar gyfer eu defnyddio gan y darllenwyr. Daeth nifer helaeth o gasgliadau gwerthfawr i mewn yn ddiweddar, mwy nag erioed o'r blaen. Rhestrir rhai o'r rhestrau a baratowyd. Y mae chwech aelod o staff yn Adran y Llawysgrifau yn awr lle roedd dau, Diverres a Marjorie Hall yn 1919. Y mae ef a Miss [Irene] George yn paratoi Arweinlyfr i'r prif gasgliadau. Ni ellir sbario Miss George i adolygu'r Index to the Morris Letters er cymaint y buasai'n hoffi gwneud hynny.

[W. J.GRUFFYDD, Penarth, at D. J. Williams, Abergwaun],

Mae'n ymddiheuro am anfon llythyr Saesneg, nid yw ei ysgrifenyddes yn deall Cymraeg. Nid yw'n gallu deall safbwynt D. J. Williams yngl?n â'r rhyfel. Rhaid iddo dderbyn mai dyna yw ei safbwynt fel y wraig a fethai gredu bod y fath anifail i gael â jiraff. Bwriedir ei sylwadau yn Y Llenor ar gyfer rhai â dipyn llai o grebwyll na D. J. Williams. Yr unig beth sydd yn ei boeni ar hyn o bryd yw sut i achub Cymru, gweddill Prydain, a gweddill y byd oddi wrth bwerau y credid iddynt gael eu concro ddwy fil o flynyddoedd ynghynt. Mae ei holl fryd ar ffoi oddi wrth y sefyllfa, ond ni fydd hynny ond osgoi cyflafan fawr. Cofio at Mr D. J. Williams. Hoffai ymweld â hwy yn fuan i fod ymhlith pobl a all fod yn ddifrifol ac yn llawen. Copi teipysgrif.

W. Jenkyn Thomas, Llundain, WC1,

Ceisio perswadio W. J. Gruffydd i'w gefnogi yn ei ymgais i wrthwynebu ffafriaeth a llwgrwobrwyo wrth wneud apwyntiadau addysgol. Mewn cyswllt arall hoffai nodi ei falchder o ddarllen sylwadau diweddar W. J. Gruffydd am ei hen gyfaill Trevor Owen a'r gwaith da a wnaeth fel y prifathro cyntaf i gael ei apwyntio i'r system Addysg Ganolraddol Gymreig.

[W. J. Gruffydd] at y Prifathro Stuart Jones, C.P.C Aberystwyth,

Diolch am ei lythyr. Y mae Sir John [Morris-Jones] eisoes wedi cysylltu â golygydd y South Wales News ond nid yw hynny yn debyg o wneud gwahaniaeth. Y brif ystyriaeth yw bod y Brifysgol yn talu dyn i ymosod ar ei gwaith ei hunan. Hydera y caiff Stuart Jones gyfle i drafod y mater gyda'i gydweithwyr pan fydd yn dychwelyd i Aberystwyth. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at y Prifathro Stuart Jones, C. P. C. Aberystwyth,

Llythyr yn ymosod ar Timothy Lewis. Y mae'n defnyddio'r Wasg i ymosod ar athrawon Cymraeg y Brifysgol. Y mae ar fin ymosod ar Syr John Morris-Jones yn y South Wales News. Y mae'r erthyglau a gyhoeddir ganddo yn destun sbort yng Nghymru. Y mae ei gais i esbonio enwau lleoedd yn fwy gwallgo na'r rhai welir mewn papurau lleol. Mae'n rhaid i Adran y Gymraeg yn Aberystwyth ysgwyddo'r gwarth am ei ymddygiad. Y mae'n ennill £550 y flwyddyn am wneud dim ond ymosod ar aelodau'r brifysgol. Rhaid gwneud rhywbeth am hyn ar fyrder. Cafwyd addewid yng nghyfnod rhagflaenydd Stuart Jones gan Timothy Lewis y byddai'r ymosodiadau hyn yn darfod. Hydera y gellir delio â'r sefyllfa cyn gorfod codi'r mater gydag awdurdodau'r Brifysgol. Awgryma y gellid holi barn yr athrawon Parry-Williams, Gwynn Jones, Edwards a Fleure. Gallai Henry Lewis ac Ifor Williams roi barn ddiduedd yn ogystal pe bai raid. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,

Cydnabod derbyn rhif 167 uchod. Gobeithia gael gair gyda Mr Young ynglyn ag agwedd y Gymanwlad at addysg yng Nghymru. Mae Dr [Thomas] Richards, Llyfrgellydd [Coleg] Bangor yn gweithio ar hyn eisoes. W. J. Gruffydd yn bwriadu anfon crynodeb o'i dystiolaeth i'r pwyllgor at W. N. Bruce pan ddaw copi i law. Mae W. J. Gruffydd yn anfodlon ar gyfansoddiad y pwyllgor a'r modd yr etholwyd ef. Y mae'n ofid ganddo fod cyn lleied o academyddion ar gyrff Cymreig. Hwy ddylai wybod beth yw anghenion addysg yng Nghymru. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,

Mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth. Nid yw wedi derbyn copi o dystiolaeth W. N. Bruce eto. Gobeithia nad yw yn gwrthddweud W. N. Bruce yn ei dystiolaeth. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at Thomas Jacob Thomas, 'Sarnicol', Aber-fan],

Diolch am ei lythyr, [rhif 796 uchod]. Y mae'n cytuno'n llwyr ag ef. Bu'n ceisio amddiffyn gwaith 'Wil Ifan', Crwys ac eraill yn erbyn Saunders Lewis. Byddai'n ddiolchgar iawn am rywbeth tebyg i'r hyn a anfonodd. Nid yw yn rhy lleol gan fod diddordeb cenedlaethol yng Nghymru yn dibynnu ar bethau lleol. Bu'n disgwyl cyfraniad gan 'Sarnicol' ers hir amser. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at The Times],

Achwyn am safon adolygiadau yn y Times ar lyfrau ysgolheigaidd Celtaidd. Mae'n amlwg mai newyddiadurwr a hwnnw'n ddi-Gymraeg o bosibl, sydd wrthi yn adolygu. Mae digon o adolygwyr addas ar gael ym Mhrifysgol Cymru ac oddi allan iddi. Mae'n nodi'r adolygiad gwan a gafodd llyfr E. J. Jones, History of Education in Wales. Mae'n amlwg i bawb nad oedd yr adolygydd yn gymwys i ddelio â'r llyfr. Nid oes gan W. J. Gruffydd unrhyw achwyniad personol, mae'n ysgrifennu fel Athro Cymraeg hynaf y Brifysgol a'i fod yn ymwybodol o'r anfodlonrwydd sydd yn bodoli ymhlith ysgolheigion am adolygiadau'r T.L.S. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Syr John Morris-jones,

Anodd gwybod beth ddylai ymateb John Morris-Jones fod. Dylai ateb y llythyr ond peidio sôn am vendetta. Awgrymu drafft o lythyr yn amlinellu beirniadaeth Timothy Lewis o athrawon Prifysgol Cymru i gyd. Bwriada anfon llythyr at y Prifathro Stuart Jones. Copi teipysgrif.

Canlyniadau 41 i 60 o 982