Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

Alun [Llywelyn-williams], Llundain W.1,

Mae'n amgau darn o farddoniaeth ar gyfer Y Llenor. ['Yma'n y Meysydd Tawel', Y Llenor, cyf. XIX (1940), t. 69]. Mae arno ofn fod ei awen wedi rhydu. Dyma'r gerdd gyntaf iddo ef lwyddo i'w hysgrifennu ers oes mul. Efallai y daw rhyw ddaioni o'r rhyfel os gall ei brofocio i ddychwelyd at yr hen lwybrau.

Alun [Llywelyn-williams], Llundain W.C.1,

Mae'n gyrru ysgrif i'r Llenor ar iaith lafar y radio. ['Y Gymraeg ar y Radio', Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 143-54]. Ei syniadau personol ef sydd ynddi nid datganiad swyddogol o bolisi'r BBC. Addasiad o femorandwm ydyw, mewn gwirionedd, a anfonwyd ganddo at Mr Hopkin Morris. Derbyniodd ganiatâd Mr Morris i anfon yr ysgrif at W. J. Gruffydd. Mae'n bosibl y bydd yn cynnig rhyw fath o arweiniad i'r pwnc. Mi fydd yn profi, beth bynnag, fod rhai o aelodau staff y BBC yn dymuno'n dda i'r heniaith ac yn awyddus i wneud eu gorau drosti. Mae De Cymru yn ei chael hi'n ddrwg gan gyrchoedd awyr yr Almaenwyr. Mae'n anodd derbyn bod pobl yn cael eu lladd yng Nghaerdydd ac Abertawe a mannau eraill yng Nghymru. Gobeithio y caiff y Gogledd lonydd.

Aneirin Ap Talfan [Davies], Rhydaman,

Mae'n casglu barddoniaeth ar gyfer detholiad sydd i'w gyhoeddi gan Lyfrau'r Dryw. Mae'n gofyn caniatâd W. J. Gruffydd i gyhoeddi 'Angof' ac 'In Memoriam' a bydd lle i ddwy gerdd arall. Darllenodd ysgrif W. J. Gruffydd yn Y Tyst ar fater diswyddiad Iorwerth Peate. Awgrymu bod Syr Cyril Fox wedi darnguddio gwybodaeth bwysig a chamarwain Cyngor yr Amgueddfa.

Aneirin Talfan Davies, Y Barri,

Esbonio nad oedd ganddo ef na Llyfrau'r Dryw ran yn y cynllun i ddewis Saunders Lewis fel golygydd newydd Y Llenor. Alun [Talfan Davies] wedi ysgrifennu at Y Cymro ar y mater er mwyn ceisio achub Y Llenor fel cylchgrawn. Apelio ar W. J. Gruffydd i berswadio Hughes a'i Fab i ailafael yn Y Llenor a'i gyhoeddi'n rheolaidd.

'Another Celt', Somewhere in Scotland,

Hoffai petai W. J. Gruffydd a Syr Arnold Gridley yn gwrthwynebu'r Bil Hydro-Electric Albanaidd. Nid yw'r Sais cyffredin yn malio am Ucheldiroedd yr Alban. Mae dros bedair miliwn o aceri ar gyfer ceirw ac adar i'w saethu - cymaint â maint deg o siroedd yr Alban ar gyfartaledd. Mae yna filoedd o bobl heb dir a hoffai weithio mewn amaethyddiaeth. Ni ellir cael digon o dir i bori un buwch arno i gyflenwi digon o laeth. Caiff y plant y darfodedigaeth a'r tir o'u cwmpas yn pydru dan y ceirw. Mae'r Torïaid yn rheoli yn yr Ucheldiroedd. Cyfeiriad at ddeddf 1911 'The Scottish Small Landholders Act' a'r gwaith da a wnaethpwyd ar y cychwyn i greu tiroedd a thyddynnod allan o'r fforestydd ceirw. Dylid gofyn i Ysgrifennydd Gwladol yr Alban paham nad yw'r gwaith hwn yn parhau. Paham na fedrid defnyddio'r 30 miliwn o bunnau i greu cartrefi a thiroedd i'r milwyr sy'n dychwelyd o'r rhyfel. Ni all roi ei enw a'i gyfeiriad oherwydd ei fod yn dal swydd arbennig.

Arianwen Rees, Caerdydd,

Cafodd swydd gyda'r BBC ac y mae'n hapus iawn yno. Aeth yno'n syth wedi gorffen yn y Coleg. Yno dros dro y mae hyd yn hyn ond y mae argoelion am waith parhaol. Roedd prysurdeb y swyddfa yn ddychryn iddi ar y dechrau. Cyn cael swydd barhaol bydd yn rhaid iddi gyflwyno tri geirda i'r awdurdodau ac y mae'n gofyn am un gan W. J. Gruffydd. Mae'n holi os oes modd iddi gael gafael ar gopi o'r Hen Atgofion ar gyfer ffrind. Diolch i W. J. Gruffydd am ei holl garedigrwydd tra y bu ar staff y Coleg.

Arianwen Rees, Llundain,

Diolch i W. J. Gruffydd am ei lythyr a'r geirda. Y mae'n gweithio yn Broadcasting House am fis. Bu'n aros mewn ty sydd gan y BBC yn Grosvenor Square a chysgu ar y llawr isaf - rhyw ddeg ar hugain neu ragor ohonynt. Cawsent noson ddrwg o fomio y nos Wener flaenorol. Diolch am gynnig ei gwaith yn y Coleg yn ôl iddi. Ni all awgrymu neb addas ar gyfer y swydd honno.

Canlyniadau 21 i 40 o 982