Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

[Yr Arglwydd] Davies [Llandinam], Llundain,

(Llythyr at y Barnwr Syr Thomas Artemus Jones). Yngl?n â honiad W. J. Gruffydd fod cyfartaledd uchel o Gatholigion yn y Swyddfa Dramor. Dywedodd Richard Law, Is-Ysgrifennydd Gwladol, wrtho nad oedd yr honiad yn wir ac mai cyfartaledd isel iawn o Gatholigion a weithiai yno.

[Yr Arglwydd] Davies [Llandinam], Llundain,

(Llythyr at y Barnwr Syr Thomas Artemus Jones). Mae awdur y llythyr wedi gweld Mr Edward Hulton ac y mae wedi gadael copi o gyfieithiad y derbynnydd o erthygl W. J. Gruffydd gydag ef. Mae Mr Hulton wedi addo ystyried y gwaith ar gyfer World Review.

Y Parch. R. J. Jones, Caerdydd,

Byddai'n golled enfawr pe byddai W. J. Gruffydd yn rhoi'r gorau i olygyddiaeth Y Llenor. Ardderchog o beth yw cael golygydd sy'n broffwyd yn ogystal. Y mae gan W. J. Gruffydd lu o gyfeillion ar hyd a lled Cymru na wyr ef ddim amdanynt. Cafodd R. J. Jones flas mawr o fod ar Bwyllgor Llên Eisteddfod Caerdydd a chael addysg gyda W. J. Gruffydd yn gadeirydd arno. Prawf arall o boblogrwydd W. J. Gruffydd yw'r gwahoddiad a gafodd i ddod i siarad i Lanfaches ym Mehefin.

Y Cymro (Edwin Williams),

Anfon copi o ddeiseb myfyrwyr diwinyddol Bangor at W. J. Gruffydd (gw. rhif 142 uchod). Cynnig rhyddid colofnau'r Cymro er mwyn i W. J. Gruffydd fedru ateb.

Y Canon Maurice Jones, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan,

Newydd ddychwelyd o'r Cyfandir a chlywed am farwolaeth John Morris-Jones a bod W. J. Gruffydd wedi cael ei wrthod fel Prifathro Coleg Caerdydd. Trychinebau cenedlaethol yn ôl Maurice Jones. Y mae'n dramgwydd anfaddeuol yn y Brifysgol a'r Eglwys i ddyn fod yn Gymro sy'n caru ei wlad a'i iaith. Cafodd yntau ei gosbi am y rheswm hwnnw hefyd. Bydd awgrym W. J. Gruffydd yngl?n â'r Orsedd yn cael ei drafod yn y Pwyllgor Gweinyddol adeg cyhoeddi Eisteddfod Llanelli.

Y Canon Maurice Jones, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan,

Wedi darllen sylwadau W. J. Gruffydd yn Y Llenor yngl?n â'r Orsedd ac wedi ei galonogi o feddwl fod agwedd W. J. Gruffydd ati wedi newid a'i fod yn credu erbyn hyn fod modd gwneud rhywbeth o werth ohoni. Fel un o'r rhai sy'n rheoli'r Orsedd byddai Maurice Jones yn croesawu cyfarfod â'r rhai sy'n feirniadol ohoni.

W[ynn] P. W[heldon], Llundain, S.W.1,

Cafodd lythyr yn enwi aelodau Pwyllgor Gwaith y Cyngor Canol ar Ddarlledu i Ysgolion. Mae'n falch o weld bod W. J. Gruffydd yn dal ar y pwyllgor; ond ef yw'r unig Gymro ar bwyllgor o bedwar ar bymtheg. Mae hyn yn annigonol ac y mae wedi achwyn. Dylid cael dau aelod o Gymry o leiaf.

Wynn P. Wheldon, Llundain, S.W.1,

Derbyniodd lythyr W. J. Gruffydd ac un tebyg oddi wrth [Ben Bowen Thomas], Warden Coleg Harlech. Mae'n anfon copi o'i ateb at Ben Bowen Thomas. Mae'n ddrwg ganddo glywed bod amgylchiadau ariannol [D. J.] Williams yn fain, ond ofer yw disgwyl cydymdeimlad swyddogol. Mae gofyn amdano yn gwneud y drwg yn waeth.

[Wynn P. Wheldon], Llundain S.W.1,

Mae'n ceisio ymryddhau o fod yn Llywydd Cronfa Goffa Morgan Llwyd. Hydera y bydd Syr T. Carey Evans wedi derbyn y gwaith hwnnw cyn bo hir. Cafodd ohebiaeth fywiog gyda J. W. Jones ac y mae'n cynnwys copi o lythyr a ysgrifennodd at Carey Evans. Mae ei fwriadau yn dda ond nid yw yn deall yr hyn sy'n ymhlyg yn y math hwn o beth. Mae ef a J. W. Jones yn teimlo'n flin at Bob Owen am awgrymu rhoi'r ffenestr yn y 'capel Sentars yn y Llan'. Mac ef, Wynn P. Wheldon, yn tueddu cytuno â Bob Owen. Maent i gyd yn rhy ddiamynedd yngl?n â beirniadaeth ac yn methu sylweddoli mai ychydig iawn o arian a gesglir i achos fel hwn.

Wynn P. Wheldon at Syr T. Carey Evans, Llundain,

Diolch iddo am anfon cynllun y ffenestr liw. Mae ganddo ragfarn yn erbyn ffenestri lliw. Mae'r cynllun yn artistig ac yn gymesur. Ni ellir gwrthod sylwadau W. J. Gruffydd yn ysgafn. Mae'r cynllun presennol yn awgrymu bod Morgan Llwyd ar y cyfan yn swyddog milwrol. Nid dyna oedd yn nodweddu'r Annibynwyr cynnar. Mae'n falch mai yn Gymraeg y bwriedir yr arysgrif ac ni ellir gwrthwynebu cyfieithiad Saesneg. Byddai'n well ganddo weld enw T. Carey Evans ar y taflenni fel Llywydd na'i enw ef os nad ydynt eisoes wedi eu hargraffu. Yr arysgrif yw: 'Pregethwr: Proffwyd: Llenor: Gwladgarwr'. Copi teipysgrif.

W[ynn] P. Wheldon at [Ben Bowen Thomas], [Llundain],

Nid oedd yn deall fod disgwyl i'r Bwrdd [Addysg] i draethu barn ar sefyllfa D. J. Williams. O chwilio gwelir bod ateb wedi ei anfon ar Hyd. 8 yn dweud na all y Bwrdd dalu dim nes bod canlyniad yr achos yn hysbys. Nid oedd ganddynt wrthwynebiad i gyflogi rhywun yn lle Mr Williams. Nid yw'n deall i ba ddiben y defnyddir y Gronfa Amddiffyn onid i helpu mewn achos fel hwn. Copi teipysgrif.

W.N. Goss, Caergaint, at Mr Davies, [Caernarfon],

Mae'n diolch am gael gweld ffotograff a thorion papur newydd. Gallai adnabod nifer yn y llun. Gadawodd Gaernarfon ym mis Rhagfyr 1902. Mwynhaodd ddarllen yr areithiau yn enwedig un W. J. Gruffydd. Hoffai weld W. J. Gruffydd yn Weinidog dros Addysg. Mae'n llongyfarch yr ysgol ar Wyl lwyddiannus iawn.

Wmffra Jones, Patagonia,

Diolch iddo am gefnogi achos [Iorwerth] Peate mewn ffordd mor feistrolgar. Mae'r byd yn ddyledus i W. J. Gruffydd a'i fath am sefyll yn erbyn traha a gormes Nazis Prydain Fawr. Amaethwr a gwladwr syml ydyw ond yn derbyn Y Cymro yn gyson. Canmol dynion a fu'n barod i aberthu ar hyd yr oesoedd er mwyn rhyddid, e.e. Martin Luther. Bu Wmffra Jones yn byw am 50 mlynedd yn Argentina Gatholig am fod Luther wedi sefyll dros ryddid. Cam dybryd â [T. E.] Nicholas a'i fab oedd eu hanfon i garchar heb brawf yn y byd.

William Richard Owen, Rhewl, Rhuthun,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwrandawai cwmni bach arno yno o fewn tafliad carreg i'r fynwent lle gorwedd Emrys ap Iwan. Dymuno pob hwyl iddo ddweud y gwir 'wrth Philistiaid o bob math'. Cerdyn post.

William P. Milne, Leeds,

Estyn gwahoddiad, fel Llywydd Cymdeithas Astudiaethau Celtaidd Swydd Efrog, i W. J. Gruffydd eu hannerch ar unrhyw destun Celtaidd. Amlinellu dibenion y gymdeithas a ffurf y cyfarfod. Y flwyddyn cynt Dr Robin Flower o'r Amgueddfa Brydeinig oedd y darlithydd gwadd a chyn hynny, yr Athro Tolkien o Rydychen. Telir ei gostau teithio ar y trên ac estynnir croeso iddo aros yng nghartref William P. Milne a'i wraig. Brodor o swydd Aberdeen yw William P. Milne.

[William Owen], 'Mate Bill', Biwmares,

Ysgrifennu yn dilyn y mwynhad a gafodd o raglen o ddarlleniadau am Gymru yn farddoniaeth a rhyddiaith. Sylweddola mai oherwydd iddo fynychu dosbarth llenyddiaeth W. J. Gruffydd yn y gorffennol yr oedd y cyfan mor gyfarwydd iddo. Yr oedd y dosbarthiadau hynny fel 'agor drws teml gweledigaethau'. Cafodd bleser mawr o ddarllen gwaith W. J. Gruffydd hefyd. Gwyr am bob troedfedd o'r triongl tir yn Llanddeiniolen a ddisgrifiwyd mor fendigedig gan W. J. Gruffydd.

Canlyniadau 1 i 20 o 982