Dangos 950 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

D. Llewelyn Williams, Hen Golwyn,

Ysgrifennu i ddweud iddo fwynhau gwrando ar sgwrs W. J. Gruffydd, 'Beth a ddaeth o Lanfaches?' ar y radio y prynhawn cynt. Trafodwyd y pwnc mewn modd gonest ac amhleidiol. Canlyniad ei sgwrs fydd dwyn y pedwar enwad yn nes at ei gilydd. Gellir uno am fod yr enwadau yn cychwyn o'r un man. Mae'r clawdd terfyn rhwng yr enwadau wedi diflannu. Mae'n pwyso ar W. J. Gruffydd i gymryd ei le fel arweinydd yng Nghymru. Nid yw arweinwyr y Blaid Genedlaethol yn apelio at Ymneilltuwyr.

D. Llewelyn Williams, Hen Golwyn,

Adrodd hanes bredddwyd gas. Meddyliai am arweinwyr Cymru ac yna ymddangosodd offeiriad Catholig o'i flaen. Dywedodd wrtho fod arweinydd y Cymry yn Gatholig. Atebodd mai W. J. Gruffydd a gyfrifid yn fwyaf ym mywyd Cymru a'i fod yn Annibynnwr o'r Annibynwyr. Atebodd yr offeiriad mai Catholig oedd W. J. Gruffydd a'i fod yn gwneud Catholig ardderchog. Cafodd fraw a deffro'n chwys a deall mai breuddwyd oedd. Mae'r Catholigion yn rhy gryf yng Nghymru eisoes. Trueni na allai W. J. Gruffydd arwain Ymneilltuaeth yng Nghymru, dyna'r gallu cryfaf yng Nghymru o hyd. Nid oes na 'Hiraethog' na Thomas Gee i arwain Cymru.

D. Llewelyn Williams, Hen Golwyn,

Hydera y bydd W. J. Gruffydd yn rhoi amlygrwydd i'w syniadau ar Anghydffurfiaeth yn Y Llenor. Mae'n gallu cofio'r cyfnod pan nad oedd dim ond y pulpud i'w gael i wyr ag addysg a oedd heb y modd i ymuno â'r galwedigaethau proffesiynol. Gwleidyddion politicaidd yn hytrach na phregethwyr oedd rhai fel Thomas Gee, 'Hiraethog' a M[ichael] D. Jones. Pan ddarfu am gyfnod y gwleidydd-bregethwr, cymerwyd eu lle gan ddynion fel Lloyd George, S. T. Evans, Ellis Griffith a Tom Ellis. Ofnau cyffredinol am ddyfodol Cymru a achosodd ei freuddwyd. Bu'r Blaid Genedlaethol o dan arweiniad [J. E.] Daniel a Saunders Lewis yn siom fawr. Cred fod yr Hen Gorff wedi ei drefnu'n ormodol. Y mae'r cyrff anghydffurfiol, er hynny, heb arweinydd. Nid yw'r Wasg yn arwain fel y gwnaeth yn amser Thomas Gee. Fe werthfawrogir nodiadau W. J. Gruffydd yn Y Llenor yn fawr iawn gan lawer.

D. Morgan Lewis, Aberystwyth,

Atgofion am John Morris-Jones ym Mangor. Buwyd yn astudio fersiwn Gwenogvryn Evans o'r Llyfr Coch. Cafodd ei eni yn agos i gartref George Owen, Henllys. Mae'n dadlau dros estyn cefnogaeth i nodweddion Cymraeg emynwyr y ddeunawfed ganrif. Dibrisir y Gymraeg hon oherwydd ei gwendidau gan golli golwg ar ei rhagoriaethau. Mynd ymlaen i drafod mydryddiaeth emynau Williams. Un o broblemau addysg gyfoes yw sut y mae athrawon i ddiogelu elfennau gorau addysg yr aelwyd a'r capel mewn cytgord bywydol a'r addysg fwy newydd a dieithr.

D. O. Roberts, Aberdâr,

Mae'n gwerthfawrogi'r anogaeth a roddodd W. J. Gruffydd drwy gyfrwng ei nodiadau golygyddol yn Y Llenor. Cyfeiriodd at sylwadau W. J. Gruffydd yn ei adroddiad blynyddol i'r Undeb Athrawon Cymreig. Yr oedd arwyddion cryf o ymddeffro ac o ymwybod cenedlaethol yno. Cyhudda'r Western Mail o wneud cyhuddiadau annheg yn erbyn W. J. Gruffydd bob tro y bydd yn siarad ar lwyfan. Mae'n ei annog i beidio â rhoi'r gorau i'r Llenor.

D. Owen Evans, Maidenhead,

Mae wedi bodloni cael ei enwebu fel Trysorydd yr Amgueddfa Genedlaethol fel olynydd i Reardon Smith. Mae ganddo gefnogaeth nifer ar y Cyngor gan gynnwys yr Arglwydd Plymouth. Nid yw'n awyddus i dderbyn mwy o gyfrifoldebau, ond y mae am weld cryfhau'r elfen Gymreig ar y Cyngor. Hydera y gall W. J. Gruffydd fynd i Aberteifi. Bydd D. Owen Evans yn brysur yn croesawu Ll[oyd] G[eorge] yn Rhydycolomennod. Hydera y bydd Ll[oyd] G[eorge] yn gadael brynhawn Iau i ddychwelyd i Gricieth. Mae Cyngor yr Amgueddfa yn awyddus iawn i roi terfyn ar achos [Iorwerth] Peate, sy'n awgrymu bod yr aelodau yn barod i gynnig ei swydd yn ôl yn llawn iddo.

D. Owen Evans, Maidenhead, at Iorwerth C. Peate,

Yr oedd yn dymuno gweld Iorwerth C. Peate yn cael ei swydd yn ôl yn yr Amgueddfa am ddau reswm: 1) am iddo gael ei drin yn annheg a 2) byddai ei ymadawiad yn golled fawr i'r Amgueddfa. Llwyddwyd i gael digon o aelodau o'r Cyngor i gefnogi'r cais. Llwyddwyd i gael y Cyngor i aildrafod y mater. Y mae'n weddol hyderus y gwelir Iorwerth C. Peate yn ôl yn ei swydd cyn hir. Rhaid newid cyfansoddiad y Cyngor i osgoi digwyddiad tebyg yn y dyfodol ond gall hynny brofi'n fenter tymor hir. Copi teipysgrif.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Mae'n anfon copi o apêl gan y Prifathro J. Morgan Jones ar ran Cynhadledd er Diogelu Diwylliant Cymru gyda'r un post. Disgwylir i'r swyddogion ei harwyddo a'i hanfon ymlaen at bawb y tybir y bydd iddynt gyfrannu.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Mae'n ddrwg ganddo ddeall bod W. J. Gruffydd yn teimlo'n sâl. Gresyn ganddo hefyd yw methiant W. J. Gruffydd i gytuno â'i gydfeirniaid. Y mae D. R. Hughes yn awgrymu nodyn i'w argraffu yn y Cyfansoddiadau gan na allodd W. J. Gruffydd, oherwydd gwaeledd, lunio beirniadaeth.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Mae'n ysgrifennu i ddiolch i W. J. Gruffydd am ei ran yn trefnu i D. R. Hughes dderbyn gradd anrhydeddus gan Brifysgol Cymru. Cafodd wybod mai W. J. Gruffydd a fydd yn ei gyflwyno yn y seremoni. Mae'n diolch am bob amlygiad o garedigrwydd W. J. Gruffydd tuag ato ar hyd y blynyddoedd. Mae'n rhyfeddu mwy at fawrfrydigrwydd W. J. Gruffydd gan ei fod yn deall fod D. R. Hughes yn perthyn i 'wersyll arall' yn yr etholiad.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Ymddiheuro am y sgwrs radio yngl?n â'r Coroni. Nid oedd yn bwriadu tramgwyddo W. J. Gruffydd. Rhaid cynnwys y nodyn yn y Cyfansoddiadau ac awgrymir argraffu beirniadaeth W. J. Gruffydd yn Y Cymro a'r Faner ar ôl y Coroni gyda chyfle i'r ddau feirniad arall i ateb yn yr un rhifyn.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Derbyniodd feirniadaeth W. J. Gruffydd. Mae'n amgau copi o lythyr Gorff. 16 (gw. 361 uchod) i brofi iddo gydnabod hynny eisoes. Mae hefyd yn amgau copi o'r feirniadaeth rhag ofn na chadwyd un ganddo.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Anfonodd gopi o feirniadaeth W. J. Gruffydd i'r Cymro, Y Faner ac i Cynan a Prosser Rhys yn wyneb y paragraff personol a gynhwysai. Bydd datganiad byr ganddynt hwythau. Cafwyd Eisteddfod hapus iawn. Cafwyd hwyl yn y Gymanfa Ganu. Yr oedd Bethania (B.) yn llawn fore Sadwrn, Bethania a Chapel Mair yn llawn yn y prynhawn a Bethania, Capel Mair a'r Tabernacl yn llawn yn yr hwyr. Casglwyd £57. 10s. at 'Cofion Cymru'. Y mae'n llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei ethol yn aelod o Gyngor yr Amgueddfa.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Cydnabod swm o £2. 12s. Y mae'r 'Cofion' yn boblogaidd iawn. Bu'n rhaid argraffu 11,000. Fe'u dosberthir drwy'r eglwysi. Y mae'n amlinellu erthygl, 'Y Tri Hen Bererin', y bwriada ei llunio ar gyfer Y Llenor.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Y mae wedi derbyn beirniadaethau Cynan ac [E.] Prosser Rhys ar gyfer y Goron. Fe'u hanfonodd at yr argraffwyr gan fod y ddau yn dyfarnu'r Goron i'r un cystadleuydd. Gofid i bawb fydd deall nad yw'r prif feirniad [W. J. Gruffydd] yn cytuno â hwy. Hydera y caiff feirniadaeth o law W. J. Gruffydd i'w chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau. Mae'n holi a yw W. J. Gruffydd yn golygu bod yn yr Eisteddfod ddydd y Coroni.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Ni chafodd ateb i'w lythyr blaenorol. Hydera fod W. J. Gruffydd yn well erbyn hyn. Mae'n amgau proflen o'r beirniadaethau a'r nodyn. A yw W. J. Gruffydd yn bwriadu dod i Aberteifi i draddodi'r feirniadaeth? Mae cludo pobl y Gogledd o Aberystwyth i Aberteifi yn dal yn broblem. Fe ataliwyd gwerthiant rhaglen yr Eisteddfod yn Aberteifi gan yr heddgeidwaid am fod map o'r dre ynddo!.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd ac am gael gweld ei lythyr at Cynan. Mae'n sôn am drafodaeth ar ran o Gyfansoddiad yr Eisteddfod a fu'n achos colli tymer sef yr hyn a elwid yn 'Bond yr Orsedd'. Mae'n ymddiheuro am unrhyw ddiffyg a fu yn ystod y trafodaethau i ddeall ei gilydd.

Canlyniadau 121 i 140 o 950