Showing 950 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd File
Print preview View:

Thomas Artemus Jones, Llanrwst,

Amgau cyfraniad i'r Llenor gan ddweud ei fod yn darllen y cyfnodolyn yn gyson. [T. Artemus Jones, 'Deddf Harri VIII yng ngolau'r Gwreiddiol', Y Llenor, cyfrol XV (1936), tt. 232-7]. Cafodd sgwrs ag W. J. Gruffydd yng nghwmni Ellis Gruffudd yn smoke-room y National Liberal Club flynyddoedd yn ôl.

J. A. Lawton, Shawbury,

Ysgrifennu yngl?n â'r Bil Addysg. Mae'n trafod addysg o fewn y lluoedd arfog. Gwastraff amser oedd y 'General Education Scheme' - ychydig iawn a ddymunai fynychu dosbarthiadau nos. Dangos sut y methwyd â gwerthfawrogi athrawon gwyddoniaeth a'i llafur caled yn y gwaith o baratoi awyrenwyr. Mae wedi clywed eu bod am gael eu cadw ymlaen er bod y rhyfel yn dod i ben a mawr angen amdanynt yn y gymdeithas. Rhestrir nifer o enghreifftiau o wyr â graddau a gamddefnyddiwyd yn y lluoedd arfog.

Henry Lewis, Abertawe,

Anfon adysgrif o gerdd 'Iesu, nâd gamwaith ...' a ysgrifennwyd gan gyfaill o feddyg tra'n gwasanaethu yn yr R.A.M.C. yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Saunders Lewis, Abertawe,

Anfonodd siec W. J. Gruffydd at J. E. Jones i Swyddfa'r Blaid, Caernarfon. Mae newydd orffen rhyw fath o awdl ymddiddan tua 150 llinell o hyd. Gofyn os hoffai ei gweld i farnu os yw hi'n gymwys i'r Llenor. ['Mair Fadlen', Y Llenor, cyf. XIV (1935), tt. 73-8].

Saunders Lewis, Llanfarian,

Y mae wedi darllen y dramâu i gyd ddwywaith ac y mae'n bendant mai drama 'Arawn' sy'n haeddu'r wobr yn llawn. Hoffai dderbyn gair er mwyn iddo fedru ysgrifennu ei feirniadaeth.

Saunders Lewis, Llanfarian,

Ni wyddai ddim am y trefniant yngl?n â'r ddrama yn Ninbych. Fe'i syfrdanwyd gan haelfrydigrwydd W. J. Gruffydd. Mae'n diolch am y cynnig ac yn ei dderbyn.

Roger [S.] Loomis, Efrog Newydd,

Mae'r campws yn gwacáu oherwydd effeithiau'r Rhyfel. Mae ef a'i wraig ar wyliau ym Maine. Cafodd lwyddiant mawr gyda'i ymchwiliadau i'r Pedair Cainc. Sôn am gyfystyron neu adlewyrchiadau o Brân mewn chwedlau a thraddodiadau eraill. Mae'n mynd ymlaen i drafod stori Pwyll, Arawn a Hafgan. Mae'n cyfeirio at yr elfen o ymrysonau wrth y rhyd sy'n gyffredin i lawer testun Arthuraidd. Mae'n awgrymu mai chwedl dymhorol, un sy'n ymwneud â chylch y flwyddyn sydd yma, Arawn yn cynrychioli'r gaeaf a Hafgan yr haf. Gofyn cwestiynau am Pen Llwyn Diarwya, 'erchlas' a Breuddwyd Rhonabwy.

Roger [S.] Loomis, Paris,

Ei noson olaf yn Ewrop am rai blynyddoedd. Mae blwyddyn brysur yn ei wynebu yn Efrog Newydd. Rhaid cael Halma yn barod ar gyfer y Wasg. Gwasg Clarendon sydd yn debygol o ymgymryd â'r gwaith. Mae'n reit fodlon ar y penodau Cymreig - er fe hoffai petai W. J. Gruffydd yn hytrach nag [Idris] Foster yn ymgymryd â Chulhwch a Breuddwyd Rhonabwy. Hanes Cyngres Rennes. Rhai papurau 'gwyllt' yno, nodir syniadau yr Athro Carney o Ddulyn a'r Athro Draak o Amsterdam. Mae'n bwriadu dod i'r Gyngres nesaf ym Mangor os bydd amgylchiadau yn caniatáu iddo.

T. Harold Morgan, Llanisien,

Ysgrifennu at W. J. Gruffydd ar ran Cynghrair Cymreig y Prifathrawon i ddiolch iddo am ei waith da dros addysg Gymreig yn ystod y dadleuon yngl?n â'r Bil Addysg yn y Senedd. Ysgrifenna ar ran 550 o brifathrawon Cymru.

T. J. Morgan, Radur,

Mae eisiau barn W. J. Gruffydd ar ba swydd i'w dewis erbyn diwedd y rhyfel. Pe bai'n dod yn ôl i'r Coleg byddai'n derbyn £200 yn llai na'i swydd yn y Weinyddiaeth Lafur. Nid yw'n gweld bod cadair prifysgol i ddod i'w ran am gyfnod hir. Hoffai gael swydd yn ymwneud â Chymru a'r Gymraeg. Bu'n ystyried swydd fel Cofrestrydd un o'r colegau. Mae'n hoffi gwaith gweinyddol erbyn hyn. Bu'n ystyried cynnig am swydd gyda'r Bwrdd Addysg hefyd. Gwahodd W. J. Gruffydd draw i drafod y mater gan ychwanegu bod yno gnwd ardderchog o wynwyn, cennin a ffa Ffrengig yn ei ddisgwyl.

Gilbert Norwood, Toronto,

Mae'n ysgrifennu gan ei bod yn rhy boeth i weithio. Mae'n edrych ymlaen i weld W. J. Gruffydd eto. Bydd yn y Barry Hotel erbyn canol Mehefin. Yr oedd yn wrthun ganddo glywed bod Saunders Lewis wedi colli ei swydd. Sôn am lwyddiant P. M. Jones yng Nghaergrawnt. Holi am Llewelyn a Richardson.

Gilbert Norwood, Toronto,

Cafodd bleser mawr o dderbyn llythyr W. J. Gruffydd. Y mae arno gywilydd o fod yn Sais ar ôl yr hyn a wnaeth [Neville] Chamberlain. Y mae'n dechrau teimlo diflastod o gymryd dosbarthiadau. Mae'n dod ymlaen yn dda gyda'r rhagymadrodd i waith Pindar.

Gilbert Norwood, Lake Louise (ar fwrdd y Duchess of Athol),

Pan gyhoeddwyd bod rhyfel yr oedd yn Blois ac yn lle dal yr Empress of Britain yn Cherbourg fe hwyliodd o Lerpwl ar y Duchess of Athol. Ceisiodd swyddog y tollau yn Ffrainc gymryd ei lythyr credyd Canadaidd oddi arno. Disgrifiad o sut yr hebryngwyd y llong allan gan longau rhyfel. Gofyn am fanylion yngl?n â chyfyngiadau amser rhyfel.

J. B. Oldham, Amwythig,

Mae'n ateb ymholiad W. J. Gruffydd yngl?n â chysylltiad Ellis Wynne yn Ysgol Amwythig. Collwyd y gyfrol berthnasol o'r gofrestr yn ystod y ddeunawfed ganrif. Mae cyfeiriadau eraill at Ellis Wynniaid eraill yn 1579 a 1626. Aeth nifer o fechgyn yr ysgol ymlaen i Goleg Ieuan Sant, Caergrawnt, ond nid oes sôn amdano yn y cofrestri mynediad yno ysywaeth.

Ben Owen, Llanberis,

[R.] Bryn Williams, y Capel Coch, Llanberis, yw awdur Y Ddarlith Olaf ar J. Morris Jones. Nid anghofir safiad gwrol W. J. Gruffydd adeg helynt Llyn. Braf yw cael teimlo os dwy farn, un galon. Cerdyn post.

Bob Owen, Croesor,

Yn y Cefnfaes, Blaenau Ffestiniog, y ganed Rowland Walter, 'Ionoron Glan Dwyryd' yn 1819. Cafwyd hyd i'r wybodaeth yn Y Drych (15 Medi 1905). Bu farw yn 64 oed yn Hydeville, Vermont, ym Mawrth 1884. Deheuwr oedd ei dad, Walter Davies a'i fam yn frodor o Lanuwchllyn. Bu'n lled aflwyddiannus fel cystadleuydd eisteddfodol. Onid yw Cerddi Dr T. H. Parry-Williams yn odidog?.

Bob Owen, Croesor,

Hanes llosgi llawysgrifau a llyfrau Ellis Wynne yn Erw Fair, Beddgelert, yn ôl yr hyn a ddywedodd 'Carneddog'. Arbedwyd ambell eitem yn llaw William Wynne a'u trosglwyddo i'r Llyfrgell Genedlaethol. Hanes Beibl Mawr Ellis Wynne a fu ym meddiant teulu ym Mhren-teg. Hanes bwrdd a fu'n eiddo i Ellis Wynne, 1699, mewn arwerthiant ger Pwllheli. Manion am rai sy'n honni eu bod yn ddisgynyddion i Ellis Wynne.

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Anfon cyfraniad i'r Llenor ['A. E. Houseman', Y Llenor, cyf. XV (1936), tt. 69-70], sydd i ymddangos yn ddienw oherwydd iddo ddweud wrth y Prifathro Emrys Evans na phrydyddai mwyach am nad yw prydyddu'n talu i ddarlithydd. Mae'n edrych ymlaen at nodiadau'r golygydd yn Y Llenor nesaf.

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Wrth ddyfalu beth a allai ei wneud dros Saunders Lewis cofiodd am sgwrs a ddarlledodd ryw dair blynedd ynghynt. Holi a fyddai W. J. Gruffydd yn barod i'w chyhoeddi yn Y Llenor. Mae'n wir iddi fod yn Y Faner ond yr oedd yn llawn gwallau a diflannodd ambell frawddeg yn llwyr. Ymddengys bod y llythyr protest wedi mynd i'r gwellt. Gresyn na buasai Ifor [Williams] yn aeddfed i'w lofnodi. Nid yw ei iechyd yn dda. Mae R. Williams Parry yn arswydo rhag ei farw. Oni ellid darbwyllo G[riffi]th John [Williams] i geisio am ei le. Gofyn i W. J. Gruffydd drosglwyddo llongyfarchiadau i Iorwerth Peate pan fydd yn ei weld ef.

Results 81 to 100 of 950