Showing 950 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd File
Print preview View:

Percy Hughes, Llundain, NW10,

Mae'n ysgrifennu i ddiolch am Hen Atgofion. Bob tro y bu W. J. Gruffydd yn beirniadu ei waith cafodd ei chwipio ganddo nes iddo ei lysenwi yn 'Himmler y Bwrdd Beirniaid'. Wedi darllen y llyfr fe wêl nad yw W. J. Gruffydd yn ddyn cas yn y bôn neu ni fuasai wedi ysgrifennu mor wych am ei fam. Atgofion am ardal Talwrn, Môn.

Douglas Hyde, Dulyn,

Mae Senedd Prifysgol Genedlaethol Iwerddon yn penodi llefarydd i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Brenhinol ar y Gwasanaeth Sifil. Un o'r pwyntiau a godir fydd lle'r Wyddeleg yn y gyfundrefn. Mae'n hyderu y gwneir yr un peth dros y Gymraeg yng Nghymru. Os na lwyddir i hawlio priod le i'r ieithoedd Celtaidd yn awr fe gollir y cyfle am byth.

D. Emrys James, ['Dewi Emrys'], Llundain,

Gofynnwyd iddo ysgrifennu erthygl ar feirdd cyfoes Cymru ar gyfer John O'London's Weekly. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd anfon cerdd o'i ddewis ato yn Saesneg a'i sylwadau ar farddoniaeth gyfoes yng Nghymru. Cyhoeddir yr erthygl adeg Eisteddfod [Genedlaethol] Caergybi. Cafodd swydd sy'n talu'n dda yn Fleet Street. Cyhoeddwyd cerdd a stori Saesneg o'i eiddo a chafodd dâl amdanynt. Gwendid Cymru yw'r duedd i gymysgu celfyddyd a moesoldeb. Mae gweinidogion a blaenoriaid anghydffurfiol Cymru yn elynion celfyddyd. Hyn sydd i gyfrif na chafwyd bardd mawr o Gymro ers dyddiau Dafydd ap Gwilym. Bydd ganddo bethau brathog i'w dweud am elynion celfyddyd yng Nghymru yn Tit-Bits ymhen wythnos. Mae ganddo gyfrol o farddoniaeth Saesneg yn nwylo cyhoeddwr.

Dafydd Jenkins, ['y Gyfraith'], Caerfyrddin,

Mae'n anfon stori fer at W. J. Gruffydd. Dealla fod Y Llenor yn talu am ysgrifau. Hoffai wybod ai gwir hyn gan na chafodd ei dalu am ei gyfraniad 'Traddodiad Eglwys Caergaint' [Y Llenor XIV (1935), tt. 140-51].

R. T. Jenkins, Bangor,

Mae'n gofyn am broflen ar gyfer cyfraniad sydd ganddo i'r Llenor. Mae'n anfon gwahanlith o ysgrif o'i waith a ymddangosodd yn y Sociological Review, a chopi o'r Goleuad am ei fod yn crybwyll W. J. Gruffydd yno.

R. T. Jenkins, Bangor,

Trefnu dychwelyd llawysgrif i W. J. Gruffydd pan ddaw i Gaerdydd dros y Sul sy'n dilyn. [? llawysgrif cofiant O. M. Edwards]. Awgrymiadau ar sut i wella'r gwaith. Nid oes ganddo ddim ar gyfer Y Llenor, y mae'r BBC yn llyncu ei holl amser.

R.T. Jenkins, Bangor,

Drwg ganddo glywed bod W. J. Gruffydd o'r farn na ellid cynnal Eisteddfod Genedlaethol yn Aberpennar yn 1940 oherwydd y Rhyfel. O'r 25 ar y Pwyllgor Gwaith a bleidleisiodd, y mae 22 dros gynnal yr eisteddfod a thri yn erbyn. Mae'n gofyn iddo ailystyried ei bleidlais. Gellir ystyried llogi'r pafiliwn fel buddsoddiad. Y mae cyfleusterau teithio wedi gwella - y Gwr wedi ychwanegu at y trenau rhwng Llundain a Chaerfyrddin. Mae angen dysgu gwers i bwyllgor lleol Pen-y-bont.

R. T. Jenkins, Bangor,

Rhydd hanes Pwyllgor Brys yr Eisteddfod a gyfarfu yng Nghaer y dydd Gwener blaenorol. Clywodd fod Ceridwen, chwaer W. J. Gruffydd, wedi ei hanafu pan fomiwyd y Rhos. Holi am argraffwyr Y Llenor gan i'r proflenni ddod o Landysul yn hytrach nag oddi wrth Hughes a'i Fab. Syfrdanwyd y Pwyllgor Brys o glywed fod [?T. I.] Ellis wedi cael cynnig swydd yn ddarlithydd yn y Clasuron yn Llanbedr. Teimlai rhai y dylai Ellis weithio heb dâl fel Ifan [ab Owen Edwards] gyda'r Urdd. Dadleuai Saunders [Lewis] a Moses Gruffydd y dylid ei dalu fel y telid J. E. Jones gan y Blaid. Y mae felly yn neilltuol bwysig i W. J. Gruffydd fod yn y pwyllgor nesaf.

R. T. J[enkins], Bangor,

Mae'n anfon copi o lythyr od a dderbyniodd. Hola paham y bu i W. J. Gruffydd hepgor gwaith Ann Griffiths o'i Flodeugerdd. Cafodd flas arbennig ar ddetholion o 'Storm' 'Islwyn'. Mae wedi pwyso ar yr Eisteddfod i gynnig gwobr am drefnu detholion o'r 'Storm'. Mae newydd ddarllen A Buried Life gan Percy Withers am A. E. Housman ac yn dyfynnu tamaid.

R. T. [Jenkins], Bangor,

Mae'n falch o glywed bod W. J. Gruffydd lawer yn well. Hanes y tro trwstan pan fu R. T. Jenkins yn chwilio am W. J. Gruffydd yn Chertsey ac yn chwilio'n ofer. Trafod y posibilrwydd o roi ymreolaeth i [Iorwerth] Peate yn Sain Ffagan. Hanes y pwyllgor lle trafodwyd y mater. Mae Myfanwy yn hapus iawn ar staff Ysgol Glanadda. Glyn Roberts fydd olynydd R. T. Jenkins ym Mangor.

File titled 'A short history of Welsh literature', containing an incomplete autograph draft (54 ff.), and the completed article in ....

File titled 'A short history of Welsh literature', containing an incomplete autograph draft (54 ff.), and the completed article in typescript (61 ff.) with a carbon copy of ff. 1-4. [This article was part published in Encyclopaedia Britannica, vol. 10]. Also included are seven Englynion transcribed from the Black Book of Carmarthen, pp. 99. 11-100.8, in autograph (2 ff.).

Results 861 to 880 of 950