Showing 950 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd File
Print preview View:

D. Owen Evans, Maidenhead,

Mae wedi bodloni cael ei enwebu fel Trysorydd yr Amgueddfa Genedlaethol fel olynydd i Reardon Smith. Mae ganddo gefnogaeth nifer ar y Cyngor gan gynnwys yr Arglwydd Plymouth. Nid yw'n awyddus i dderbyn mwy o gyfrifoldebau, ond y mae am weld cryfhau'r elfen Gymreig ar y Cyngor. Hydera y gall W. J. Gruffydd fynd i Aberteifi. Bydd D. Owen Evans yn brysur yn croesawu Ll[oyd] G[eorge] yn Rhydycolomennod. Hydera y bydd Ll[oyd] G[eorge] yn gadael brynhawn Iau i ddychwelyd i Gricieth. Mae Cyngor yr Amgueddfa yn awyddus iawn i roi terfyn ar achos [Iorwerth] Peate, sy'n awgrymu bod yr aelodau yn barod i gynnig ei swydd yn ôl yn llawn iddo.

W. Glynne, Durham,

Mae'n deall bod W. J. Gruffydd yn gweithio ar argraffiad newydd o'r Testament Cymraeg. Y mae ef wedi bod yn gweithio ar yr Efengylau ers 30 mlynedd. Mae'n cynnig ei waith at ddefnydd W. J. Gruffydd a'r pwyllgor. Mae'n rhoi crynodeb o'i hanes.

J. Griffith, Nant Gwynant,

Mae'n ysgrifennu i fynegi ei siom na phenodwyd W. J. Gruffydd yn brifathro Coleg Caerdydd ac yn diolch am yr hyn a wnaethpwyd eisoes ganddo.

Leslie Harries, Llandysul,

Danfonodd bryddest i'r Eisteddfod Genedlaethol yn dwyn y ffugenw 'Ap Morgan'. Dywedodd Cynan ac E. Prosser Rhys ei bod ymhlith naw a oedd 'heb fod yn deilwng o Eisteddfod leol'. Er hynny dywedwyd mai honno a ystyriai W. J. Gruffydd yr orau. Gan na chyhoeddwyd beirniadaeth W. J. Gruffydd yn y Cyfansoddiadau a chan ei fod yn rhy wael i draethu yn y brifwyl y mae Leslie Harries yn gofyn i W. J. Gruffydd i gyhoeddi ei feirniadaeth yn y papurau.

W. H. Harris, Llanbedr Pont Steffan,

Cafodd flas ar wrando araith W. J. Gruffydd yn yr Eisteddfod ar y prynhawn Iau. Yr oedd pob gair yn wirionedd. Y mae penodiad Llanbedr yn 'enghraifft ysgeler' o'r sefyllfa. Roedd yn flin ganddo ddarllen beirniadaeth golygydd y Western Mail ar yr araith. Gwnaethpwyd y penodiad yn Llanbedr yn nannedd dymuniadau Cymru gyfan a chorff cyffredinol yr Eglwys. 'Yr oedd tri Sais a bradwr neu ddau o Gymro yn ddigon i herio Cymru gyfan'.

T. C. Hart, (Federal Union), Caerdydd,

Mae'n falch o glywed bod W. J. Gruffydd yn cydymdeimlo ag amcanion y mudiad Federal Union. Mae'n hyderu y bydd W. J. Gruffydd yn fodlon cydweithredu â'r mudiad fel y gellir dod o hyd i ffyrdd gwell o gynnal cysylltiadau rhyngwladol.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am gopi o adroddiad Hansard ar ei araith yngl?n â'r Ddeddf Addysg. Mae'n hyderu y caiff y bobl iawn eu penodi i'r Cyngor Ymgynghorol Cymreig. Mae'n ymosod ar gefnogaeth W. J. Gruffydd i ymgais y Catholoigion i gael cefnogaeth y trethdalwyr i'w hysgolion. Nid oes achos gan W. J. Gruffydd i ofni'r Catholigion gan nad oes llawer ohonynt yn etholwyr posibl iddo.

A. E. W. Hazel, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

Mae'n cytuno bod angen help ariannol ar ysgolion arbrofol ond byddai'r gwelliant dan sylw yn gwneud dim llai na thalu am addysg 'uchel-enwadol'. Mae cynllun W. J. Gruffydd i gael arian i'r ysgolion arbrofol cystal â llosgi ty er mwyn rhostio mochyn. Mae'n rhyfeddu bod W. J. Gruffydd wedi cael ei ddal yn y fagl Gatholig hon.

I. D. Hooson, Rhos, Wrecsam,

Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am ysgrifennu erthygl yn dwyn y teitl 'Mae'r Gwylliaid ar y Ffordd' [Y Llenor, cyf . XIX (1940), tt. 112-26]. Mae'n credu bod arweinyddion Plaid [Cymru] yn cyfeiliorni drwy adael i'w rhagfarn yn erbyn Lloegr gymylu eu barn am y rhyfel. Y mae'r ymosodiadau cyson hyn yn niweidiol i achos Cymru. Y mae'n amgau cân i'r Llenor.

C. S. Hughes, Llanbradach,

Mae'n apelio at W. J. Gruffydd ar ran ei fab W. J. G. Hughes a fethodd yr arholiad Cymraeg yn arholiad ymaelodi'r brifysgol. Bachgen di-Gymraeg ydyw ac felly dan anfantais. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd i ailystyried y canlyniad fel y gall y mab ddilyn cwrs mewn meddygaeth os caiff ei arbed yn y rhyfel.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Mae'n cyd-fynd â sylwadau golygyddol W. J. Gruffydd yn rhifyn yr Haf o'r Llenor [cyf. XIV (1935), tt. 65-7]. Nid yw, fodd bynnag, yn deall yr ensyniad cas yngl?n â swydd Ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod sef fod yn rhaid iddo fod yn Gymro Llundain er mwyn medru tynnu 'rhaffau'r addewidion' a derbyn teitlau. Y mae D. R. Hughes yn mynnu ei fod ef ymhell o fod yn y categori hwn, cymaint felly nes y byddai 'Finsent' yn troi yn ei fedd. Yr oedd yn amharod iawn i ymgymryd â'r swydd.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Y mae wedi derbyn beirniadaethau Cynan ac [E.] Prosser Rhys ar gyfer y Goron. Fe'u hanfonodd at yr argraffwyr gan fod y ddau yn dyfarnu'r Goron i'r un cystadleuydd. Gofid i bawb fydd deall nad yw'r prif feirniad [W. J. Gruffydd] yn cytuno â hwy. Hydera y caiff feirniadaeth o law W. J. Gruffydd i'w chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau. Mae'n holi a yw W. J. Gruffydd yn golygu bod yn yr Eisteddfod ddydd y Coroni.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Ni chafodd ateb i'w lythyr blaenorol. Hydera fod W. J. Gruffydd yn well erbyn hyn. Mae'n amgau proflen o'r beirniadaethau a'r nodyn. A yw W. J. Gruffydd yn bwriadu dod i Aberteifi i draddodi'r feirniadaeth? Mae cludo pobl y Gogledd o Aberystwyth i Aberteifi yn dal yn broblem. Fe ataliwyd gwerthiant rhaglen yr Eisteddfod yn Aberteifi gan yr heddgeidwaid am fod map o'r dre ynddo!.

Griff. [W. Hughes], Blaenau Ffestiniog,

Mae'n ysgrifennu at W. J. Gruffydd er mwyn datgelu mai ef a anfonodd barsel o siwgwr, menyn Cymreig a thorth o fara gwyn ato'n ddi-enw. Bwriadai i'r weithred fod yn un ddirgel ond rhag ofn y byddai W. J. Gruffydd yn drwgdybio'r parsel mae'n ysgrifennu ato yn awr. Fe'u bwriedir i gynorthwyo W. J. Gruffydd i wella wedi salwch. Mae'n amgau papur ar athroniaeth crefydd gan ofyn i W. J. Gruffydd roi ei farn arno. Hydera fod Dafydd [mab W. J. Gruffydd] yn iawn, nid oes newyddion am Robert mab Griff W. Hughes. Y maent yn bryderus iawn yn ei gylch.

H. Harold Hughes, Bangor,

Anfonodd Iorwerth Peate ddyfyniad o'r Llenor yngl?n â chofiant O. M. Edwards. Y mae'n amgau copi o'i ateb iddo (375 uchod). Teipysgrif.

Results 841 to 860 of 950