Dangos 950 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Ni chafodd ateb i'w lythyr blaenorol. Hydera fod W. J. Gruffydd yn well erbyn hyn. Mae'n amgau proflen o'r beirniadaethau a'r nodyn. A yw W. J. Gruffydd yn bwriadu dod i Aberteifi i draddodi'r feirniadaeth? Mae cludo pobl y Gogledd o Aberystwyth i Aberteifi yn dal yn broblem. Fe ataliwyd gwerthiant rhaglen yr Eisteddfod yn Aberteifi gan yr heddgeidwaid am fod map o'r dre ynddo!.

D. Owen Evans, Maidenhead, at Iorwerth C. Peate,

Yr oedd yn dymuno gweld Iorwerth C. Peate yn cael ei swydd yn ôl yn yr Amgueddfa am ddau reswm: 1) am iddo gael ei drin yn annheg a 2) byddai ei ymadawiad yn golled fawr i'r Amgueddfa. Llwyddwyd i gael digon o aelodau o'r Cyngor i gefnogi'r cais. Llwyddwyd i gael y Cyngor i aildrafod y mater. Y mae'n weddol hyderus y gwelir Iorwerth C. Peate yn ôl yn ei swydd cyn hir. Rhaid newid cyfansoddiad y Cyngor i osgoi digwyddiad tebyg yn y dyfodol ond gall hynny brofi'n fenter tymor hir. Copi teipysgrif.

D. Owen Evans, Maidenhead,

Mae wedi bodloni cael ei enwebu fel Trysorydd yr Amgueddfa Genedlaethol fel olynydd i Reardon Smith. Mae ganddo gefnogaeth nifer ar y Cyngor gan gynnwys yr Arglwydd Plymouth. Nid yw'n awyddus i dderbyn mwy o gyfrifoldebau, ond y mae am weld cryfhau'r elfen Gymreig ar y Cyngor. Hydera y gall W. J. Gruffydd fynd i Aberteifi. Bydd D. Owen Evans yn brysur yn croesawu Ll[oyd] G[eorge] yn Rhydycolomennod. Hydera y bydd Ll[oyd] G[eorge] yn gadael brynhawn Iau i ddychwelyd i Gricieth. Mae Cyngor yr Amgueddfa yn awyddus iawn i roi terfyn ar achos [Iorwerth] Peate, sy'n awgrymu bod yr aelodau yn barod i gynnig ei swydd yn ôl yn llawn iddo.

D. O. Roberts, Aberdâr,

Mae'n gwerthfawrogi'r anogaeth a roddodd W. J. Gruffydd drwy gyfrwng ei nodiadau golygyddol yn Y Llenor. Cyfeiriodd at sylwadau W. J. Gruffydd yn ei adroddiad blynyddol i'r Undeb Athrawon Cymreig. Yr oedd arwyddion cryf o ymddeffro ac o ymwybod cenedlaethol yno. Cyhudda'r Western Mail o wneud cyhuddiadau annheg yn erbyn W. J. Gruffydd bob tro y bydd yn siarad ar lwyfan. Mae'n ei annog i beidio â rhoi'r gorau i'r Llenor.

D. Morgan Lewis, Aberystwyth,

Atgofion am John Morris-Jones ym Mangor. Buwyd yn astudio fersiwn Gwenogvryn Evans o'r Llyfr Coch. Cafodd ei eni yn agos i gartref George Owen, Henllys. Mae'n dadlau dros estyn cefnogaeth i nodweddion Cymraeg emynwyr y ddeunawfed ganrif. Dibrisir y Gymraeg hon oherwydd ei gwendidau gan golli golwg ar ei rhagoriaethau. Mynd ymlaen i drafod mydryddiaeth emynau Williams. Un o broblemau addysg gyfoes yw sut y mae athrawon i ddiogelu elfennau gorau addysg yr aelwyd a'r capel mewn cytgord bywydol a'r addysg fwy newydd a dieithr.

D. Llewelyn Williams, Hen Golwyn,

Ysgrifennu i ddweud iddo fwynhau gwrando ar sgwrs W. J. Gruffydd, 'Beth a ddaeth o Lanfaches?' ar y radio y prynhawn cynt. Trafodwyd y pwnc mewn modd gonest ac amhleidiol. Canlyniad ei sgwrs fydd dwyn y pedwar enwad yn nes at ei gilydd. Gellir uno am fod yr enwadau yn cychwyn o'r un man. Mae'r clawdd terfyn rhwng yr enwadau wedi diflannu. Mae'n pwyso ar W. J. Gruffydd i gymryd ei le fel arweinydd yng Nghymru. Nid yw arweinwyr y Blaid Genedlaethol yn apelio at Ymneilltuwyr.

D. Llewelyn Williams, Hen Golwyn,

Adrodd hanes bredddwyd gas. Meddyliai am arweinwyr Cymru ac yna ymddangosodd offeiriad Catholig o'i flaen. Dywedodd wrtho fod arweinydd y Cymry yn Gatholig. Atebodd mai W. J. Gruffydd a gyfrifid yn fwyaf ym mywyd Cymru a'i fod yn Annibynnwr o'r Annibynwyr. Atebodd yr offeiriad mai Catholig oedd W. J. Gruffydd a'i fod yn gwneud Catholig ardderchog. Cafodd fraw a deffro'n chwys a deall mai breuddwyd oedd. Mae'r Catholigion yn rhy gryf yng Nghymru eisoes. Trueni na allai W. J. Gruffydd arwain Ymneilltuaeth yng Nghymru, dyna'r gallu cryfaf yng Nghymru o hyd. Nid oes na 'Hiraethog' na Thomas Gee i arwain Cymru.

D. Llewelyn Williams, Hen Golwyn,

Hydera y bydd W. J. Gruffydd yn rhoi amlygrwydd i'w syniadau ar Anghydffurfiaeth yn Y Llenor. Mae'n gallu cofio'r cyfnod pan nad oedd dim ond y pulpud i'w gael i wyr ag addysg a oedd heb y modd i ymuno â'r galwedigaethau proffesiynol. Gwleidyddion politicaidd yn hytrach na phregethwyr oedd rhai fel Thomas Gee, 'Hiraethog' a M[ichael] D. Jones. Pan ddarfu am gyfnod y gwleidydd-bregethwr, cymerwyd eu lle gan ddynion fel Lloyd George, S. T. Evans, Ellis Griffith a Tom Ellis. Ofnau cyffredinol am ddyfodol Cymru a achosodd ei freuddwyd. Bu'r Blaid Genedlaethol o dan arweiniad [J. E.] Daniel a Saunders Lewis yn siom fawr. Cred fod yr Hen Gorff wedi ei drefnu'n ormodol. Y mae'r cyrff anghydffurfiol, er hynny, heb arweinydd. Nid yw'r Wasg yn arwain fel y gwnaeth yn amser Thomas Gee. Fe werthfawrogir nodiadau W. J. Gruffydd yn Y Llenor yn fawr iawn gan lawer.

D. Lleufer Thomas, Pontypridd,

Cydymdeimlo ag W. J. Gruffydd ar golli ei dad, am y trafferthion yngl?n â Selfridge ac am fethu â chael ei benodi'n brifathro yng Nghaerdydd. Hydera na fydd i hyn wanhau ei fraich yn y gwaith mawr y mae'n ei gyflawni dros Gymru.

D. L. Trefor Evans, Castellnewydd Emlyn,

Ychwanegiad at lythyr 293 uchod. Hwyrach bod dylanwad Philip James Bailey (1816-1902), tad y 'Spasmodic School' ar 'Islwyn'. Rhydd nifer o enghreifftiau i gymharu 'Storm' 'Islwyn' â 'Festus' Bailey (1839).

D. J. [Williams], Abergwaun,

Dymuno blwyddyn newydd dda iddo, yn enwedig gyda'r Llenor. Amgau stori fer. ['Y Cwpwrdd Tridarn', Y Llenor, cyf. XVIII (1939), tt. 9-18]. Bu ar ei lasog tra yn y carchar ond nad oedd cyfle yno iddo ei chofnodi. Os nad yw hi'n dderbyniol mae'n gofyn am ei chael yn ôl gan nad oes ganddo gopi arall ohoni. Mae'n gofyn hefyd am i W. J. Gruffydd ddychwelyd hanes y cwrcyn a gafodd ddwy flynedd ynghynt. Fe gaiff hwnnw ymddangos mewn casgliad o storïau yng nghyflawnder yr amser. 'Dyn bach fel Methusalah wyf i, a wnâi lawer o waith mewn llawer o amser'.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Mae'n falch fod cerdd George [M. LL.] Davies i ymddangos yn Y Llenor. Diolch i W. J. Gruffydd hefyd am ei lythyr caredig yn esbonio ei safbwynt yn fanylach. Mae'n ceisio cymod er mwyn osgoi dadl agored rhwng W. J. Gruffydd a Saunders [Lewis]. Byddai anghytundeb cyhoeddus yn drasiedi, er yn wledd wrth fodd calon gwyr Philistia. Anghytuno am ddamcaniaethau crefydd a gwleidyddiaeth y maent. Nid dadlau dros Gatholigiaeth y mae D. J. Williams ond ceisio rhoi ei lle i athrylith anghyffredin o rymus sy'n ceisio achub einioes y genedl. Nid oes gan D. J. Williams ragfarn gref yn erbyn Pabyddiaeth. Ni all y grefydd a gadwodd wareiddiad Ewrop yn fyw am bymtheg canrif fod yn ddrwg i gyd. Cred ei fod yn deall tipyn ar W. J. Gruffydd ac ar Saunders Lewis. Onid oes modd iddynt gyfarfod i anghytuno'n breifat er mwyn medru cytuno i gyd-arwain Cymru yn yr argyfwng presennol. Ni fedrai Saunders Lewis fyw hanner awr yn y Gymru sy'n annwyl iddo ef ac W. J. Gruffydd. Mewn theori y mae Saunders Lewis yn werinwr, nid mewn calon ac ysbryd. Yn hynny o beth y mae'n debyg iawn i Parnell. Nid yw'n credu fod W. J. Gruffydd yn gywir wrth honni bod Saunders Lewis yn ddilynwr yr Action Française. Mae'n ei atgoffa o adolygiad Saunders Lewis ar ddyddlyfr pythefnos [W. Ambrose] Bebb, lle dywedodd ei fod yn synnu fod Cymro fel Bebb yn gallu llyncu'r Action Française yn gwbl ddihalen. Mae gwraig D. J. Williams yn cytuno â W. J. Gruffydd yngl?n â Chatholigiaeth. Mae D. J. Williams yn mentro anghytuno ag W. J. Gruffydd yngl?n ag ysgrifau 'Cwrs y Byd'. Cred mai hwy yw 'y pethau gorau a chywiraf o ddim a gyhoeddir ym Mhrydain'. Hoffai petai W. J. Gruffydd a Saunders Lewis yn setlo'u hanawsterau yng nghegin gefn y Red Lion yn hytrach nag ar y sgwâr o'i flaen.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Dymuno'n dda i W. J. Gruffydd yn y gynhadledd bwysig iawn yn Amwythig y dydd Gwener canlynol. Hoffai D. J. Williams fod yno ond nid yw hynny i fod. 'Y mae'r Quislingiaid yng Nghymru yn ddigon i dorri calon y diawl ei hunan ambell dro, yn enwedig y rhyw Galfinaidd ohonynt'. Mae'n anghytuno'n llwyr â W. J. Gruffydd ar fater y rhyfel gan gredu mai ef, D. J. Williams sy'n iawn, wrth gwrs. Nid yw ei edmygedd o ddewrder a didwylledd W. J. Gruffydd fymryn yn llai. Bydd y cyfarfod ddydd Gwener yn un o'r rhai mwyaf tyngedfennol yn hanes Cymru. Os gellir llwyddo i sicrhau ymddiriedaeth Cymru yn y gynhadledd er gwaethaf pob dallineb a llyfrdra, yna fe fydd gobaith i Gymru.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Ysgrifenna yn dilyn adroddiad yn y Western Mail am araith W. J. Gruffydd yn y Senedd y diwrnod blaenorol ar y Bil Addysg newydd. Rhagorol iawn. Yn ail, ysgrif ddiweddaraf Saunders Lewis yng 'Nghwrs y Byd' (19/1/44). Mae'r ddwy erthygl yn waith gweledydd a gwladweinydd mawr sydd â thynged Cymru yn pwyso'n drwm ar ei enaid. Mae'r sbonc o egni newydd a welwyd yn ddiweddar gan y Blaid Seneddol Gymreig yn fwy dyledus i sbardun cyson W. J. Gruffydd nag i ddim arall. A oes modd i'r seneddwyr Cymreig roi ystyriaeth ddifrifol i argymhellion gwerthfawr Y Faner? Dim ond ar berygl einioes y genedl y gellir anwybyddu'r fath faterion. Un o'r pethau tristaf oll i lawer yw nad yw Saunders Lewis a W. J. Gruffydd yn yr un gwersyll. Diolch iddo am ei eiriau hael i Storïau'r Tir Coch yn Y Llenor.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd fe'i cafodd ef yn nhy Wil Ifan ym Mhen-y-bont [ar Ogwr]. Mae'n gweld yr anhawster o ysgrifennu llythyr i'r Wasg ar ran Saunders [Lewis] ac yntau. Byddai absenoldeb enwau gwyr amlwg yn adrannau Cymraeg y Brifysgol yn tynnu cryn dipyn oddi wrth rym y neges. Synnodd weld enw Dr Parry-Williams ymhlith y gwyr gochelgar - nid cachgi mohono ef. Mae mor gadarn â neb yng Nghymru dros yr hyn y cred ynddo. Y mae hefyd yn aelod o'r Blaid. Clywodd Cassie Davies yn dweud ei fod yn gwbl gefnogol i losgi'r Ysgol Fomio. Ond ni chafodd D. J. Williams air ganddo ar y mater er hynny. Bu'n gyfaill gwerthfawr bob amser. Mae Mr Tim Lewis o'u plaid hefyd er na chafodd air ganddo yntau. Yn yr Old Bailey y dydd o'r blaen yr oedd y cyfan wedi ei drefnu gan y tri barnwr ymlaen llaw. Gwnaeth Norman Birkett araith wych drostynt yn erbyn symud lle'r prawf. Ond hynny a benderfynwyd. Bwriad D. J. Williams yw peidio â dadlau ei achos a thrwy hynny wrthod cydnabod hawl rheithwyr estron i eistedd mewn barn arno. Am y cwrcyn y mae croeso i W. J. Gruffydd gadw'r stori ar gyfer rhifyn y Pasg o'r Llenor, os na fydd ei sawr yn rhy gryf!.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Mae'n amgau cân oddi wrth George M. Ll. Davies, cân sy'n gwbl nodweddiadol ohono. ['Heddwch', Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 172-3]. Mae'n methu â chytuno â rhai o sylwadau diweddar W. J. Gruffydd yngl?n â'r rhyfel. Mae hefyd yn methu cytuno â Saunders [Lewis] weithiau er cymaint ei edmygedd ohono. Dim ond gwahaniaeth graddau sydd yna rhwng totalitariaeth Hitler a thotalitariaeth Seisnig. Os oes rhaid i D. J. Williams ufuddhau i Churchill a'i debyg, yna y mae popeth y credodd ynddo erioed ac y ceisiodd fod yn ffyddlon iddo wedi bod yn gyfeiliornus. Mae'n eironig fod W. J. Gruffydd yn gofyn gan Gymru gyflwyno ei holl ynni i gynorthwyo Prydain i gyflawni ei gwyrth. Mae gwraig D. J. Williams wedi ailgopïo cerdd George M. Ll. Davies gan fod yr ysgrifen yn anodd a'r papur yn wael yn y gwreiddiol.

D. J. Williams, Abergwaun,

Gofynnodd ysgrifennydd Cymrodorion Abergwaun iddo wahodd W. J. Gruffydd i roi darlith iddynt yn ystod y gaeaf dilynol. Bydd Eisteddfod Abergwaun wedi mynd heibio erbyn hynny a hoffent fanteisio ar olion y llanw cenedlaethol a adewir ar ei hôl. Mae wedi gwerthfawrogi sylwadau W. J. Gruffydd ar fywyd Cymru bob amser. Mae rhyw ddawn wyrthiol gan W. J. Gruffydd i dreiddio i mewn at graidd cydwybod y genedl. Awgrymir dyddiadau pwrpasol ar gyfer y ddarlith.

Canlyniadau 821 i 840 o 950